Mae hi wedi bod yn amser prysur i'r Banc Datblygu Cymru sydd wedi cefnogi 82 o fusnesau yng Ngogledd Cymru gyda benthyciadau a buddsoddiadau ers iddo gael ei lansio ym mis Hydref 2017.
Gyda'i bencadlys newydd yn Wrecsam, gall y banc datblygu ganolbwyntio'n agosach ar anghenion busnesau Gogledd Cymru.
Ac yn wir mae'r 82 o fusnesau y mae o wedi eu helpu yma yn ffurfio bron i chwarter o'r 344 ar hyd a lled Cymru sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Banc. Mewn termau ariannol, mae'r banc datblygu wedi cael effaith o £34.3m ar yr economi leol, buddsoddodd £15.6m o gronfeydd uniongyrchol ac fe ysgogodd drosoliad o £18.7 miliwn bellach o gyllid sector preifat
Y tu ôl i'r ffigurau moel hynny mae effaith go iawn ar fywydau pobl. Rhyngddynt, mae'r 82 busnes yng Ngogledd Cymru wedi gallu creu neu ddiogelu cyfanswm o 741 o swyddi ar draws y rhanbarth mewn nifer o ddiwydiannau gan gynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu a lletygarwch.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, buddsoddodd y Banc Datblygu 24% yn fwy na wnaeth ei ragflaenydd Cyllid Cymru yn ystod ei flwyddyn olaf, ar gyfer Cymru gyfan. Er mwyn ei helpu i gyflawni'r lefel uwch hon o gefnogaeth ar gyfer busnesau yng Nghymru, mae'r Banc Datblygu wedi recriwtio aelodau newydd o staff ar draws ei holl swyddfeydd. Bellach mae 27 wedi eu lleoli ym mhencadlys Wrecsam, ac mae 17 ohonynt wedi ymuno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yr hyn sy'n arbennig o bwysig i fusnesau Gogledd Cymru yw'r timau buddsoddi, ac mae wyth aelod newydd wedi ymuno ers Hydref 2017. Ac mae'r recriwtio yn dal i barhau, gyda phum swydd wag, gan gynnwys swyddi yn y timau portffolio a mentrau technoleg.
Mae'r banc datblygu yn cefnogi busnesau ym mhob sector a rhanbarth ac un sector arbennig o bwysig sydd wedi elwa o gefnogaeth y Banc Datblygu yng Nghymru yw twristiaeth a hamdden. Mae bron i 100 o fusnesau yn y diwydiannau twristiaeth, lletygarwch a gweithgareddau hamdden wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y banc datblygu yn y rhanbarth hyd yn hyn, gan greu effaith o bron i £15m.
Efallai nad yw hyn yn syndod efallai, gan ei fod yn adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth a gweithgareddau hamdden i economi'r rhanbarth. Wedi'r cwbl mae'r rhanbarth hwn yn un sy'n ymfalchïo yn harddwch naturiol Eryri, y llinellau zip hiraf a chyflymaf yn Ewrop a chestyll mwyaf enwog Cymru - Caernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares - yn ogystal â threfi a chyrchfannau hanesyddol Conwy, Llandudno a Llangollen.
Un cwmni sydd wedi elwa o gefnogaeth Banc Datblygu Cymru yw Safe and Sound Outdoors, cwmni addysg awyr agored sy'n seiliedig yn Stryd y Bont, Llangollen. Mae'r cwmni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau antur awyr agored, gan gynnwys rafftio dŵr gwyn, cerdded ceunentydd, dringo creigiau a bygod afon, yn ogystal â phartion stag a phartion ieir a theithiau Dug Caeredin.
Roedd Safe and Sound Awyr Agored, a sefydlwyd gan Craig Forde yn 2007, eisiau symud i mewn i eiddo fel eu bod nhw eu hunain yn berchen arno. Prynwyd hen gangen HSBC ac mae benthyciad o £150,000 gan y banc datblygu wedi eu galluogi i adnewyddu ac adfer yr eiddo newydd, sydd bellach yn cynnwys saith ystafell wely i'w gosod, ystafelloedd dosbarth pwrpasol, siop goffi a chanolfan awyr agored gydag ystafelloedd newid, cawodydd a llefydd storio.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Craig Forde: "Roedd yn esblygiad naturiol ein bod ni eisiau bod yn berchen ar ein safle ein hunain gyda'r lle i ddarparu llety i westeion, felly roeddem wrth ein bodd pawn gawsom y cyfle i brynu hen gangen o’r HSBC. Mae ein cartref newydd wedi'i leoli'n berffaith ochr yn ochr â'r Afon Dyfrdwy ac erbyn hyn rydym bellach yn gallu cynnig llety ar y safle.
"Mae'r arian cyllido gan y Banc Datblygu wedi gwneud byd o wahaniaeth; ni allem fod wedi cwblhau'r gwaith adnewyddu na chreu'r gofod newydd heb y cymorth ganddyn nhw. Mae eu hymagwedd hyblyg, y ffaith eu bod yn gwneud penderfyniadau cyflym a'u cefnogaeth ragweithiol yn golygu ein bod ni bellach yn barod ar gyfer y cam nesaf ar ein taith, o gwrdd â rhagori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid. Gyda chymorth ein hadeiladwyr, G Construction a'n dylunydd Hannah o Rosehip ac Ink rydym wedi gwireddu ein breuddwydion."
