Mae adroddiad blynyddol cyntaf Dirnad Economi Cymru yn tynnu sylw at hyder yn sector busnes Cymru er gwaethaf ansicrwydd y DU

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
giles thorley eiw

Mae gan fentrau bach i ganolig (BBaChau) yng Nghymru lefelau hyder uwch na'u cymheiriaid yn y DU, er gwaethaf amodau busnes heriol ac ansicrwydd cynyddol ynghylch rhagolygon economaidd y DU a byd-eang, yn ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf a gyhoeddwyd gan Dirnad Economi Cymru (DEC) heddiw.

Mae'r uned ymchwil newydd yn gydweithrediad rhwng Ysgol Busnes Caerdydd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Banc Datblygu Cymru, a grëwyd i fonitro gweithgaredd BBaCh Cymru, ffactorau sy'n effeithio ar eu datblygiad a chynnydd yr economi ranbarthol.

Cyhoeddodd y banc datblygu ym mis Mai ei fod wedi buddsoddi £80 miliwn mewn BBaCh yn 2018/19 sy’n gynnydd o bron i 18% ar y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hwn yn arddangosiad cryf o awydd cynyddol am fuddsoddiad, a adlewyrchir yn y cynnydd yn nifer y BBaCh yng Nghymru sy'n defnyddio cyllid allanol sydd 5% yn uwch na chyfartaledd y DU.

Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf hwn gan DEC yn darparu'r darlun sylfaenol o weithgaredd BBaCh Cymru ac yn dadansoddi effaith buddsoddiadau a wnaed gan y banc datblygu.

Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae'r hyn a ganlyn:

  • Gostyngodd trosiant microfusnesau Cymru 20% yn 2018 - ychydig yn is na’r cwymp o 21.5% a gofnodwyd yn y DU yn gyffredinol.
  • Mewn cyferbyniad, cynyddodd trosiant mentrau maint canolig 14% a chynyddodd y cwmnïau hyn nifer y gweithwyr 4.3% gan roi arwydd y gallent fod wedi cynyddu cynhyrchiant yn y cyfnod.
  • Er gwaethaf i Fynegai Cynhyrchu Cymru arafu yn 2018, tyfodd allbwn Mynegai Adeiladu Cymru 29% trawiadol. Y sector Adeiladu oedd y derbynnydd mwyaf o fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru yn 2018/19, gan dderbyn £28 miliwn. Yn yr un cyfnod mae nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd yng Nghymru wedi cynyddu 22%.
  • Cynyddodd cyfran y BBaCh Cymru yr amcangyfrifir eu bod mewn risg credyd uchel o 3.9% ym mis Mehefin 2018 i 6.7% ym mis Mai 2019.
  • Mae 41% o BBaCh Cymru wedi cyrchu cyllid allanol o'i gymharu â chyfartaledd y DU, sef 36%.
  • Yn yr un modd, mae 53% o BBaCh yng Nghymru yn bwriadu tyfu yn ystod 2019 o gymharu â 50% is yn y DU.
  •  Mae pob £1 miliwn o fuddsoddiad banc datblygu yn cyfateb i amcangyfrif o £2.3 miliwn o Werth Ychwanegol Gros Cymru (GYG)

 

Wrth groesawu cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru: “Yn lansiad DEC, siaradais ynghylch pa mor hanfodol yw asesiadau manwl gywir ac amserol o gyflwr economi Cymru i ni ddarparu cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau micro, bach a chanolig eu maint. Mae DEC wedi dechrau cyflawni hynny.

“Mae canfyddiadau DEC trwy gydol y flwyddyn yn tynnu sylw at effeithiau gwirioneddol ansicrwydd ac economi sy’n newid yn gyflym. Bydd y data perthnasol hwn a gynhyrchir yn rheolaidd yn hanfodol i'n helpu i gefnogi'r economi a chynyddu ein heffaith ar Gymru.

“Bydd yr angen am ddealltwriaeth ddyfnach a mwy cyfannol o’r materion unigryw sy’n wynebu economi Cymru a’i BBaCh yn parhau. Bydd DEC yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan annog adborth a chydweithio i lywio penderfyniadau i wella economi Cymru a lles cenedlaethau'r dyfodol”.

Dywedodd Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd busnes mae’n hanfodol ein bod yn cadw llygad barcud ar y gweithgaredd yn ein BBaCh yng Nghymru, a sut mae ffactorau macro-economaidd a rhyngwladol newidiol yn effeithio ar ragolygon mewn gwahanol sectorau o'r economi ranbarthol. Roedd yn galonogol adrodd ar ganlyniadau economaidd cadarnhaol o weithgaredd Banc Datblygu yn 2018/19 yn enwedig o ran cyflogaeth a grëwyd ac a ddiogelwyd yn economi Cymru”.

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i https://developmentbank.wales/cy/gwasanaethau/dirnad-economi-cymru