Mae gan siop Neil's Fish and Chips berchnogion newydd

Ashley-Jones
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
neil's fish and chip shop

Mae wedi bod yn gweini pysgod a sglodion traddodiadol blasus i gymuned Sanclêr ers dros 50 mlynedd.

A nawr mae gan siop Neil's Fish and Chips berchnogion newydd, sef Ricky a Hanna Jones, a fydd, diolch i fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, yn parhau i sicrhau y gall pobl leol a thwristiaid fwynhau pysgod a sglodion o'r radd flaenaf.

Mae'r benthyciad chwe ffigur wedi galluogi'r perchnogion newydd i brynu'r busnes presennol hwn a'r adeilad cyfagos

Mae wedi bod yn freuddwyd gan Ricky erioed i redeg ei fusnes ei hun, yn enwedig yn y diwydiant bwyd, ac mae'n edrych ymlaen at gymryd yr awenau mewn busnes mor llwyddiannus a sefydledig sydd wedi bod yn bwydo cymuned Sanclêr a'i hymwelwyr ers 1962.

Nid yw ef a Hanna yn bwriadu newid y busnes ac maent yn bwriadu cadw enw'r siop yr un fath, yn ogystal â'r cyflenwyr a'r staff.

Meddai: “Mae'r tatws a'r pysgod i gyd yn cael eu prynu gan yr un cyflenwyr ag o'r blaen. Rwy'n gredwr cryf yn yr ymadrodd 'Pam ei drwsio os nad yw wedi torri?' felly byddwn yn cynnal yr un safonau uchel ac yn darparu bwyd o'r un safon ag y mae ein cwsmeriaid yn gyfarwydd ag ef. Mae Graham, y rheolwr, wedi bod yno ers 24 mlynedd ac mae'r holl staff eraill yn wynebau cyfarwydd hefyd.

“Fodd bynnag, rwyf wedi ymestyn yr oriau agor sy'n golygu bod y siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 11.30am-9.30pm ac mae'r tŷ a ddaeth gyda hi yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio troi hwnnw'n gaffi sy'n gweini brecwast ac yn cynnig yr opsiwn i fwyta pysgod a sglodion o amgylch bwrdd.”

“Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn heb Fanc Datblygu Cymru.  Mae'r benthyciad wedi golygu y gallaf sicrhau bod siop Neil's Fish and Chips yn parhau i ddarparu bwyd o ansawdd uchel i'r cwsmeriaid.”

Meddai'r Swyddog Buddsoddi Ashley Jones: “Mae siop Neil's Fish and Chips yn fusnes sydd wedi'i hen sefydlu yn y gymuned leol ac roedd yn bwysig iawn i'r gwerthwr bod y perchennog newydd yn parhau â'r busnes fel siop pysgod a sglodion. Cysylltodd Ricky a Hanna â ni i gael gymorth ariannol i brynu'r busnes ac fel perchnogion busnes newydd, fe wnaethom eu helpu i'w tywys drwy'r broses.

“Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Ricky a Hanna, sydd yn bendant yn meddu ar y gwerthoedd iawn i wneud y busnes yn llwyddiant ysgubol a pharhau i weini pysgod a sglodion o ansawdd uchel i'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod. Mae ein hystod o fenthyciadau yn golygu y gellir eu defnyddio ar gyfer trafodiadau olyniaeth busnes fel hwn.   Rydym yma i roi help llaw i bobl sydd â'r dyhead a'r weledigaeth i adeiladu busnes llwyddiannus.”

Richard Easton, y Swyddog Portffolio, fydd y pwynt cyswllt ar gyfer Ricky a Hanna o ddydd i ddydd a dywedodd: “Mae gan siop Neil's Fish and Chips enw da iawn yng Ngorllewin Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Ricky a Hanna yn y dyfodol a rhoi cymorth parhaus iddynt gyda chynlluniau twf y busnes yn y dyfodol.”

Daeth y cyllid o Gronfa Fusnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan yr ERDF, drwy Lywodraeth Cymru. Fe'i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau â llai na 250 o weithwyr yng Nghymru a'r rhai sy'n barod i symud yma.

What's next?

Get in touch with our dedicated investment team to find out more or if you think you're investment ready apply today. 

Contact our team Apply now