Mae naw prosiect twristiaeth wedi sicrhau dros £3 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru yn ystod hanner cyntaf 2023/24 o Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru wrth i’r galw am gyllid ennill momentwm ar ôl Covid-19.
Ers ei lansio yn 2020, mae Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru wedi cefnogi 17 o wahanol gwmnïau, gyda £15.3 miliwn yn cynnwys £13.81 miliwn mewn benthyciadau, £1.1 miliwn o gyllid grant gan Croeso Cymru a chydfuddsoddiad o £6.7 miliwn.
Mae Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru, sydd wedi’i lansio’n benodol i gefnogi prosiectau twristiaeth unigryw sy’n ychwanegu gwerth at economïau gwledig a lleol Cymru, yn cynnig benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn gyda chyfnodau ad-dalu o hyd at 15 mlynedd.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae twristiaeth yn ased economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a dyna pam ein bod am dyfu twristiaeth er lles Cymru. Mae hyn yn golygu creu profiad gwyliau o’r radd flaenaf sy’n dod â manteision gwirioneddol i bobl a llefydd gydag atyniadau a llety sy’n diwallu anghenion ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.
“Rwy’n falch iawn bod y dull cydweithredol gan Fanc Datblygu Cymru a Croeso Cymru yn galluogi mwy o fusnesau twristiaeth i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi mewn prosiectau newydd a phresennol sy’n helpu i roi Cymru ar y map.”
Ymhlith y rhai sydd wedi elwa hyd yma mae Distyllfa Penderyn a Chlwb Golff Dinbych-y-pysgod ynghyd ag Innoflate, parc pontio’r cenedlaethau cyntaf Cymru sydd wedi agor ym Mharc Manwerthu Casnewydd ar Seven Stiles Avenue yng Nghasnewydd. Mae 27 o swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi cael eu creu a disgwylir 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn dilyn benthyciad o £350,000 gan y Banc Datblygu ochr yn ochr â grant o £80,000 gan Croeso Cymru.
John McGee yw Cadeirydd Innoflate. Dywedodd: “Mae gennym ni chwe safle yn yr Alban ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ymuno â marchnad Cymru gyda’r genhedlaeth nesaf o weithgareddau gwynt. Rydyn ni’n gweithio gyda’r gymuned, ysgolion, elusennau ac awdurdodau lleol i greu cyrchfan gyda chyfleusterau sy’n meithrin llesiant corfforol a meddyliol.
“Mae’r dull gweithredu cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a’r Banc Datblygu wedi gwneud y buddsoddiad yng Nghymru yn gynnig deniadol, gan ariannu ein costau sefydlu yn rhannol er mwyn i ni allu dechrau arni.”
Gyda phum plentyn ifanc, mae Chloe a Neal Priestley sydd wrth eu bodd â’r awyr agored yn gwireddu eu breuddwyd ar ôl agor safle Carafanio a Glampio gwledig Grassroots yn Waterston ger Aberdaugleddau. Prynwyd y safle 4.2 erw gyda benthyciad o £205,000 gan y Banc Datblygu. Mae cymysgedd o leiniau caled a lleiniau glaswellt ar gael gyda chyfleusterau ar y safle.
Dywedodd Chloe a Neal Prisetley: “Rydyn ni’n deithwyr brwd ac wrth ein bodd yn crwydro’r byd ond rydyn ni wedi sylweddoli dros y blynyddoedd pa mor hardd yw bro ein mebyd a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig. Roedd hi’n wyth mis hir o galedi i wireddu ein breuddwyd, ond gyda chymorth y Banc Datblygu, rydyn ni wedi gwneud hynny o’r diwedd. Ein cenhadaeth ar gyfer y maes gwersylla hwn yw gwneud yn siŵr bod ymwelwyr o bob oed yn cael arhosiad fforddiadwy gyda ni ac yn mwynhau’r cefn gwlad o’n cwmpas.”
Mae’r prosiectau eraill a fydd yn elwa o’r cyllid yn cynnwys y bwyty Dylan’s sydd ar fin agor yng Nghonwy gyda benthyciad o £308,000 a grant o £77,000, gan greu bwyty a bar ar y Stryd Fawr gyda seddi ar gyfer 150 o westeion. Mae’r safle newydd yn ychwanegol at dri bwyty presennol ym Mhorthaethwy, Cricieth a Llandudno a siopau manwerthu yng Nghonwy a Phorthaethwy.
