Gwasanaeth cyfrifeg Mazuma yn prynu swyddfeydd newydd diolch i fenthyciad £135,000 gan Fanc Datblygu Cymru

Navid-Falatoori
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Mazuma

Mae Mazuma, sy’n seiliedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi prynu prydles ar gyfer swyddfeydd newydd wedi iddynt gael benthyciad o £135,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r cwmni wrthi'n adnewyddu'r safle ar hyn o bryd yn Nhŷ’r Ddraig, Pen-y-bont ar Ogwr a bydd yn symud yno ym mis Tachwedd 2018.

Cafodd ei sefydlu yn 2006 gan y cyfarwyddwyr, Sophie Hughes a Lucy Cohen, ac mae'r cwmni'n cynnig gwasanaethau cyfrifyddu a chadw cyfrifon ar-lein a phellennig ar gyfer busnesau bach ar hyd a lled y DU. Bydd y cytundeb hefyd yn caniatáu i'r cwmni hurio dau aelod newydd o staff, gan gynnyddu cyfanswm y gweithwyr i 28.

Meddai Lucy: "Mae gwasanaethau cadw llyfrau, cyfrifon a threth ar-lein yn bwysig iawn i fusnesau bach ar hyd a lled y DU ac rydym wedi gweld galw cynyddol a chyson am ein cynnyrch. Mae'r benthyciad hwn wedi helpu i sicrhau ein twf yn y dyfodol."

Yn flaenorol, mae Mazuma wedi derbyn cyllid gan Cyllid Cymru, rhagflaenydd y banc datblygu.

"Roedd argaeledd y brydles ar safle ein swyddfa newydd yn gyfle gwych i sicrhau sylfaen barhaol yn y dref ac i ehangu ein busnes cynyddol," esboniodd Sophie. "Roedd Nav a thîm y banc datblygu yn gallu ein cefnogi'n gyflym, gan ein galluogi i fanteisio'n llawn ar gyfle amserol. Roedd yn broses esmwyth, gyda'r banc datblygu'n gallu ein helpu'n gyflym pan na allai banciau eraill ein helpu ni."

Dywedodd y Swyddog Buddsoddi, Navid Falatoori, o Fanc Datblygu Cymru: "Mae Sophie a Lucy yn dîm gwych ac maent wedi adeiladu eu cwmni a'u gwasanaethau ers dros ddegawd. Rydym wedi gweithio gyda nhw o'r blaen ac rydym yn hapus i allu camu i mewn a chynnig cyfalaf datblygu pwysig iddynt pan oedd ei angen arnynt. Bydd y swyddfeydd newydd yn helpu i sicrhau sylfaen y cwmni yn y dyfodol, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar gynnig eu gwasanaethau i fwy o gwsmeriaid a chymryd staff ychwanegol yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. "

Daeth y benthyciad o Gronfa Busnes Cymru, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.

Cefnogodd Herbert R Thomas ym Mhen-y-bont ar Ogwr y banc datblygu gyda'r fargen.