Chris Hayward yw Swyddog Buddsoddi'r Banc Datblygu a drefnodd y benthyciad ar gyfer Safe and Sound Outdoors. Gan ddisgrifio Gogledd Cymru fel "prif ddinas twristiaeth antur Ewrop", ychwanegodd: "Mae hon yn sector cyffrous sy'n cynnig potensial gwych, a dyna pam y gwnaethom gefnogi Safe and Sound Outdoors. Mae'r cwmni wedi perfformio'n dda dros y blynyddoedd diwethaf gyda chynnydd cyson mewn gwerthiant ac elw.
"Bydd ein harian cyllido yn galluogi twf pellach nawr yn sgil adnewyddu eiddo sy'n addas ar gyfer y pwrpas ac yn gallu denu mwy o fusnesau."
Mae Rhian Jones yn Swyddog Portffolio sydd newydd gael ei recriwtio yn y rhanbarth, a’i chylch gorchwyl hi yw cefnogi busnesau ar ôl iddynt gael yr arian cyllido cychwynnol: "Yn y banc datblygu, rydym yn hoffi gweithio gyda'n cwsmeriaid dros gyfnod hirdymor er mwyn darparu’r gefnogaeth barhaus a fydd yn eu helpu nhw i gryfhau a thyfu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Craig yn ystod y misoedd nesaf ar ei brosiect uchelgeisiol.
"Trwy adeiladu perthnasau ystyrlon a dod i ddeall busnes y cwsmer, gallwn gyflwyno cymorth ychwanegol iddynt."
Weithiau mae busnes sydd newydd ddechrau angen ychydig o gefnogaeth i'w helpu ar ei ffordd. Ac felly yr oedd hi gyda Chanolfan Ddringo'r Boathouse yn Llandudno, a sicrhaodd fuddsoddiad o £50,000 gan y banc datblygu ynghyd â £25,000 gan y sylfaenydd a buddsoddwr preifat arall i adeiladu wal ddringo. Mae'r arian cyllido hwn wedi helpu i ariannu adnewyddiadau pellach hefyd yn y ganolfan ac mae'r sylfaenydd Andrew Sutcliffe yn bwriadu i'r ganolfan fod yn gwbl agored i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2019.
Ar y pegwn arall, derbyniodd Robinwood, busnes addysg a gweithgaredd, fenthyciad o £1.5 miliwn gan y banc datblygu i'w helpu i ailddatblygu adeilad gwesty Fictoraidd segur yn eu canolfan weithgaredd newydd yn Cross Lanes, Wrecsam
Agorodd canolfan Maes-y-Nant eleni ac mae'n un o bedair canolfan Robinwood sydd yma ac acw o gwmpas y wlad. Yn y ganolfan, mae Robinwood yn cynnal cyrsiau gweithgaredd addysg ar gyfer plant ysgol gynradd rhwng 7 ac 11 oed. Mae pob cwrs tri diwrnod yn cynnwys 15 o weithgareddau, gan gynnwys canŵio, adeiladu rafft, saethyddiaeth, antur mewn ogofau, gwifren zip 80 metr a siglen enfawr.
Un peth sydd gan yr holl fusnesau hyn yn gyffredin yw'r rôl sydd ganddynt yn y rhanbarth, yn darparu swyddi ac yn pwmpio arian yn ôl i mewn i'w cymunedau lleol. Mae pob punt y mae'r banc datblygu yn ei fuddsoddi yn y gogledd yn helpu i gadw rhywun yn y rhanbarth mewn gwaith - ac mae'r busnesau y mae'n eu cefnogi yn darparu gwaith i fusnesau lleol eraill hefyd.
Mae hyn yn arbennig o amlwg gyda busnesau twristiaeth a hamdden. Mae'n debygol y bydd yr ymwelwyr sy'n dod i dreulio amser yn y rhanbarth hefyd yn gwario arian gyda busnesau lleol eraill, megis tafarndai, bwytai a siopau. Yn y modd hwn mae'r banc datblygu'n cyflawni ei nod o gryfhau Cymru a'i chymunedau trwy gryfhau ei busnesau.
Meddai Neil Maguinness, y Cyfarwyddwr Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol sydd wedi ei leoli ym Mhencadlys Wrecsam: "Mae Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn cynnwys ffocws ar gryfhau economïau rhanbarthol Cymru. Mae nifer y busnesau yr ydym wedi gallu eu cefnogi yn y rhanbarth hwn yn dyst i ba mor hygyrch yw ein gwasanaethau, boed hynny trwy gyfrwng y Gwirydd Cymhwyster ar-lein, neu trwy gysylltiad wyneb yn wyneb traddodiadol, y mae ein cwsmeriaid yn ei werthfawrogi gymaint.
"Rydym yn parhau i weld yr uchelgais a’r awydd am fuddsoddiad gan fusnesau yn y rhanbarth, gyda chefnogaeth cymuned fusnes fywiog yng ngogledd Cymru."