Diwrnod Rhyngwladol y Merched: erthygl gan ein gwestai y fentergar-wraig Paris Oomadath

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Busnesau technoleg
paris oomadath shearwater eco

Heddiw mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, a’r thema eleni yw #DewiswchHerio. Yma ym Manc Datblygu Cymru, rydym wedi ymrwymo i gefnogi merched busnes a thimau sy'n cael eu harwain gan ferched. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithlu amrywiol a'r budd a ddaw yn ei sgil i economi Cymru.

Roeddem am ddathlu cyflawniadau merched heddiw trwy rannu taith bersonol un o'r mentergarwyr benywaidd arloesol ac uchelgeisiol yr ydym wedi'u cefnogi: Paris Oomadath, cyfarwyddwr ShearWater Eco. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn cynhyrchu a dylunio ffibr planhigion, lansiodd Paris ei safle e-fasnach yn 2020 gyda chefnogaeth benthyciad micro o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Gan ddefnyddio ffibrau planhigion naturiol fel cywarch, sisal, bambŵ, banana, oren, aloe, rattan, jiwt, cacti, cnau coco a gwymon, mae Paris a'i thîm yn creu ystod o nwyddau defnyddwyr sy'n symud yn gyflym (NDSC) sy'n cael eu defnyddio o gwmpas y cartref - o'r papur toiled di-blastig rhataf yn y DU, i decstilau a chynhyrchion glanhau.

Yma, mae Paris yn siarad am ei llwybr mentergarwch a'r heriau y mae hi wedi'u hwynebu, ac mae hi'n cynnig cyngor ac awgrymiadau i ferched eraill sydd am ddechrau neu dyfu eu busnesau eu hunain:

 

Ar ôl mynychu Gŵyl Ffilm ‘Oceans’ ym Mhorthcawl yn 2018, cefais fy ysbrydoli i greu ShearWater Eco. Cwmni sy'n seiliedig yng Nghaerdydd ydy’ ni sy'n arloesi ym maes cynhyrchion cartref ffibr naturiol sy'n fforddiadwy ac yn dda i'r amgylchedd. Mae cyrraedd lle rydw i heddiw wedi bod yn daith anhygoel. Collais ddwy o'r merched pwysicaf yn fy mywyd yn ifanc iawn: fy mam pan oeddwn yn 7 oed a fy nain pan oeddwn yn 11 oed. Yn ddiweddarach collais fy unig chwaer pan oedd hi'n ddim ond 25 oed. Rwy'n dod o deulu anhygoel a gafodd ei daro gan drasiedi ar ôl trasiedi. Nid yw fy mywyd wedi bod yn hawdd; mewn gwirionedd pan fydda’ i’n edrych yn ôl weithiau rydw i'n ysgwyd fy mhen mewn anghrediniaeth fy mod i’n dal yn fyw, yn rhydd ac yn dal i allu cyflawni pwrpas fy mywyd.

Mor bell yn ôl ag y gallaf gofio, fi oedd yr un wahanol oedd yn sefyll allan, a ddaeth yn hyd yn oed fwy amlwg ar ôl i fy mam farw. Cefais fy mhiwsio gan ferched eraill a chael fy nhosturio gan gymdeithas. Cymerodd amser hir imi i mi wirioneddol ddod i adnabod fi fy hun a phwy ydw i a bu’n rhaid imi oddef llawer o wersi poenus er mwyn cael gwared ar y stigma a ‘osododd’ gymdeithas arna’i fel plentyn ifanc croen brown o Affrica heb fam. Yr hyn sydd wedi fy nghadw i fynd bob amser ydi cofio o ble yr ydw i wedi dod, safon y bobl wnaeth fy magu a’r cymynroddion na chawsant erioed y cyfle i'w gweld yn dod i'r amlwg. Rydw i'n hoffi credu, trwy ymddiried yn y gwerthoedd hynny, fod fy mhatriarchiaid wedi sicrhau y byddai eu gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf ac yn mynd ymlaen i greu byd gwell trwof i.

Rydw i wastad wedi cael cysylltiad ysbrydol â'r byd naturiol, fwyfwy felly i'r Ddaear na gydag unrhyw eiddo materol. Fe wnaeth gweld dinistr y blaned hardd hon a gawsom fel cymynrodd effeithio yn fawr iawn arna' i ac roeddwn yn gwybod bod angen i mi ddechrau adeiladu fy etifeddiaeth fy hun ac anrhydeddu rhoddion fy mhatriarchiaid ar yr un pryd. Trwy gydol taith fy mywyd hyd yn hyn, bu’n rhaid i mi ddysgu rhai gwersi hynod o galed, ac o beidio â chael fy rhieni i roi cysur ac arweiniad imi, fe wnes i wneud rhai dewisiadau trychinebus. Bellach, 'rwy'n gweld y creithiau fel gwersi ac yn eu cario gydag urddas ac anrhydedd oherwydd nad ydyn ni'n gallu rheoli'r hyn mae bywyd yn ei daflu atom ni. Yr hyn ryda’ ni yn gallu ei reoli ydi pwy ryda' ni yn ei ganiatáu i ni ein hunain fod a sut yr ydym yn dehongli'r gwersi hynny fel ein bod ni wirioneddol yn gallu bod yn ni ein hunain ac aros yn driw i'n nwydau, beth bynnag y bônt.

