Forth, busnes gofal iechyd technegol sydd wedi dechrau o'r newydd wedi sicrhau buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
forth with life

Forth, busnes gofal iechyd technegol sydd wedi dechrau o'r newydd wedi sicrhau buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae gwasanaeth olrhain biometrig arloesol, Forth, sy'n helpu pobl i lywio eu ffordd tuag at wella eu iechyd trwy ddefnyddio profion gwaed pigo bys syml yn y cartref, wedi sicrhau buddsoddiad newydd gan ei fuddsoddwr sefydliadol cyntaf.

Daeth y buddsoddiad newydd gan Fanc Datblygu Cymru, ynghyd â  grŵp o angylion o Angylion Buddsoddi Cymru a buddsoddwyr angel sy'n seiliedig yn ne-orllewin Lloegr, gan gynnwys Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo Medical.

Meddai Gulliford, a oedd yn fuddsoddwr cynnar yn y cwmni yn ystod ei gyfnod codi arian cyllido cyntaf ar Crowdcube yn 2017, sydd, ers hynny wedi ymuno â'r bwrdd: "Mae gen i berthynas â chwmnïau sy'n seiliedig ar dechnoleg sydd â chynigion arloesol ac aflonyddgar gyda chefnogaeth pobl wych. Mae Forth yn ticio'r blwch hwn ac mae gan y tîm rheoli hefyd yr egni, yr angerdd a'r agwedd benderfynol i lwyddo does ots be".

Mae'r busnes iechyd-dechnoleg yn gweithredu dau wasanaeth ar-lein Forth Life, gan ganolbwyntio ar les, a Forth Edge, sy'n canolbwyntio ar berfformiad dynol a hwn yw'r gwasanaeth cyntaf a'r unig un o'i fath sydd wedi cael ei gynllunio'n benodol ar gyfer athletwyr adloniadol a phroffesiynol.

Meddai'r Prif Weithredwr a'r cyd-sylfaenydd, Sarah Bolt: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau Banc Datblygu Cymru fel buddsoddwr. Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ein llwyfan technoleg ac yn recriwtio mwy o gwsmeriaid i'n gwasanaeth."

"Rydw i hefyd yn wreiddiol o Gaerdydd felly mae'n wych cael buddsoddiad yn y wlad lle mae fy nghartref, draw oddi wrth y gymuned fuddsoddi draddodiadol yn Llundain".

Meddai Dr Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda thîm mentrau technoleg Banc Datblygu Cymru: "Yn dilyn llwyddiant anhygoel Creo Medical, mae'n wych cael denu busnes cyffrous arall i Gymru a chyd-fuddsoddi eto gyda rhai o'r angylion a gefnogodd Creo o'r dechrau. Mae Sarah wedi adeiladu busnes gwych sy'n galluogi pobl i wneud y gorau o'u hiechyd eu hunain yn hawdd. Rydym wrth ein bodd yn croesawu'r busnes i'w swyddfeydd newydd yng Nghas-gwent."

Nod Forth yw rhoi mwy o wybodaeth i bobl ar iechyd mewnol eu corff, trwy fesur biomarcwyr allweddol ar gyfer iechyd da. "Rydyn ni'n cael gwybodaeth ar sut i wella ein hiechyd bob dydd, ond ychydig iawn wyddom ni am gyflwr ein hiechyd mewnol, be' sy'n gweithio orau i'n biocemeg unigol neu os yw ein gweithredoedd yn helpu o gwbl i wella ein lles," ychwanegodd Bolt.

Yn seiliedig ym Mryste yn wreiddiol, sicrhawyd rownd fuddsoddi gyntaf Forth yn y gwanwyn 2017 trwy lwyfan torf ariannu, Crowdcube. Mae tîm Forth hefyd yn aelodau o gyflymydd technoleg SetSquared sydd wedi eu lleoli ym Mryste ac fe'i hariennir gan Brifysgolion Bath, Bryste ac Exeter.

Yn dilyn buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru, mae'r cwmni bellach wedi symud ar draws Aber Hafren i'w sylfaen newydd yng Nghas-gwent, Cymru.