Mae busnes yn edrych yn ddisglair i Cleany Queeny

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
cleany queeny

Mae busnes yn edrych yn sgleiniog ac yn ddisglair i fusnes glanhau sy'n seiliedig yng Nghasnewydd, Cleany Queeny, wedi iddo dderbyn micro fenthyciad o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru a chefnogaeth gan Busnes Cymru.

Defnyddiwyd benthyciad Banc Datblygu Cymru tuag at gostau hyfforddi staff ac offer newydd i helpu gyda glanhau dwfn Covid 19. Mae dadheintio a glanhau dwfn yn rhan o'r ystod newydd, ehangach o wasanaethau masnachol a phreswyl a gynigir gan y busnes.

Mae ardal Cleany Queeny yn cynnwys Casnewydd, Caerdydd, Y Wysg, Pont-y-pŵl, Abercarn, Cwmbrân - ac mae yna fwriad i ehangu ar draws de Cymru.

Yn dilyn y benthyciad o £10,000 mae Cleany Queeny wedi cyflogi rheolwr cyllid, cynorthwyydd swyddfa ychwanegol ac wyth glanhawr arall. Maent am recriwtio 10 glanhawr arall erbyn diwedd mis Hydref.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Charmain Edwards: “Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn ers diwedd y cyfnod clo, gyda'n gwasanaethau glanhau masnachol a domestig rheolaidd ond hefyd gyda dadheintio a glanhau dwfn i gwsmeriaid. Mae benthyciad Banc Datblygu Cymru wedi ein helpu i arallgyfeirio i gynnig ystod ehangach o wasanaethau y mae galw amdanynt trwy ein galluogi i brynu offer newydd a thalu am hyfforddiant i staff. Mae hyn ar ben y gefnogaeth gan Busnes Cymru er mwyn ein sbarduno ac i'n helpu trwy gydol pandemig Covid 19. Rydyn ni wedi ehangu tîm Cleany Queeny ac erbyn hyn mae gennym ni 24 o bobl yn gweithio i ni, ac rydyn ni am recriwtio mwy."

Trefnodd y Swyddog Buddsoddi Donna Strohmeyer y benthyciad ar ran Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Daeth Charmain atom gyda chynllun clir i arallgyfeirio ei busnes glanhau mewn ymateb i Covid 19. Rydym yn falch iawn ei bod nid yn unig wedi diogelu swyddi, ond yn mynd ati i dyfu ei chwmni wrth i'r galw am ei gwasanaethau glanhau o safon uchel hedfan mynd o ddifri. Yn ystod y chwe mis diwethaf mae hi bron wedi dyblu ei gweithlu mewn ymateb i anghenion glanhau ei sylfaen o gwsmeriaid sy'n tyfu.”

Dywedodd Miranda Bishop, Cynghorydd Twf yn Busnes Cymru: “Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Charmain ers dros flwyddyn. Yn ystod yr amser hwn, rwyf wedi gallu darparu cymorth busnes, gan gynnwys help gyda'i chynllun busnes, rhagolygon ariannol, ymholiadau AD ac anghenion hyfforddi.

“Yn ystod y cyfnod clo, fe wnaethom adolygu llif arian Charmain a chynnig cyngor ar arallgyfeirio a’i chyflwyno i Donna ym Manc Datblygu Cymru. Roeddent yn gallu helpu gyda benthyciad o £10,000, gan ganiatáu i Cleany Queeny gynnig ystod ehangach o wasanaethau glanhau Covid 19. Mae hyn eisoes wedi arwain ati hi'n cyflogi 10 yn fwy o bobl. Rwy'n annog unrhyw fusnes sydd eisiau help i ail-ddechrau neu dyfu eu busnes - fel y mae Cleany Queeny wedi'i wneud - i gysylltu. Rydym yn cynnig ystod eang o gymorth a chyngor busnes am ddim.”