Michael Rees

Rwy'n buddsoddi mewn mentrau technoleg cyfnod cynnar sydd â photensial uchel ac yn cefnogi eu twf drwy gynghori ar lefel Bwrdd, gan helpu i adeiladu busnesau effeithiol y gellir eu hehangu.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn fuddsoddwr yn Praetura Ventures (Grŵp PCN erbyn hyn), gan ddefnyddio cyfalaf o EIS, VCT, BBB, a chronfeydd corfforaethol i’w fuddsoddi mewn cwmnïau Cyfres cam A a B.

Yn gynharach yn fy ngyrfa, gweithiais ym maes dadansoddi cyllid cyhoeddus yn adran Rheoli Buddsoddiadau Legal and General, yn ogystal â rheoli hylifedd yn Vauxhall Finance yn ystod y cyfnod y cafodd y cwmni ei brynu gan BNP Paribas.