Mae cwmni addysg awyr agored yn gwbl ddiogel yn ei bencadlys newydd yn Llangollen

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
safe and sound

Mae cwmni addysg awyr agored 'Safe and Sound Outdoors wedi cwlbhau’r gwaith adnewyddu ar yr hen gangen o HSBC yn Llangollen.

Gyda saith aelod o staff, sefydlwyd Safe and Sound gyntaf gan y Cyfarwyddwr Craig Forde yn 2007. Mae'r cwmni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau antur awyr agored gan gynnwys rafftio dŵr gwyn, cerdded ceunentydd, dringo creigiau a bygod afon. Mae eu cleientiaid corfforaethol yn cynnwys Cyngor Sir Amwythig a BT. Mae rhaglenni addysg awyr agored hefyd yn cael eu darparu ar gyfer plant gofal preswyl.

Mae benthyciad o £150,000 gan Fanc Datblygu Cymru bellach wedi galluogi'r cwmni i adnewyddu'r adeilad newydd yn llawn ar Stryd y Bont a chreu saith ystafell wely i'w gosod, ystafelloedd dosbarth penodedig, siop goffi a chanolfan awyr agored gydag ystafelloedd newid, cawodydd ac ystafelloedd storio offer.

Meddai'r Cyfarwyddwr Craig Forde: "Mae ein cwsmeriaid partion stag a nosweithiau iâr yn dal i fod mor boblogaidd ac erioed ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi arallgyfeirio ein cynnig i gwsmeriaid. Rydyn ni nawr yn darparu pecynnau hyfforddi a datblygu pwrpasol ynghyd â Gwobrau Dug Caeredin.

"Roedd yn esblygiad naturiol i fod yn berchen ar ein safle ein hunain a chael y gofod i ddarparu llety i westeion felly roeddem wrth ein bodd ein bod wedi gallu prynu'r hen gangen o'r HSBC pan gododd y cyfle. Mae ein cartref newydd wedi'i leoli'n berffaith ochr yn ochr a’r Afon Dyfrdwy ac erbyn hyn rydym yn gallu cynnig llety ar y safle ynghyd â siop goffi annibynnol ardderchog sydd ar gael i bawb.

"Mae'r arian cyllido gan y banc datblygu wedi gwneud byd o wahaniaeth; ni allem fod wedi cwblhau'r gwaith adnewyddu na chreu'r gofod newydd heb eu cymorth. Mae eu hymagwedd hyblyg, y ffaith eu bod yn gwneud penderfyniadau yn gyflym ac yn darparu cymorth rhagweithiol yn golygu ein bod ni bellach yn barod ar gyfer y cam nesaf ar ein taith, gan gwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid a rhagori arnynt. Gyda chymorth ein hadeiladwyr, G Construction a'n dylunydd Hannah o Rosehip ac Ink rydym wedi gwireddu ein breuddwydion."

Mae Chris Hayward yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: "Gyda Gogledd Cymru yn prysur ddod yn brifddinas twristiaeth antur Ewrop, mae gan Ogledd Cymru bortffolio o'r radd flaenaf o ddarparwyr gweithgareddau awyr agored llawn tân ac adrenalin. Safe and Sound Outdoors yw'r cwmni antur awyr agored y mae pawb yn tueddu i droi atynt yn yr ardal.

"Mae hwn yn sector cyffrous sy'n cynnig potensial mawr a dyna pam rydym yn cefnogi Safe and Sound Outdoors. Mae'r cwmni wedi perfformio'n dda dros y blynyddoedd diwethaf gyda chynnydd cyson mewn gwerthiant ac elw. Bydd ein harian nawr yn galluogi twf pellach yn sgil adnewyddu'r adeiladau sy'n addas ar gyfer y pwrpas ac sy'n gallu denu mwy o fusnes. Dymunwn bob llwyddiant i Craig a'r tîm."