Jöttnar yn sicrhau buddsoddiad o £400,000

Leanna-Davies
Rheolwr Datblygu Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
jottnar

Mae Jöttnar, y brand dringo a dillad sgïo wedi cau eu hail rownd o gyllid gyda buddsoddiad o £400,000 gan y Banc Datblygu Cymru, Venrex LLP a buddsoddwyr angel, gan gynnwys Paddy Byng, cyn-fuddsoddwr a Chyfarwyddwr Anweithredol (CAn) Rapha, a fydd hefyd yn ymuno â'r busnes fel Cyfarwyddwr Anweithredol.

Yn flaenorol bu Byng yn gyfrifol am farchnata Polo Ralph Lauren a Dunhill yn ogystal â bod yn Brif Weithredwr Smythson ac Asprey. Bydd yn helpu i arwain Jöttnar trwy eu cam datblygu nesaf, gan gynnwys ehangu ystod eu cynnyrch sy’n cynnwys dillad sgio technegol.

Sefydlwyd y busnes manwerthu ar-lein yng Nghaerdydd yn 2013 gan y cyn Filwyr Morwrol Brenhinol Tommy Kelly a Steve Howarth. Fel rhai sydd wedi bod yn fynyddwyr, dringwyr a sgiwyr gydol eu hoes, roedd y ddau ar ymarferiad yn y mynyddoedd yn Norwy yn ystod gaeaf ffyrnig yr Arctig pan gawsant eu hysbrydoli i lansio ystod o ddillad awyr agored technegol a fyddai'n diogelu pobl rhag tywydd eithafol, tra'n llwyddo i gipio purdeb a cheinder y Dirwedd Llychlynol.

Mae'r llinellau glân, y dyluniadau disgybledig, y grefftwaith, y dechnoleg a'r sylw sy'n cael ei roi i'r manylion yn nodweddion amlwg yn nillad Jöttnar sydd bellach yn ddewis dethol ymysg arweinwyr mynydd, timau achub mynydd, grwpiau teithiau, unedau milwrol arbenigol a dringwyr proffesiynol a sgiwyr ar hyd a lled y byd. Mae gwerthiant rhyngwladol trwy gyfrwng gwefan Jöttnar bellach yn cynrychioli dros 40% o'r busnes.

Mae cyn gapten Cymru, Sam Warburton, a'r actor Prydeinig, Henry Cavill, ymysg llu o enwau enwog sy'n gwisgo Jöttnar, gyda Gear Exposure yn disgrifio'r manwerthwr fel 'un o'r brandiau mwyaf cyffrous ar gyfer anturiaethau awyr agored caled o ddifri.'

Bydd y buddsoddiad ecwiti diweddaraf hwn yn helpu i ariannu twf y cwmni trwy gyfrwng ystod o gynnyrch ehangedig, gweithwyr ychwanegol a mwy o weithgarwch marchnata. Bydd hefyd yn galluogi'r cwmni i barhau i arloesi gyda thechnoleg y ffabrig, sydd, hyd yn hyn wedi gweld mathau o ddillad yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf i'r farchnad, fel siacedi inswledig plu gŵydd sy'n gallu gwrthsefyll dŵr a'r defnydd o wlân Yakiaid Himalayaidd sy’n feddal ac yn hynod o gynnes fel rhan o'r haenau sylfaenol. Mae'r datblygiad diweddaraf yn cynnwys lansiad pilen anadlu gwrth ddŵr, sef SKJOLDR ™, Jöttnar, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob un o'i siacedi cregyn. Mae hwn o wneuthuriad defnydd atal dŵr sydd ddwywaith mor gryf a'r ffabrig y mae'n ei disodli, ond mae o hefyd yn ysgafn ac fe ellir ei bacio. Mae'r ffaith bod y cwmni yn berchen ar weithgynhyrchu a chyflenwi ei ddeunydd diddos ei hun, yn rhoi symudoledd i'r cwmni a sicrwydd ansawdd, gyda llawer o'i frandiau cystadleuol yn dibynnu ar atebion oddi ar y silff a weithgynhyrchir gan drydydd parti.

Meddai'r cyd-sylfaenydd a'r Cyfarwyddwr Tommy Kelly: "Rydym yn ymdrechu i gael gweithgynhyrchiad o'r ansawdd uchaf; gan dorri cwys newydd gyda thechnolegau ffabrig ac adeiladwaith newydd. Trwy  ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cwsmer, rydym wedi gweithio'n galed i adeiladu'r brand tra'n parhau i gymhwyso ein hunain yn bersonol at y manylion bach. Rydym yn defnyddio'r offer ein hunain ac felly rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r manylion bach hyn.

"Rydyn ni bellach yn barod i gymryd y cam nesaf wrth ddatblygu ein cynnig, ac fe welwyd ehangiad o 40% ym maint yr ystod o gynnyrch a gynigiwn ac mae gennym ragor o weithwyr allweddol. Mae gwybodaeth a phrofiad cyfunedig y banc datblygu, Venrex a'n buddsoddwyr preifat wedi bod yn amhrisiadwy i ni. Mae cael tîm cynghori mor gryf ochr yn ochr â ni yn ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y ffordd sydd o'n blaen."

Dywedodd Leanna Davies o Fanc Datblygu Cymru: "Mae Tommy a Steve wedi datblygu enw da yn fyd-eang fel y brand i chwilio amdano ym maes dillad awyr agored technegol o ansawdd uchel a ddefnyddir gan rai o'r defnyddwyr sy'n mynnu'r gorau.

"Yn dilyn ein cefnogaeth gychwynnol, mae ein buddsoddiad ecwiti yn adlewyrchu'r ffaith ein bod yn credu ynddynt fel entrepreneuriaid a'u cynnyrch. Fel brand 'niche', mae ganddynt weledigaeth wych ond maen nhw angen help llaw i gyrraedd eu llawn botensial. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hwy ar gam nesaf eu taith."

Am ragor o wybodaeth ewch i weld gwefan Jöttnar: https://www.jottnar.com/uk neu cysylltwch â nhw drwy e-bost ar info@jottnar.com

Caiff Cronfa Busnes Cymru ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe'i cynlluniwyd i ddarparu benthyciadau busnes a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn.