Mae Grŵp Ethikos wedi cwblhau caffaeliad Gilks yn dilyn benthyciad saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru

Rhodri-Evans
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Gilks fleet

Mae Ethikos Group, prynwr busnesau peirianneg sy'n seiliedig ar lannau Dyfrdwy, wedi cwblhau pryniant Gilks sy’n gwmni peirianneg trydanol a mecanyddol. Y caffaeliad hwn yw'r cam diweddaraf mewn strategaeth dwf uchelgeisiol yn dilyn ei gaffaeliad o’r Delta Rock Group yn 2017. Ariannwyd y cam twf diweddaraf yn rhannol gyda benthyciad saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru.

Fe'i sefydlwyd yn 2017, nod yr Ethikos Group yw newid y canfyddiad o beirianneg i greu sector peirianneg foesegol ddeniadol er mwyn denu peirianwyr y dyfodol.

Gyda dros 50 mlynedd o brofiad cyfun mewn contractio peirianneg mae Scott a Gail Davis yn adeiladu cwmni sy'n cefnogi peirianwyr ac yn buddsoddi yn eu dyfodol. Mae ffocws cryf ar brentisiaethau a datblygiad proffesiynol parhaus o fewn pob un o gwmnïau'r grŵp.

“O fewn pob un o'n cwmnïau gweithredu grŵp rydyn ni'n cyflogi dau brentis bob blwyddyn ar hyn o bryd, rydyn ni'n bwriadu cynyddu ein cynllun prentisiaeth yn sylweddol wrth i'r Ethikos Group dyfu,” esboniodd y Prif Weithredwr Scott Davis.

“Mae peirianneg yn sector enfawr ac amrywiol, rydyn ni'n ceisio dod â balchder a hygyrchedd i'n proffesiwn. Does dim byd gwell gen’ i na chymryd prentis neu weithiwr presennol ymlaen a helpu i'w cefnogi i dyfu trwy eu gyrfa."

Dechreuodd Scott ei yrfa fel prentis yn gweithio i British Steel cyn gweithio ar draws gwahanol sectorau peirianneg fel peiriannydd trydanol ac awtomeiddio ac yn ddiweddarach fel cyfarwyddwr cwmni awtomeiddio llwyddiannus.

Mae gan Gail gyfoeth o brofiad mewn swyddogaethau gweinyddu a chyllid busnesau contractio peirianneg ar ôl treulio dros bedair blynedd ar hugain o fewn y diwydiant cyn dechrau yr Ethikos Group.

Maent yn bwriadu ehangu trwy gaffael, nodi cwmnïau peirianneg cyflenwol a'u prynu wrth iddynt ehangu.

Dywedodd Rhodri Evans, Dirprwy Reolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae'n amlwg bod Scott a Gail wedi treulio llawer o amser yn chwilio am y targedau caffael cywir ac wedi rhoi cynllun integreiddio manwl ar waith. Mae ganddyn nhw weledigaeth glir a chynllun twf uchelgeisiol ar gyfer y cwmni. Fel Prif Weithredwr y Grŵp, mae Scott yn unigolyn trawiadol, galluog sy'n meddu ar ffocws ac rydym yn falch o gael y cyfle hwn i ariannu cam nesaf strategaeth gyffredinol yr Ethikos Group o adeiladu grŵp o fusnesau peirianneg cyflenwol.”

Ychwanegodd Scott: “Un o’r rhesymau pam wnaetho' ni benderfynu partneru gyda’r Banc Datblygu oedd o achos eu brwdfrydedd am ein gweledigaeth. Roeddem am weithio gyda phartner cyllid sydd gyda ni am yr hirdymor, nid ar gyfer un caffaeliad yn unig. Roedd yn amlwg bod y Banc Datblygu yn rhannu ein huchelgais ar gyfer yr Ethikos Group.”

Fel rhan o'r broses ariannu, cyflwynodd y Banc Datblygu gyfarwyddwr anweithredol (CAn) newydd i'r cwmni.

Mae gan Adrian Gare dros 20 mlynedd o brofiad ym maes uno a chaffaeliadau (U&Ch) a chyllid corfforaethol, mae’n eistedd ar nifer o fyrddau fel CAn a chyfarwyddwr cyllid, yn ogystal â chynnal ei rôl fel Cyfarwyddwr U&Ch Instem PLC.

Meddai Adrian: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â bwrdd yr Ethikos Group ac yn gweithio ochr yn ochr â Scott a’r tîm. Rwy'n edrych ymlaen at helpu i gyflawni eu huchelgeisiau twf trwy gyfrwng twf organig a chaffaeliadol."

Daeth yr arian cyllido ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru a ariennir yn rhannol gan yr ERDF trwy Lywodraeth Cymru. Fe’i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rheini sy’n barod i symud i Gymru.

Mae gan Fanc Datblygu Cymru ystod o gronfeydd ar gael ar gyfer dechrau busnes a thwf busnes, yn ogystal ag olyniaeth a chaffael.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr