Hwb gwerth £5.6 miliwn i’r farchnad eiddo yng nghanolbarth a gorllewin Cymru

Alwyn-Thomas
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
sotero

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddau safle eiddo preswyl newydd yn Sir Gaerfyrddin a Phowys i ddatblygu 33 o gartrefi newydd. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Haywood Homes wedi sicrhau buddsoddiad o £3 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru ar gyfer eu safle Llys Tirnant yn Nhycroes, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.

Mae’r safle 17 uned yn mynd yn ei flaen yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth ar Covid-19 gyda chymysgedd o dai tair a phedair ystafell wely, gan gynnwys nifer o fyngalos. Mae Llys Tirnant wedi’i leoli mewn pentref hyfryd gyda mynediad hawdd i'r M4. Gyda phrisiau’n dechrau ar £269,950, mae’r cartrefi newydd yn cyfuno dyluniad modern ac ynni-effeithlon, gofynion cynnal a chadw isel a gorffeniad o safon uchel.

Mae benthyciad cychwynnol o £1.3 miliwn ar gyfer y cwmni datblygu cartrefi newydd, Sotero Limited, wedi golygu bod modd dechrau ar y gwaith yn ‘Drovers Meadow’ ym Mronllys, Powys. Gyda chaniatâd i adeiladu 16 eiddo tair a phedair a phum ystafell wely, bydd Banc Datblygu Cymru yn rhyddhau £2.3 miliwn arall yn ystod y rhaglen adeiladu 14 mis.

Gyda phrisiau’n dechrau ar £350,000, Drovers Meadow yw prosiect diweddaraf busnes datblygu teuluol Sotero. Sonia Mancisidor yw Cyfarwyddwr y cwmni. Dywedodd: “Mae Drovers Meadow yn ddatblygiad arbennig iawn ym mhentref prydferth Bronllys sy’n denu diddordeb teuluoedd lleol a’r rheini sy’n dymuno adleoli i’r rhan brydferth hon o Gymru.

“Fel datblygwr, ansawdd yw popeth. Ein nod yw darparu cartrefi sy’n hyrwyddo lles corfforol a meddyliol yn ogystal â darparu buddsoddiad cadarn ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n dylunio gyda llygad ar anghenion teuluoedd ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.

“Mae Banc Datblygu Cymru yn rhannu ein hymrwymiad i weithio gyda’r gadwyn gyflenwi leol i ddarparu eiddo o ansawdd uchel y mae mawr ei angen, y gall perchnogion tai ei drysori am flynyddoedd i ddod. “

Dywedodd Mike Haywood o Haywood Homes: “Rydyn ni, fel Banc Datblygu Cymru, yn ymfalchïo mewn darparu’r lefel uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid a gwneud y broses mor hawdd â phosibl i’n cwsmeriaid. Yn sicr, mae’r tîm yn y Banc Datblygu wedi bod cystal â’n disgwyliadau ac rwy’n gobeithio y byddai ein cwsmeriaid yn dweud yr un peth amdanom ni.”

Ariennir Cronfa Eiddo Cymru yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Yn 2018/19, buddsoddodd Banc Datblygu Cymru £24 miliwn mewn cytundebau eiddo i ran-ariannu 320 o unedau tai ac 8,690 troedfedd sgwâr o ofod masnachol. Mae benthyciadau rhwng £150,000 a £4 miliwn am gyfnodau llai na 24 mis ar gael i ddatblygwyr bach a chanolig eu maint. Mae cyllid tymor byr o £250,000 hyd at £5 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau masnachol. Mae dros £137 miliwn ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Cronfa Safleoedd Segur o £40 miliwn i alluogi datblygwyr i ddatgloi prosiectau tai preswyl sydd ar stop.

Dywedodd Alwyn Thomas o Fanc Datblygu Cymru: “Mae datblygwyr lleol fel Haywood Homes a Sotero yn cael effaith gymdeithasol ac economaidd fawr, gan ddod â chartrefi, swyddi a chyfleoedd cyflenwi y mae mawr eu hangen i gymunedau lleol. Dyna pam fod cyllid gan Gronfa Eiddo Cymru mor bwysig, yn enwedig gan fod y gronfa’n ailgylchadwy sy’n golygu bod yr arian a geir o’r buddsoddiadau hyn yn cael ei ailfuddsoddi i alluogi’r buddsoddiad dilynol ar gyfer y ddau ddatblygwr.

“Mae’r naill ddatblygwr a'r llall yn cynnig cartrefi teuluol eithriadol gyda manyleb o’r safon uchaf. Rhoddir sylw trylwyr i bob manylyn, o’r gwaith dylunio ac adeiladu hyd at safon y fanyleb fewnol,  felly rydym yn disgwyl i’r galw fod yn gryf. Mae’r ddau safle’n disgwyl gallu croesawu ymwelwyr dros yr wythnosau nesaf yn unol â mesurau cadw pellter cymdeithasol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r ddau ddatblygwr wrth i’w safleoedd symud ymlaen.”