Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Verde.
Mae Talentscape yn gweithio gyda chyflogwyr i ddenu ac ymgysylltu â darpar weithwyr, trwy gyfrwng y technegau brand cyflogwyr diweddaraf a thrwy wneud defnydd arloesol o ddeallusrwydd artiffisial. Mae tîm Talentscape eisoes yn gweithio gyda sefydliadau mor amrywiol â'r Allied Irish Bank, Anglian Water, Investec, GE, GWR a Rackspace - a chyda'r buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru, bydd pencadlys hwb y cwmni bellach yn ymgartrefu yng nghanol Caerdydd, ac mae eu tîm rheoli sy'n Gymreig yn bennaf wedi gwirioni.
Dechreuodd Talentscape eu bywyd ar Barc Gwyddoniaeth mawreddog Caergrawnt ac maen nhw wedi ennill cefnogaeth eang gan fusnesau technoleg ar draws y rhanbarth ac yn fyd-eang. Trwy gynnal asesiad deallus o ddiwylliant, sgiliau a chynigion cyflogaeth sefydliad, mae Talentscape yn defnyddio hysbysebu rhaglennol er mwyn cael yr union fath o dalent y mae sefydliadau cwsmer eisiau eu denu.
"Rydym yn mynd ati'n weithredol i amharu ar y sector recriwtio trwy ddefnyddio'r offer technoleg yr ydym wedi buddsoddi ynddynt ac wedi eu datblygu dros y blynyddoedd diwethaf," meddai Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Talentscape, Felicity Rees. "Mae'r sector wirioneddol wedi bod angen dull newydd o sicrhau gwell gwerth ac enillion am fuddsoddiad cyflogwyr. Dyna'n union beth mae Talentscape yn ei ddarparu ac yr ydym am ddatblygu ein hatebion ymhellach eto, bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i ddatblygu ein llwyfannau technoleg a'n cynigion gwasanaeth yn sylweddol. Mae Caerdydd yn lleoliad gwych i wneud hynny - ac rydym yn gwybod bod y dalent sydd ei angen arnom i gyrraedd ein nodau yma yng Nghymru."
Bydd Talentscape yn parhau i gynnal ei bresenoldeb yng Nghaergrawnt, gan ganiatáu iddynt wasanaethu eu sylfaen cleientiaid rhyngwladol sydd eisoes yn sylweddol tra bydd eu hwb newydd yng Nghaerdydd yn darparu prif swyddfa i allu 'ymosod' ymhellach ar y marchnadoedd a dargedir.
Cafodd y gwaith cynghori a'r gwaith o godi cyllid ariannu ei gydlynu'n llwyddiannus gan Verde Corporate Finance, ochr yn ochr â Greenaway Scott a ddarparodd gymorth cyfreithiol. Dywedodd Craig Blackmore, cyfarwyddwr Verde Corporate Finance, "Mae dod â hwb Talentscape i Gaerdydd yn fantais fawr i Gymru. Mae'r ddirnadaeth a'r dechnoleg mae Talentscape wedi ei fabwysiadu ac yn ei ddwyn i'r sector recriwtio yn gymaint o chwa o awyr iach ac y mae'n arloesol. Roedd yn bleser gweithio ochr yn ochr â Felicity a'r tîm i sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen arnynt i ddatblygu gweithrediadau a thyfu'r busnes i'r lefel nesaf."
Meddai Tara Lee-Fox, Swyddog Buddsoddi o Fanc Datblygu Cymru: "Mae BDC wrth ei fodd yn cefnogi Talentscape gyda'u cynlluniau a'u datblygiad cyffrous. Mae ein harian cyllido wedi eu helpu i adleoli i Gaerdydd a datblygu eu cynnig. Rydym yn gallu gweld bod cyflogwyr yn gallu ymgysylltu â thechnoleg a dull gweithredu Talentscape ac mae'r rhagolygon yn gyffrous iddyn nhw. Mae'r Banc Datblygu yn awyddus i ddenu busnesau arloesol fel hyn i Gymru a darparu'r arian sydd ei angen arnynt i dyfu."
Daw'r gair olaf gan Uwch Reolwr Cyllid Corfforaethol Verde Corporate Finance, Ewa Modzelewska, "Mae'r cytundeb hwn yn crynhoi popeth am Gaerdydd a Chymru. Busnes arloesol yn gweld Caerdydd fel lleoliad allweddol i ddarparu pad lansio ar gyfer twf – a chael mynediad at atebion a chefnogaeth ariannu arloesol. Mae'n wych fod Talentscape wedi dod i gasgliad llwyddiannus yn hyn o beth."