Mae’r Cyfarwyddwyr Robin Hodgson a David Evans yn falch o fod wedi cael eu henwi’n Hyrwyddwyr Bwyd a Diod Cymru yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023. Dywedodd David: “Mae Gogledd Cymru yn gyrchfan i dwristiaid yn fyd-eang ac mae gennym stryd fawr fywiog yma yng Nghonwy. Fel Hyrwyddwyr Bwyd a Diod Cymru ar gyfer 2023, rydyn ni’n falch iawn o fod yn geidwaid yr adeilad gwych hwn ac o’i ddiogelu am flynyddoedd i ddod, gan werthu cynnyrch lleol a chynnal digwyddiadau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau.
“Mae’r cyllid gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod wedi gallu agor ein pedwerydd bwyty a pharhau â’n cenhadaeth o ddathlu cynnyrch lleol, cymeriad a harddwch naturiol Gogledd Cymru.”
Mae Gwesty Cwm Elan yn Rhaeadr Gwy, sydd wedi’i enwi gan yr Independent fel ‘un o’r gwestai mwyaf cŵl yn y DU’, wedi cael ei adnewyddu gyda benthyciad o £200,000 gan y Banc Datblygu. Prynodd y cwpl priod, Lyn a Rachel Morgan, y gwesty drwy eu busnes presennol, Lyn Morgan Furnishings. Maen nhw bellach wedi adnewyddu’r ystafelloedd gwely, gan greu bwyty ar gyfer 60 o bobl, wedi ychwanegu paneli solar ac wedi integreiddio soffas a chadeiriau pwrpasol Lyn Morgan Furnishings.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Lyn Morgan: “Mae Cwm Elan yn gyrchfan y mae’n rhaid ymweld ag ef ac rydyn ni yn y lleoliad perffaith i gael mynediad at yr holl atyniadau yn yr ardal hon o harddwch eithriadol. Mae’r cyllid gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod wedi gallu cwblhau’r gwaith adnewyddu ac anadlu bywyd newydd i’r gwesty hyfryd hwn, gan ddenu mwy o ymwelwyr i’n hardal leol.”
Mae Clare Sullivan yn Rheolwr Rhanbarthol gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae’r sector twristiaeth yn ôl ar y trywydd iawn ar ôl Covid ac rydyn ni’n bendant yn mynd o nerth i nerth gyda’r gronfa bwrpasol hon yn gallu ateb y galw gan y sector. Mae ein gallu i gynnig grantiau ochr yn ochr â benthyciadau hefyd yn golygu bod mwy o fusnesau’n gallu elwa ac rydyn ni’n cefnogi’r broses o drosglwyddo’r sector twristiaeth o fod yn ddibynnol ar grantiau i fod yn fasnachol.
“Mae hyblygrwydd y gronfa’n golygu y gallwn gefnogi prosiectau penodol a fydd o fudd i’n heconomïau lleol a gwledig drwy ddefnyddio arian cyhoeddus lle gall wneud gwahaniaeth go iawn ac ychwanegu at y cyfleusterau twristiaeth sydd gan Gymru i’w cynnig. Mae hyn yn golygu y gall buddsoddiadau strategol fel Distyllfa Penderyn gael gafael ar becyn cyllido sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad sylweddol at enw da Cymru fel cyrchfan bywiog y mae’n rhaid ymweld ag ef tra bod prosiectau llai fel datblygiad Clwb Golff Dinbych-y-pysgod o fudd gwirioneddol i economïau lleol a gwledig. Mae’n ymwneud ag ychwanegu gwerth a gwneud popeth o fewn ein gallu i roi Cymru ar y map twristiaeth byd-eang. Mae’r neges yn syml – os ydych chi eisiau buddsoddi yn y sector twristiaeth yng Nghymru, dewch i siarad â ni.”
Mae Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru, sy’n werth £50 miliwn, yn cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gael gyda chyfnodau ad-dalu o 10 – 15 mlynedd ar gyfer prosiectau twristiaeth unigryw sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac yn dangos ymrwymiad i’r Contract Economaidd.