Mae busnes technoleg eiddo o Gaerdydd a sefydlwyd gan ddau fentergarwr profiadol o Gymru wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti o £700,000, mewn cytundeb dan arweiniad Banc Datblygu Cymru, i ehangu ei blatfform, tyfu ei dîm a chefnogi cyIflwyno ei wasanaeth ar draws sector eiddo'r DU.
Mae openmoove wedi derbyn buddsoddiad ecwiti o £350,000 gan Gronfa Technoleg Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, ynghyd â buddsoddiad cyfatebol o £335,000 gan HAATCH, y cwmni menter cam cynnar, a grŵp o fuddsoddwyr angylion Cymru. Mae'r fargen yn nodi'r ail dro i HAATCH a'r Banc Datblygu fuddsoddi gyda'i gilydd.
Wedi'i sefydlu yn 2024 gan Ross McKenzie a Cai Gwinnutt, mae openmoove wedi datblygu platfform BiB a gynlluniwyd i symleiddio llif gwaith asiantau tai, trosglwyddwyr tai a broceriaid morgeisi, gan helpu i leihau gweinyddiaeth, gwella cyfathrebu a gwneud trafodion eiddo yn haws i'w rheoli i bob parti dan sylw.
Mae openmoove wedi treulio'r 18 mis diwethaf yn adeiladu a mireinio ei gynnyrch, gan ei brofi gyda chwsmeriaid cynnar a sicrhau diddordeb masnachol gan grwpiau asiantaethau tai mawr a throsglwyddwyr tai. Bydd y buddsoddiad nawr yn galluogi'r busnes i ehangu ei dîm, cyflymu gweithgaredd mynd i'r farchnad a chyflwyno'r platfform yn ehangach.
Disgwylir i'r cyllid greu chwe swydd yng Nghaerdydd yn y misoedd nesaf wrth i openmoove adeiladu tîm bach, arbenigol i gefnogi cam nesaf y twf.
Mae openmoove yn integreiddio â'r systemau mewnol sydd eisoes yn cael eu defnyddio gan weithwyr proffesiynol eiddo, gan greu un ffynhonnell wirionedd a haen gyfathrebu gyffredin heb orfodi defnyddwyr i fabwysiadu rhyngwyneb cwbl newydd. Nod y cwmni yw symleiddio a gwella un o'r rhannau sy’n llyncu amser ac yn peri’r straen mwyaf ar daith symud tŷ, gan helpu darparwyr gwasanaethau i weithio'n fwy effeithlon.
Mae gwreiddiau’r busnes yn gadarn yng Nghymru. Ganwyd a magwyd y ddau sylfaenydd yng Nghymru ac maent wedi adeiladu eu gyrfaoedd yma, gyda phencadlys y cwmni bellach yng Nghaerdydd.
Mae gan McKenzie brofiad helaeth yn y sector eiddo, ar ôl dal rolau uwch yn Purplebricks a Countrywide cyn sefydlu'r asiantaeth eiddo Isla-Alexander yng Nghaerdydd, a werthodd yn ddiweddarach i TAUK (The Agency UK) yn 2025. Mae gan Cai Gwinnutt, Prif Swyddog Technoleg openmoove , 20 mlynedd o brofiad ar draws cwmnïau newydd a pheirianneg, gyda rolau blaenorol yn cynnwys OnExamination, Amplyfi, y Cyber Innovation Hub a Tramshed Tech.
Dywedodd y Prif Weithredwr Ross McKenzie:
“Rydym wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn adeiladu’r cynnyrch, gan weithio’n agos gydag asiantau tai, trosglwyddwyr tai a broceriaid morgeisi, a phrofi bod galw gwirioneddol am ffordd well o reoli’r broses trafodion eiddo. Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi’r gefnogaeth i ni i ehangu, adeiladu ein tîm yng Nghaerdydd a dechrau cyflwyno’r platfform yn ehangach.
“Rydym yn falch o fod yn adeiladu openmoove yng Nghymru. Mae hwn yn fusnes Cymreig, a sefydlwyd gan ddau berson sydd wedi tyfu i fyny ac wedi adeiladu eu gyrfaoedd yma, ac rydym yn gyffrous i fod yn creu swyddi yng Nghaerdydd wrth i ni symud i'r cyfnod nesaf o dwf.”
Ychwanegodd Cai Gwinnutt :
“Ein ffocws ni fu creu technoleg sy’n cyd-fynd â’r systemau y mae gweithwyr proffesiynol eisoes yn eu defnyddio, yn hytrach na’u gorfodi i newid ymddygiad neu fabwysiadu ffordd hollol newydd o weithio. Rydym wedi datblygu cynnyrch sy’n barod ar gyfer y farchnad, wedi’i brofi gyda chwsmeriaid cynnar ac rydym bellach mewn sefyllfa gref i gyflymu ein twf.
“Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i ni barhau i adeiladu gyda nod pendant — ehangu’r tîm, cryfhau’r platfform a chymryd cynnyrch a fydd yn gwella’r ffordd y mae trafodion eiddo yn digwydd.”
Dywedodd Mike Rees, Swyddog Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru:
“Mae Ross a Cai wedi cyfuno gwybodaeth ddofn am y sector ag arbenigedd technegol cryf i adeiladu platfform cymhellol mewn marchnad fawr a phwysig. Maent wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn cyfnod byr, gan ddatblygu’r cynnyrch, sicrhau diddordeb masnachol cynnar a gosod llwybr twf clir.
“Bydd ein buddsoddiad o Gronfa Technoleg Cymru yn helpu openmoove i ehangu o Gaerdydd, creu swyddi newydd ac adeiladu ar y sylfeini masnachol sydd eisoes yn eu lle. Mae hefyd yn galonogol buddsoddi ochr yn ochr â HAATCH eto, gan ddangos gwerth cyd-fuddsoddi wrth gefnogi busnesau uchelgeisiol Cymru sydd â photensial twf uchel.”
Mae Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru II gwerth £20 miliwn yn ddarparu buddsoddiadau ecwiti rhwng £100,000 a £350,000 ar gael i fusnesau technoleg Cymru a'r rhai sy'n symud i Gymru yn ystod y cyfnod prawf cysyniad.