Gof Poplars Forge yn symud i leoliad mawreddog

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
poplars forge

Mae busnes gwaith haearn traddodiadol yn paratoi i symud eiddo a gwella cynhyrchiant yn ogystal â dysgu'r genhedlaeth nesaf am ofaint diolch i fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Hwn fydd yr ail dro i Poplars Forge gael cyllid gan y banc datblygu yn dilyn benthyciad cyflym i brynu offer newydd yn 2018.

Mae'r cwmni'n gwneud giatiau haearn, rheiliau, balconïau a chanllawiau haearn o safon uchel o'u gweithdy yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Wedi iddynt gael y micro fenthyciad o £20,000, bydd y cwmni'n gallu prynu mwy o beiriannau a chynyddu eu cynhyrchiant.

Bydd y benthyciad hefyd yn cefnogi Poplars Forge wrth iddo symud i safle newydd ar Ystâd fawreddog Gladstone ym Mhenarlâg, wrth iddynt gymryd yr hen felin lifio drosodd yr haf hwn.

Mae'r safle newydd yn lleoliad addas ar gyfer y cwmni a dylai fod yn fwy deniadol i'w gwsmeriaid sy'n prynu ei gynnyrch pwrpasol, o ansawdd uchel. Mae digon o le ar y safle newydd i alluogi Poplars Forge i agor ysgol ofaint, lle bydd yn cynnig cyrsiau ar gyfer hyd at chwech o ofaint ar y tro.

Dywedodd Steven Gillard, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Poplar's Forge: “Mae Stad Gladstone yn le mawreddog iawn ac fel lleoliad, mae'n ganolfan berffaith i ni. Mae gennym rai cwsmeriaid proffil uchel ac rydym yn gwneud llawer o waith pwrpasol, felly bydd y lleoliad hwn yn rhoi profiad gwell i gwsmeriaid pan fyddant yn ymweld â ni.”

Sefydlodd Steven y busnes tua 25 mlynedd yn ôl. Roedd yn blatiwr ac yn wneuthurwr metel ar y pryd ac fe aeth ymlaen i ddysgu ei hun i fod yn of. Dechreuodd wneud cerfluniau ac fe ymgymerodd â chymhwyster fel gof o'r 17eg ganrif yng Ngholeg Celfyddydau Henffordd.

Mae'r cwmni'n arbenigo mewn gwaith gof â llaw a gwaith treftadaeth, ac mae ganddo ddau of cymwysedig, cwper cymwys (mae'r cwmni'n gwneud gwaith baril yn ogystal â gwaith haearn), a dau aelod arall o staff. Gall darn pwrpasol fel un o gerfluniau draig nodedig y cwmni olygu gwaith i ddau neu dri dyn am hyd at chwe wythnos i'w chwblhau. Er bod y rhan fwyaf o archebion y cwmni yn dod o'r DU fe ddaw ymholiadau o bob cwr o'r byd. Mae'r cwmni'n adnabyddus am ei gerfluniau o ddreigiau sy’n cael eu prynu gan gwsmeriaid o leoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia, Seland Newydd a de Ffrainc.

“Ein nod yw dylunio popeth gyda mewnbwn ein cleientiaid; fodd bynnag, yr hyn rydym yn ei ganfod yw nad ydyn nhw wastad yn gwybod beth maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd nes iddyn nhw ddod yma i weld drostynt eu hunain beth rydyn ni'n ei gynhyrchu. Fe fydd yn braf cael eu croesawu i'r safle newydd” meddai Steven.

Mae Steven yn bwriadu troi eu gwefan bresennol yn safle e-fasnach i'w gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i gwsmeriaid osod eu harchebion.

“Rydym yn ffodus o fod mewn sefyllfa lle gallwn ddewis pa waith yr ydym am eu cymryd ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi ein cwsmeriaid lleol. Mae rhai pobl oedrannus yn dod i mewn gyda phethau sydd angen eu trwsio ac rydym yn fwy na hapus i helpu,” meddai Steven.

Roedd Steven yn falch o'r gefnogaeth a gafodd gan y banc datblygu wrth gael gafael ar yr arian: “Pan oedd angen cyllid ychwanegol arnom, y banc datblygu oedd y lle cyntaf yr aethom ni. Roeddent wedi bod mor dda yn ein cynorthwyo yn y gorffennol ac y tro hwn fe wnaethant egluro'r meini prawf yr oedd yn rhaid i ni eu bodloni ac fe lifodd popeth yn esmwyth.”

Dywedodd Donna Strohmeyer, Swyddog Buddsoddi Micro Fenthyciadau gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn gwybod y gall pethau newid yn gyflym iawn mewn busnes, felly mae galluogi busnesau i gael gafael ar gyllid yn gyflym fel y gallant ateb gofynion cwsmeriaid yn bwysig. Mae gan Poplars Forge sylfaen o gwsmeriaid byd-eang sy'n parhau i dyfu wrth i’w enw gael ei ledaenu wrth i bobl siarad gyda'i gilydd. Mae'r symudiad hwn i eiddo newydd yn caniatáu iddynt gwrdd â'r galw hwnnw.

“Rydym hefyd yn falch o gefnogi cwmni sy'n cadw sgiliau traddodiadol fel gofaint yn fyw trwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf.”