Gweddnewid Costcutter Trefyclo yn helpu'r gymuned i ffynnu

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
costcutter

Mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi £200,000 i gefnogi pryniant prydles ac i adnewyddu'r siop Costcutter yn Nhrefyclo, Powys.

Wrth brynu'r brydles, mae'r perchennog newydd John Ewens, 67, yn dychwelyd at ei wreiddiau ddegawd ar ôl iddo reoli'r siop am y tro cyntaf.

Mae siop Trefyclo yn hynod o werthfawr i'r gymuned wledig o ychydig dros 3,000 o bobl. Mae'n rywle lle y gall cwsmeriaid lleol brynu eu bwydydd ffres a’u nwyddau cartref eraill heb deithio i'r archfarchnad agosaf, 16 milltir i ffwrdd.

Mae John yn credu y bydd y siop yn helpu i gadw ac i ddod â phobl newydd i'r stryd fawr: “Rydyn ni'n helpu i fwydo siopau eraill a Threfyclo yn ei chyfanrwydd. Mae'n bwysicach nag erioed cadw ein tref farchnad yn fyw ac yn ffynnu. Costcutter yw'r busnes mwyaf ar y stryd fawr yma ac mae'n denu llawer o gwsmeriaid i'r dref lle gallant ymweld â busnesau llai eraill.

“Mae'r cyllid hwn yn caniatáu i fy nghynlluniau gael eu gwireddu; prynu'r siop, ailaddurno'r tu allan, diweddaru'r brandio, amnewid yr offer sydd wedi dyddio a chael ei hadnewyddu'n llawn. Mae cwsmeriaid yn disgwyl profiad pan fyddant yn mynd i mewn i siop ac mae'n bwysig cadw'r un safon â'r archfarchnadoedd.”

Mae siopau cyfleus yng Nghymru yn darparu bron i 23,000 o swyddi i bobl leol. Mae'r buddsoddiad hwn yn helpu i ddiogelu 15 aelod o staff.

Dywedodd Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru: “Fe wnaethon ni fuddsoddi yn y busnes oherwydd ein bod ni’n hoffi rhesymeg John dros yr adnewyddiad, i ddenu mwy o siopwyr i’r stryd fawr, ac roedden ni eisiau bod yn rhan o hynny. Mae ganddo gyfoeth o brofiad o fod yn berchen ar a rheoli siopau o'r math hwn ac mae'n gyfarwydd â changen Trefyclo ar ôl rheoli'r siop ddiwedd y 2000au. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r siop yn datblygu ac yn helpu Trefyclo i ffynnu.”

Cyflwynwyd John i'r Banc Datblygu gan Christie Finance.

Meddai John: “Roedd y Banc Datblygu a Christie Finance yn hawdd iawn i weithio â nhw ac roedd y broses esmwyth yn caniatáu i ni ddechrau ar y gwaith adnewyddu ar unwaith. Fe wnaethant edrych ar fy nghynlluniau mewn ffordd wahanol a gweld y darlun ehangach.”

Dywedodd Lawrence Roberts, Ymgynghorydd Cyllid yn Christie Finance: “Ar ôl cwrdd â John, roedd yn amlwg bod ganddo’r profiad a’r angerdd i ailymuno â’r farchnad, yn enwedig yn siop Trefyclo lle mae ganddo lawer o hanes ynghlwm â hi. Yn Christie Finance, rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau'r cyllid gorau a'r mwyaf cystadleuol i'n cleientiaid.

“I ddechrau, rydym yn paru’r cleient â benthyciwr neu fanc a all, yn gyntaf, roi’r cyllid sy'n angenrheidiol ac yn ail, bod yr un mor angerddol â’r cleient ynglŷn â’r pryniant. Roedd yn bleser gweithio gyda John a Chris trwy gydol y pryniant hwn.”

Mae'r buddsoddiad wedi dod o Gronfa Busnes Cymru a sefydlwyd i gefnogi busnesau sydd gan lai na 250 o weithwyr, wedi'u lleoli yng Nghymru neu'n barod i symud yma.