Mae’r Banc Datblygu wedi bod o gymorth mawr drwy gydol y broses o gaffael ac agor Tŷ Sant Ffraed, ac edrychwn ymlaen at berthynas barhaus.

Andrew Hole, Rheolwr Gyfarwyddwr Oldwalls Collection

Personol
Cefnogaeth wyneb yn wyneb gan fuddsoddwyr
Twf
Eich llwyddiant chi yw ein llwyddiant ni
Cefnogaeth
Rheolaeth a chymorth cydberthnasau parhaus yn ogystal â chyllid dilynol.
Gwerth
Rhwydwaith cryf o gynghorwyr i chi

Benthyciadau busnes mawr 

P'un a oes angen cyllid arnoch i wella cyfalaf gweithio, cyflymu twf, neu brynu busnes, gall ein benthyciadau gael eu teilwra i gyd-fynd â'ch gofynion. Gyda'n rheolwyr cyfrif lleol yn darparu cyswllt wyneb yn wyneb a chymorth parhaus, rydym yn sicrhau ein bod yn deall anghenion penodol eich busnes ac yn eich cynorthwyo i gyflawni'ch potensial.

Gallwn gyfuno benthyciadau ac ecwiti, a gweithio ochr yn ochr â darparwyr cyllid eraill (banciau, torf arianwyr, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill) i ddarparu pecyn cyllido pwrpasol ar gyfer eich busnes.

Os ydych chi'n chwilio am swm cyfalaf llai, rydym hefyd yn darparu benthyciadau busnes bach (micro-fenthyciadau) o £1,000 i £50,000.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn helpu eich busnes i gwrdd â chostau pryniannau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ateb y galw cynyddol, gan gynnwys:

  • Offer newydd
  • Peiriannau arbenigol
  • Prynu stoc
  • Llogi personél

Gall ein benthyciadau roi hwb i'r arian sydd ar gael i'ch busnes, gan eich galluogi i:

  • Fanteisio ar gyfleoedd newydd
  • Gyflawni contract mawr
  • Rheoli amrywiadau busnes tymhorol
  • Fuddsoddi yn nhwf eich busnes

Ydych chi eisiau prynu neu werthu busnes? Gall ein benthyciadau hwyluso:

  • Caffaeliad
  • Rheolwyr yn prynu'r cwmni allan
  • Rheolwyr yn prynu i mewn i'r cwmni
  • Rheolwyr yn prynu cwmni allan trwy brynu i mewn iddo
  • Rheolwyr yn cyflawni pryniant o’r cwmni wedi ei ysgogi gan y gwerthwr

A yw eich busnes yn barod i ehangu neu arallgyfeirio? Gyda chymorth benthyciad gallech chi:

  • Brynu eiddo newydd
  • Fuddsoddi mewn marchnata a gwerthiannau
  • Ehangu eich ystod o gynnyrch
  • Symud i mewn i farchnadoedd newydd

Cyfraddau llog sefydlog

Mae ein cyfraddau llog yn seiliedig ar amgylchiadau unigol eich busnes, ac maent yn sefydlog ar gyfer bywyd eich benthyciad gyda ni. Bob blwyddyn byddwn yn comisiynu arbenigwr annibynnol i adolygu ein ffioedd a'n polisi a'n hymarfer cyfraddau llog er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn unol â'r farchnad ac yn cael eu cymhwyso'n deg ac yn gyson.

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, gallwn ostwng y gyfradd llog ar ein benthyciadau hyd at 2% ar gyfer busnesau sy'n rhan o ardal fenter neu sy’n barod i adleoli i ardal o’r fath.

Gweler ein tudalen cyfraddau llog am ragor o wybodaeth. 

 

Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd

Waeth os ydych megis dechrau neu’n parhau â thaith ddatgarboneiddio eich busnes, mae ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn cymorth â chymhelliant i gefnogi eich busnes.

Mae benthyciadau ar gael rhwng £1,000 ac £1.5m, yn ogystal â chyngor arbenigol a chyllid ar gyfer ymgynghoriaeth ynni.

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

 

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr. Y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf am ddechrau busnes.

Gwiriwr cymhwysedd Ymgeisio nawr