Jellagen, y cwmni Biotechnolegau Morol ar y trywydd iawn i gyflawni twf cyflym

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
jellagen

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Jellagen.

Mae Jellagen, arloeswr ym maes biotechnolegau morol yng Nghymru, wedi cau rownd gyllido o £3.8m dan arweiniad Newable Private Investing, Banc Datblygu Cymru, ac angylion buddsoddi. Mae Newable Private Investing yn un o brif grwpiau buddsoddi preifat y DG, gan roi cymorth i fusnesau newydd arloesol.

Fel gwneuthurwr masnachol cyntaf colagen o bysgod môr cenhedlaeth nesaf ar gyfer diwylliant celloedd a chymwysiadau meddygol - gan gynnwys gofal clwyfau a meddygaeth adfywio - bydd Jellagen yn defnyddio'r arian i gyflymu gwerthiant ei gynhyrchion yn y farchnad diwylliant celloedd a meddygaeth adfywio, tra'n tyfu ei dîm rheoli arbenigol a chryfhau ei bortffolio o eiddo deallusol.

Mae'r cyllid newydd yn adeiladu ar fuddsoddiad cynharach a sicrhawyd gan Newable, Angels in MedCity a Banc Datblygu Cymru, a helpodd Jellagen i lansio'r cyfleuster gweithgynhyrchu cyntaf o'i fath ar gyfer echdynnu colagen o bysgod môr ar ei safle yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, derbyniodd y cyfleuster hwn ardystiad ansawdd allweddol ISO 13485: 2016 sy'n nodi'r gofynion ar gyfer system rheoli ansawdd lle mae angen i sefydliad ddangos ei allu cyson i ddarparu dyfeisiau meddygol a gwasanaethau cysylltiedig sy'n cwrdd â gofynion rheoliadol y cwsmer a'r gofynion perthnasol.

Meddai'r Athro Andrew Mearns Spragg, Sefydlydd a Phrif Weithredwr Jellagen

"Mae pysgod mor yn ffynhonnell o golagen 'cenhedlaeth nesaf' sydd â photensial cymhwysedd amrywiol, gan gynnwys ymchwil yn y marchnadoedd meddygol, biotechnoleg a fferyllol. Oherwydd y llinell esblygol o golagen o bysgod môr, mae'n cynnig dewis gwerthfawr i'r farchnad o'i gymharu â ffynonellau mwy confensiynol.

"Mae cael ein lleoli yng Nghaerdydd, yn agos at arfordir Gorllewin Cymru, yn rhoi mantais unigryw i ni wrth ddatblygu'r math hwn o dechnoleg arloesol.

"Hoffwn ddiolch i'n holl fuddsoddwyr. Gyda'u cefnogaeth barhaus, mae ein golygon yn awr ar gyflymu gwerthiannau masnachol a thyfu ein tîm."

Ychwanegodd Anthony Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Newable Private Investing:

"Drwy ddefnyddio colagen o bysgod môr, mae Jellagen yn ymarfer dull gweithredu cynaliadwy tuag at y diwydiannau meddygol, fferyllol a biotechnoleg.

"Busnesau newydd cyffrous fel Jellagen sy'n rhoi hwb arloesi i economi'r DG ac rydym wrth ein bodd i'w cefnogi yn y rownd gyllido hon."

Ychwanegodd Carmine Circelli, Swyddog Buddsoddi gyda Mentrau Technoleg, Banc Datblygu Cymru:

"Mae Jellagen yn enghraifft wych o fusnes Cymreig cyffrous sy'n gwthio ffiniau technolegol. Mae'r arian cyllido hwn a'u hardystiad diweddar ill dau yn dangos bod gan y busnes botensial go iawn i fwrw ymlaen ymhellach yn y farchnad diwylliant celloedd.

"Mae cefnogi busnesau fel Jellagen wrth wraidd ein cenhadaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am eu llwyddiant yn y dyfodol."