Bob bore rhoddir rhodd bywyd inni; byddwch yn ddiolchgar eich bod chi'n byw mewn byd anfeidrol gyda phosibiliadau anfeidrol. Cadwch y tân hwnnw yn llosgi y tu mewn i chi eich hun bob amser a gwnewch rywbeth a byddwch yn rhywbeth na welodd neb erioed o’r blaen. Cadwch agwedd gadarnhaol waeth pa mor anodd ydi pethau ar y pryd. Dim ond y chi a chi yn unig sy'n gwybod eich gwir botensial - peidiwch â gadael i eraill eich tynnu i lawr. Mae eu hymddygiad negyddol yn adlewyrchiad ohonyn nhw eu hunain a tydi hynny ddim yn berthnasol i chi. Meddyliwch amdanyn nhw fel heriau i wella chi eich hun a chymryd cyfrifoldeb dros eich bywyd eich hun. Nid yr hyn y mae diwylliant a chymdeithas yn ei ddweud amdanoch chi sy’n eich diffinio chi. Os anelwch chi am y sêr a methu fe fyddwch chi’n glanio ar y lleuad yr un fath yn union.

Peidiwch â bod ofn crio os oes raid, ond defnyddiwch y dagrau hynny i ddyfrio'r hadau rydych chi'n eu plannu heddiw, i dyfu'r digonedd yn eich gardd yfory. Mae gennych chi'r grym - peidiwch â gadael i unrhyw un, unrhyw amgylchiad, nac unrhyw drawma lunio pwy ydych chi. Yn hytrach na hynny, cymerwch bob profiad fel gwers i wella'ch hun a gweithio tuag at eich nodau. Mae'r gwersi hynny yno i ddangos i chi fod gennych y cryfder, y grym a dewrder aruthrol a tydi pethau ddim ond yn amhosib tan i chi eu gwneud. Dwi'n addo i chi, mi fydd yn werth chweil. Daliwch ati i ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi'n ceisio ei wneud, ail-werthuswch eich hun yn gyson a rhoi sylw i sut rydych chi'n cyffwrdd â phobl yn eich bywyd â chariad, gyda'ch geiriau a'ch gweithredoedd. Ar ddiwedd y dydd tydi faint o arian rydych chi'n ei ennill na pa mor enwog ydych chi yn bwysig. Mae'r amseroedd hyn yn galw am fentergarwyr i greu byd gwell. Y cyfan sy'n rhaid i ni ei wneud yw penderfynu beth i'w wneud hefo'r amser a roddir inni. Fy arwyddair mewn bywyd yw byw bob eiliad fel pe bai'n olaf i chi oherwydd tydi amser ddim yn aros yn llonydd i neb mewn gwirionedd.

Peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi; mae'n debyg mai dim ond rownd y gornel nesaf mae eich cyfle gorau chi. Cofiwch chwerthin, byddwch yn ffrind gorau i chi eich hun a chadwch eich pen yn uchel yn wyneb adfyd. Mae gennych chi'r potensial i greu byd gwell. Cofiwch, pan fydd un drws yn cau, y bydd un arall bob amser yn agor a'r Bydysawd ydi hwnnw, neu Duw, neu beth bynnag ‘rydych chi'n gredu ynddo, a’r neges ydi bod rhywbeth gwell yn aros amdanoch chi. Gwrandewch ar eich calon a daliwch ati. Yn anad dim, cofiwch garu chi eich hun a chofio eich bod chi'n deilwng. Peidiwch byth ag amau ​​hyn; rhain yw'r conglfeini ar gyfer adeiladu eich bywyd.

Defnyddiwch gynifer o adnoddau ag y gallwch gael gafael arnyn' nhw. Cofrestrwch ar gyfer popeth, siaradwch â mentergarwyr eraill a chadwch lygad barcud ar eich cystadleuwyr. Pam? Achos, popeth maen nhw'n ei wneud yn anghywir yw'r union bethau sydd angen i chi anelu at eu gwneud yn iawn. Mae Busnes Cymru a Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig gweminarau am ddim gyda'r ymgynghorwyr gorau; mae'r rhain wedi fy helpu i yn aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru yn fy marn i yn arwain y ffordd trwy weithredu deddfwriaeth fel yr Adduned Twf Gwyrdd a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n helpu mentergarwyr a busnesau newydd i weithio tuag at gael busnesau mwy cynaliadwy. Rwy’n argymell Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru a Bizfast Wales yn gry’ am eu cyfraniadau amhrisiadwy wrth gynorthwyo fy nghwmni. Fodd bynnag, y pwynt ola’ wrth gyflawni eich nodau yw y bydd angen i chi fuddsoddi eich cyfalaf eich hun; mae hyn yn rhan annatod o gynifer o ffyrdd i sicrhau eich bod chi'n gallu bod yn llwyddiannus a bod y bobl iawn yn eich cymryd o ddifri’.

Dewch i adnabod ShearWater Eco, eich Arwres Eco Gymreig: https://www.shearwatereco.com/our-story/what-we-do

Hefyd, edrychwch ar Astudiaeth achos SheArwater Eco i ganfod mwy.