Mae Brighter Minds Childcare, busnes cychwynnol yn Risca, wedi sicrhau micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru

Claire-Vokes
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Helen Morris and Claire Vokes

Mae gwasanaeth gofal plant cofleidiol newydd Risca wedi lansio, gyda darpariaeth ar gyfer hyd at 45 o blant, ar ôl sicrhau micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Trosodd Brighter Minds Childcare Ltd, sy'n annog dysgu trwy chwarae, garej fawr yn eu canolfan ar Ffordd Gwendoline, Risca yn ystafell ychwanegol ar gyfer eu cyfleuster gofal plant disglair a chyfeillgar. Mae'r benthyciad wedi eu galluogi i gynnig mwy o wasanaethau gofal plant i rieni yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys cymorth cofleidiol (gofal y tu allan i oriau ysgol), brecwast, clwb ar ôl ysgol ac mae cefnogaeth clwb gwyliau ar gael i rieni plant sy'n mynychu ysgolion cynradd lleol.

Dywedodd y sylfaenydd Helen Morris: “Rydym yn credu mewn darparu amgylchedd meithrin cartrefol lle gall plant ffynnu a lle mae chwilfrydedd, antur a hwyl wrth galon yr hyn sy'n cael ei ddysgu. Diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru, gallwn gynnig ein gwasanaethau a'n hethos dysgu trwy chwarae i deuluoedd lleol.”

Trefnwyd y micro fenthyciad ar ran Banc Datblygu Cymru gan y Swyddog Buddsoddi, Claire Vokes. Meddai: “Mae Helen wedi darparu cyfleusterau o ansawdd uchel y mae galw mawr amdanynt yn yr ardal. Mae hi nawr yn edrych ymlaen at flwyddyn academaidd newydd lwyddiannus iawn, gyda rhieni eisoes yn archebu lleoedd ar gyfer Medi 2021. Rydym yn falch iawn o’i chefnogi hi a thîm Gofal Plant Brighter Minds wrth i’w busnes dyfu.”

I ganfod mwy am gyllid cychwynnol a thwf sydd ar gael gan Fanc Datblygu Cymru ewch i weld https://developmentbank.wales/cy/cael-cyllid-busnes. Fel arall gallwch anfon e-bost at Claire i gael trafodaeth anffurfiol ynghylch eich anghenion cyllid claire.vokes@developmentbank.wales.

I gael mwy o wybodaeth am Brighter Minds Childcare ewch i weld eu tudalen Facebook: https://www.facebook.com/brightermindschildcareLtd/