Lansio cronfa £20 miliwn i gefnogi busnesau technoleg Cymru

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
coins

Mae Banc Datblygu Cymru wedi lansio Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru newydd sy'n werth £20 miliwn gyda hyd at £250,000 ar gael fesul rownd i gefnogi twf busnesau technoleg sy'n datblygu ar hyd a lled Cymru.

Mae'r gronfa fwy newydd hon yn disodli'r gronfa sbarduno wreiddiol sydd bellach wedi cael ei buddsoddi'n llawn, sydd wedi gwneud 45 o fuddsoddiadau mewn 41 o fusnesau technoleg newydd a chyfnod cynnar ers 2014. Fe wnaeth y gronfa o £7.5 miliwn ysgogi buddsoddiad preifat o £3.6 miliwn a chreu neu ddiogelu hyd at 570 swyddi. Mae dros hanner y busnesau a fydd yn elwa wedi eu lleoli yng Ngorllewin Cymru neu'r Cymoedd.

Yn gyfan gwbl, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £233 miliwn ychwanegol o gyllid ychwanegol i'r banc datblygu yn 2017/18 gan gynnwys £30 miliwn ychwanegol i'w fuddsoddi trwy gyfrwng Buddsoddi Hyblyg Cymru £100 miliwn a'r ychwanegiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol i Gronfa Busnes Cymru a'r Gronfa Eiddo. Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru gwerth £20 miliwn yw'r drydedd gronfa newydd sydd wedi cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf o'r dyraniad hwn, ynghyd â'r Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru newydd sy'n werth £8 miliwn a £40 miliwn ar gyfer y Gronfa Safleoedd Segur Newydd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
 
"Rydw i'n falch fy mod wedi sefydlu Banc Datblygu Cymru sydd, ochr yn ochr â Busnes Cymru, yn darparu'r gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau. Mae'r Banc Datblygu yn sicrhau bod yr ymrwymiad diweddaraf hwn o dros £200 miliwn o arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i yrru buddsoddiadau a fydd yn tyfu ein heconomi heddiw ac i'r dyfodol.

"Mae'r sector technoleg yn gynyddol bwysig i'n heconomi ehangach ac rwyf wedi ymrwymo i ddarparu busnesau technoleg yng Nghymru gyda'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ddechrau, ffynnu a thyfu. Mae Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru newydd y Banc Datblygu sy'n werth £20 miliwn yn rhan bwysig o'r gefnogaeth honno. Bydd yn helpu i gyflawni uchelgeisiau ein Cynllun Gweithredu Economaidd a bydd yn mynd i'r afael â bwlch gwirioneddol yn y farchnad trwy sicrhau bod cwmnïau technoleg hyfyw, newydd, cyfnod cynnar yn gallu manteisio ar y cyfalaf sydd ei angen arnynt i roi hwb i'w mentrau oddi ar y ddaear ac ar y trywydd tuag at ddyfodol llwyddiannus."

Mae Giles Thorley yn Brif Weithredwr ar y Banc Datblygu Cymru. Meddai: "Mae'r Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru newydd hon sy'n werth £20 miliwn dair gwaith maint y gronfa flaenorol gyda hyd at £250,000 ar gael yn awr i gefnogi twf busnesau technoleg sy'n datblygu ar hyd a lled Cymru. Dyma yn union beth sydd ei angen ar fusnesau technoleg cyfnod cynnar yng Nghymru.

"Gyda £550 miliwn mewn cronfeydd byw ar hyn o bryd, mae'n ymwneud â chael tanwydd yn y tanc i allu cyflawni dros Gymru. Mae'r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn rhoi mantais go iawn i fusnesau Cymru wrth i ni barhau â'n gwaith ym mhob rhanbarth. O Gas-gwent i Ferthyr Tudful, o Gaerfyrddin a Doc Penfro i Raeadr Gwy a Bangor, mae ein timau buddsoddi yn gweithio gyda busnesau lleol i gefnogi busnesau newydd a rhai sy'n tyfu i greu swyddi o safon uchel. Rydym yn gweithio'n galed tuag at gyflawni ein targed cyfredol o bum mlynedd i fuddsoddi £1 biliwn yn economi Cymru erbyn 2022."

Bydd y Gronfa Safleoedd Segur Cymru sy'n £40 miliwn yn cynorthwyo adeiladwyr bach a chanolig i ddatgloi safleoedd sy'n segur ac adeiladu mwy o dai ar hyd a lled Cymru. Gyda thymor ad-dalu o bedair blynedd, rhagwelir y caiff y gronfa ei hailgylchu bedair gwaith, gan ddarparu hyd at £160 miliwn ar gyfer busnesau bach a chanolig dros 17 mlynedd i'w helpu i adeiladu mwy o gartrefi ar hyd a lled Cymru.

Bydd y Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru £8 miliwn yn ysgogi buddsoddiad angylion busnes ar hyd a lled Cymru. Y gobaith yw y bydd y gronfa newydd yn cefnogi hyd at 80 o fusnesau a chreu a diogelu 375 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf trwy ddenu ac annog buddsoddiad angylion ar hyd a lled Cymru.