Mae buddsoddiad o £2.2 miliwn yn helpu busnes datrysiadau cludo nwyddau ffyrdd o Bont-y-pŵl i fynd i'r afael â phrinder gyrwyr yn y DU

Jo-Thomas
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
freight logistics

Mae buddsoddiad strategol gwerth £2.2 miliwn mewn busnes logisteg trafnidiaeth Freight Logistics Solutions (FLS) yn helpu busnesau i liniaru effaith prinder gyrwyr wrth i effaith gweithlu sy'n heneiddio, Covid, Brexit, tollau a newidiadau i drefn dreth IR35 gyfuno i greu’r storm berffaith.

Bydd y buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru yn galluogi FLS ym Mhont-y-pŵl i ddatblygu eu technoleg unigryw ymhellach fel un o brif ddarparwyr datrysiadau cadwyn gyflenwi o'r dechrau i'r diwedd. Cynghorodd tîm cyllid corfforaethol Grant Thornton Caerdydd a thîm cyfreithiol Capital Law y cyfranddalwyr gydag O’Brien & Partners yn darparu gwasanaethau cynghori ar dreth.

Gan gyflogi 40 aelod o staff, mae FLS yn fusnes logisteg asedau ysgafn sy'n gweithredu'n bennaf o fewn gofod cludo nwyddau ar y ffyrdd yn y DU a'r UE. Gyda rhwydwaith isgontractwyr helaeth o gwmnïau cludo ledled y DU ac Ewrop, mae FLS yn optimeiddio gweithrediadau logisteg a gwariant trafnidiaeth ei gwsmeriaid gan ddefnyddio cyfres o fesurau adrodd olrhain a DPA.

Mae'r busnes yn cynnig ystod o fuddion i gwsmeriaid gan gynnwys tollau rhyngwladol, amseroedd ymateb cyflym, arbed costau, lefelau gwasanaeth gwarantedig, mwy o hyblygrwydd logisteg, mwy o welededd dros wariant / effeithiolrwydd logisteg a gwell mewnwelediad data sy'n cynnig mwy o welededd ac atebion dros ddefnydd logisteg.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Ieuan Rosser: “Mae'r cyfuniad o Covid-19, Brexit a newidiadau i IR35 yn golygu bod diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd yn y DU yn wynebu rhai amseroedd anhygoel o anodd gyda'r prinder gyrwyr yn gwaethygu.

“Mae gweithgynhyrchwyr a llongiadwyr yn gorfod gwneud y mwyaf o’u hopsiynau gan fod llawer o gludwyr yn methu ag ymrwymo i’w trefniadau blaenorol gydag argaeledd gyrwyr a chostau yn pennu'r galw.

Yn wir, mae llawer yn newid eu model trafnidiaeth i sicrhau bod ganddynt y gallu gorau posibl yn ystod yr amseroedd hyn ac yn awr yn defnyddio gwasanaethau blaen anfonwyr cludo nwyddau. Fel cwmni rheoli cadwyn gyflenwi, mae gan FLS fynediad at dros 50,000 o gerbydau ledled Ewrop. Rydym hefyd yn elwa o feddu ar rym prynu cryf ac yn cynnig fflyd o gerbydau ac arferion holl gynhwysol – ac mae'n opsiwn cynyddol ddeniadol i'n sylfaen cleientiaid sy'n tyfu'n gyflym.

“Rydyn ni'n teimlo’n angerddol ynghylch bod yn un o brif ddarparwyr datrysiadau cadwyn gyflenwi o'r dechrau i'r diwedd yn ystod cyfnod unigryw a heriol i'r sector. Bydd y buddsoddiad hwn gan y Banc Datblygu yn ein helpu i barhau â'n buddsoddiad mewn technoleg a seilwaith gweithredol i ddarparu llwyfan pellach ar gyfer twf i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cleientiaid. Gyda phrofiad ac arweiniad Grant Thornton rydym wedi gallu llywio bargen ragorol. Rydyn ni am ddiolch i Jamie a’r tîm am eu cefnogaeth gyson.”

Mae'r buddsoddiad gan y Banc Datblygu yn cynnwys cymysgedd o gyllid ecwiti a benthyciad o Gronfa Busnes Cymru a Chronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Dywedodd Joanna Thomas, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae gan dîm rheoli FLS weledigaeth wych ar gyfer y dyfodol, ac maen nhw'n rhannu ymrwymiad i fod yn un o brif ddarparwyr datrysiadau cadwyn gyflenwi o'r dechrau i'r diwedd o’u sylfaen sydd ym Mhont-y-pŵl. Bydd ein cyllid yn galluogi buddsoddiad mewn technoleg a fydd yn sbarduno twf pellach ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Ieuan a'i dîm i gyflawni eu cynlluniau.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol Grant Thornton, Jamie Roberts: “Mae FLS wedi dod yn bell mewn byr amser, a bydd y buddsoddiad hwn gan y Banc Datblygu yn darparu llwyfan rhagorol ar gyfer twf a llwyddiant pellach. Rydyn ni wirioneddol wedi mwynhau cefnogi Ieuan a’r tîm gyda’r fargen lwyddiannus hon."

Cynghorwyd Banc Datblygu Cymru gan Geldards ac fe'i cefnogwyd gan SME Finance Partners. Ariennir Cronfa Busnes Cymru yn rhannol gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.

Fe’i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rheini sy’n barod i symud i Gymru gyda benthyciadau a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn. Ariennir Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd. Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael.  

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni