Mae 1st Choice Accident Repair Centre, un o gyfleusterau atgyweirio cerbydau modur mwyaf y DU, wedi cwblhau allbryniant rheoli (AllRh) a ariannwyd yn rhannol gan fuddsoddiad o £600,000 gan UK Steel Enterprise. Mae'r trafodiad yn nodi ymadawiad llwyddiannus i Fanc Datblygu Cymru wyth mlynedd yn union ar ôl cefnogi AllRh gwreiddiol y cwmni yn 2018.
Wedi'i leoli ar Heol Ipswich yng Nghaerdydd, mae 1st Choice wedi ehangu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys agor cyfleuster blaenllaw 30,204 troedfedd sgwâr yn 2022 wedi iddynt gael benthyciad o £975,000 gan y Banc Datblygu. Mae'r busnes bellach yn cyflogi 37 o bobl ac wedi tyfu i fod yn weithrediad gwerth £5 miliwn sy'n gwasanaethu yswirwyr, Gwneuthurwyr Offer Gwreiddiol (GOGwyr) a chwsmeriaid ledled y rhanbarth.
Mae'r AllRh newydd ei gwblhau yn gweld y Cadeirydd Gweithredol Mervyn Ham — a fu gynt yn Gadeirydd Anweithredol ac yn brif gynghorydd i'r fargen — yn arwain tîm rheoli cryfach sydd ag arbenigedd gweithredol a diwydiant dwfn. Mae'r strwythur yn cynnal parhad trwy gadw arweinydd sefydlu'r AllRh, Mike Summers, sy'n dod â dros 45 mlynedd o brofiad yn y sector ac sydd bellach yn Uwch Gynghorydd i'r Bwrdd tra’n cadw cyfran ecwiti.
Mae wyth o weithwyr yn dod yn gyfranddalwyr. Yn ymuno â Mervyn Ham a Mike Summers ar y Bwrdd mae Calum Young, rhan o dîm gwreiddiol yr AllRh 2018, ynghyd â Matthew Willecome, Joe Callaghan a Natalie Willecome. Mae pob un yn dod ag arbenigedd sylweddol mewn gweithrediadau atgyweirio cerbydau, perfformiad masnachol ac arweinyddiaeth sefydliadol.
Wrth wneud sylwadau ar y fargen, dywedodd Mervyn: “Mae 1st Choice yn gweithredu mewn sector sy’n wynebu pwysau sydd wedi’u dogfennu’n dda – costau atgyweirio cynyddol, technoleg cerbydau sy’n gynyddol gymhleth a’r angen am fuddsoddiad parhaus mewn sgiliau a safonau perfformiad. Mae’r busnes wedi gosod ei hun yn gyson ar flaen y gad o ran yr heriau hyn drwy fuddsoddi, llywodraethu cryf ac ymrwymiad i ragoriaeth atgyweirio o ansawdd uchel.
“Wyth mlynedd ar ôl allbryniant cyntaf y cwmni, mae carreg filltir heddiw yn arwydd o barhad, hyder a model perchnogaeth ehangach sydd wedi’i gynllunio i gefnogi cadernid a thwf hirdymor.
“Fel model perchnogaeth a rennir, mae’r fargen hon yn cyfuno’r ymgysylltiad a’r teyrngarwch a welir yn aml mewn cwmnïau sy’n eiddo i weithwyr â’r ffocws ar ddisgyblaeth a pherfformiad sy’n gysylltiedig yn gyffredin â strwythurau a arweinir gan ecwiti preifat.”
“Mae’r Banc Datblygu wedi bod yn bartner rhagorol dros yr wyth mlynedd diwethaf, gan ddarparu cyllid ecwiti, dyled ac eiddo sydd wedi helpu i yrru twf 1st Choice. Mae’r AllRh hwn yn cynrychioli’r bennod nesaf — sy’n gyfle i’r tîm rheoli a’n cyfranddalwyr sy’n weithwyr i adeiladu ar sylfeini cryf a symud y busnes ymlaen gydag uchelgais go iawn. Dechreuodd y rhan fwyaf o’r tîm fel prentisiaid, ac rydym bellach wedi ymrwymo’n llwyr i’w cefnogi fel perchnogion.”
Ychwanegodd Mark Halliday o Fanc Datblygu Cymru: “Mae ein perthynas â 1st Choice wedi para wyth mlynedd ac yn adlewyrchu ehangder llawn yr hyn y gall y Banc Datblygu ei gynnig — o ecwiti i ddyled a chyllid eiddo. Mae'r tîm wedi tyfu'r busnes i fod yn weithrediad sy'n arwain y farchnad , ac mae'r trafodiad hwn yn nodi ymadawiad cryf a llwyddiannus i ni. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi eu taith ac yn dymuno pob llwyddiant i'r tîm rheoli newydd wrth iddynt symud y busnes ymlaen.”
Dywedodd Michelle Noble, Rheolwr Ardal yn UKSE: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r allbryniant rheolwyr hwn yn y 1st Choice Accident Repair Centre. Mae'r tîm wedi dangos arweinyddiaeth gref, strategaeth twf glir ac ymrwymiad diysgog i wasanaeth o ansawdd uchel. Mae eu buddsoddiad parhaus mewn pobl, technoleg a rhagoriaeth weithredol wedi gosod y busnes fel canolfan atgyweirio flaenllaw yn y rhanbarth.
“Mae’r trafodiad hwn yn cynrychioli’n union y math o uchelgais y mae UKSE yn anelu at ei gefnogi — tîm lleol medrus sy’n adeiladu busnes cadarn, sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sydd â photensial hirdymor. Rydym yn falch o chwarae rhan yn eu pennod nesaf ac yn edrych ymlaen at weld y cwmni’n parhau i dyfu a chyfrannu at yr economi leol.”