Entrepreneur Prydeinig Mawr yn arwain ar bryniant gan y rheolwyr o’r busnes recriwtio sy’n werth £26m

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
als managed services

Mae Steve Lanigan, sydd yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr NatWest, wedi arwain ar y broses o'r rheolwyr yn prynu cwmni (RhPC) yn ALS Managed Services sy'n seiliedig ym Mhont-y-pŵl, a hynny dim ond pedair blynedd ar ôl i'r  busnes gael ei sefydlu yn gyntaf yn 2014.

Roedd pecyn cyllido cyfunol o fwy na £1 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru a HSBC yn galluogi'r cyfranddalwyr mwyafrifol i ymadael y busnes, gyda'r banc datblygu yn cymryd cyfran ecwiti o 20% yn y cwmni newydd.

Datblygodd y partneriaid sefydlu ALS i mewn i gwmni recriwtio blaenllaw sy'n arbenigo mewn sectorau ailgylchu a warysau ar hyd a lled y DU, gyda sylfaen o gwsmeriaid sglodyn glas yn cynnwys prif gwmnïau ailgylchu a dosbarthu cenedlaethol.

Ar hyn o bryd mae trosiant ALS oddeutu £26 miliwn ac mae'n un o'r busnesau sy'n tyfu gyflymaf yn y sector. Mae'r strwythur rheoli cyfrifon cenedlaethol cadarn yn cynnwys 22 o staff parhaol sy'n rheoli dros 1,100 o weithwyr dros dro bob wythnos gan sicrhau bod gweithluoedd yn cydymffurfio'n gyfreithiol a'u bod yn gynhyrchiol ac yn ddibynadwy. Disgwylir i'r niferoedd hyn ddyblu dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae'r buddsoddiad gan y Banc Datblygu trwy gyfrwng Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru wedi galluogi'r cwmni i symud i swyddfa 3,500 troedfedd sgwâr newydd ym Mharc Busnes Ffordd Van Road, Caerffili, er mwyn cynyddu'r gwasanaeth a gynigir i gleientiaid ganddo a fydd yn cynnwys nifer o fentrau gwerth ychwanegol.

Meddai'r Prif Weithredwr, Steve Lanigan: "Mae'r gefnogaeth a'r arweiniad a gawsom gan y tîm ym Manc Datblygu Cymru wedi bod yn allweddol dros y 18 mis diwethaf. Mae eu profiad o ddarparu cyllid ar gyfer RhPC ynghyd â'u dealltwriaeth o'n nodau busnes yn golygu ein bod wedi dod o hyd i fuddsoddwr sydd wirioneddol yn rhannu ein cyffro a'n hangerdd. Mae hynny'n werth llawer mwy na dim ond yr arian.

"Rydym yn ffodus iawn i gael tîm mor dalentog yn gyrru ein twf yn y farchnad recriwtio yn y DU. Rydw i'n bersonol yn ddiolchgar iawn am eu gwaith caled a'u hymrwymiad dros y pedair blynedd ddiwethaf, a'u hesblygiad i fod yn arweinwyr ein busnes yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd ein stori ni yn ysbrydoli eraill i ddilyn eu breuddwydion, ymddiried y neu greddfau entrepreneuraidd a chymryd y naid ffydd honno sy'n ofynnol i sefydlu a thyfu busnes. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Banc Datblygu Cymru."

Meddai'r Uwch Swyddog Buddsoddi, Stephen Galvin: "Olyniaeth wedi'i gynllunio yw'r llwybr iawn tuag at ymadael yn llwyddiannus. Ar ôl gweithio gyda ni dros y 18 mis diwethaf, mae'r tîm yn ALS mewn gwirionedd wedi cyflawni enghraifft berffaith o drafodiad RhPC wedi'i gynllunio.

"Mae ymchwil marchnad wedi nodi 27,000 o asiantaethau recriwtio yn y DU gyda'r sector yn cael ei ddylanwadu'n drwm iawn gan fusnesau stryd fawr sy'n gweithio mewn lleoliadau daearyddol penodol. Mae ALS wedi gwahaniaethu eu hunain yn  llwyddiannus trwy gynnig arbenigedd sector ar draws gweithrediadau aml-safle mewn marchnad sy'n cael ei chydnabod fel un sy'n bwysig i ymrwymiad y DU tuag at ynni adnewyddadwy. Felly mae'r potensial twf yn sylweddol.

"Ond, yn y pen draw, busnes pobl yw hwn. Fel Prif Weithredwr, mae Steve Lanigan wedi gweithio'n galed i adeiladu a chryfhau'r tîm rheoli yn barod ar gyfer y RhPC hwn. Mae eu harbenigedd, eu proffesiynoldeb a'u gyrfa yn y diwydiant yn drawiadol iawn, yn arbennig gan fod hwn yn fusnes mor ifanc. Mae eu hamcanion strategol yn gyson iawn â'n nodau buddsoddi ni ac felly mae ALS cydweddu'n union gydag amcanion Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru.

Daeth Steve Galvin i'r casgliad: "Hyd yma, rydym wedi buddsoddi dros £4.2 miliwn o Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru; gan greu neu ddiogelu 166 o swyddi. Byddwn yn awr yn rheoli'n buddsoddiad yn ALS er mwyn sicrhau bod y cwmni'n cyflawni ei weledigaeth a'i botensial twf. Wrth gwrs, rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan dimau rheoli eraill sy'n ystyried RhPC."

 

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr