Mae'r tîm RhPC yn Glamorgan Telecom ar y trywydd iawn i gyrraedd trosiant o £5 miliwn

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Glamorgan Telecom

Mae arbenigwyr Llais a Data Glamorgan Telecom yn profi twf anhygoel ac fe ddisgwylir i'w trosiant fod yn fwy na £5 miliwn ac yn awr mae yna gynlluniau i gaffael yn ddiweddarach eleni.

Mae hi ychydig dros 12 mis ers i gyfarwyddwyr y busnes sy'n seiliedig yng Nghaerdydd gwblhau eu pryniant rheoli. Cefnogodd Banc Datblygu Cymru'r tîm rheoli a chymerodd gyfran ecwiti o 15 y cant yn y grŵp pan brynodd y rheolwyr y cwmni.

Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr, Kelly Bolderson, mae gan y tîm cryf o 35 gynlluniau ehangu uchelgeisiol gyda gwasanaethau newydd a buddsoddiad mewn seilwaith Technoleg Gwybodaeth (TG) newydd. Mae'r cwmni hefyd yn bwriadu cyflawni caffaeliad ddiwedd 2018 hefyd.

Meddai: "Mae hwn yn ymdrech gan y tîm. Bu'n amser cyffrous ond heriol ond rydym i gyd yn gweithio'n gadarn gyda'n gilydd ac yn canolbwyntio ar gyflawni twf.

"Rydyn ni wedi treulio'r 12 mis diwethaf yn datblygu'r llwyfan cywir ar gyfer twf yn y dyfodol gyda buddsoddiad yn seilwaith ein TG a’n system Rheoli Perthynas Cwsmer (RhPC) sydd wedi cael ei uwchraddio. Mae hyn wedi ein galluogi i awtomeiddio llif gwaith gweithredol, gyrru effeithlonrwydd a gwella gwelededd Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Rydym hefyd wedi buddsoddi'n drwm mewn hyfforddiant a datblygiad staff i sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen i gwrdd â galw cwsmeriaid.

"Gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, ein bwriad yw hybu twf organig gyda chyhoeddiad caffael ddiwedd 2018. Mae hyn yn hynod o gyffrous i ni ond y gwir amdani yw na fyddai hyn olll wedi bod yn bosibl heb eu cymorth hwy.  Fe wnaeth eu harian cyllido nhw ein galluogi i ailstrwythuro cyfalaf fel y gallem wneud mwy o fuddsoddiad a gyrru gwerth cyfranddalwyr."

Meddai Stephen Galvin o'r Banc Datblygu Cymru: "Bu'n bleser mawr gweithio ochr yn ochr â Kelly a'r tîm rheoli. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r busnes wrth iddynt edrych tuag at fanteisio ar y buddsoddiadau a wnaed dros y 12 mis diwethaf a chyflawni eu strategaeth o brynu ac adeiladu. Mae'r sylfaen bellach ar waith i gyflawni twf o ddifri ac maent yn bendant ar y trywydd i daro'r targed i gyflawni eu hamcanion gyda chyhoeddiad caffaeliad yn ddiweddarach eleni."

"O'n safbwynt ni, mae hon yn enghraifft wych o sut y mae Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru wirioneddol yn helpu timau rheoli uchelgeisiol i yrru twf a sicrhau llwyddiant."

Mae Glamorgan Telecom Ltd wedi bod yn darparu atebion teleffoni i farchnad busnes De Cymru a'r De Orllewin ers 1993 ac mae ganddynt fwy na 1,800 o gwsmeriaid ar draws De Cymru a'r De Orllewin ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi 35 o bobl. Mae'r cwmni yn un o'r darparwyr a'r gosodwyr llinellau mwyaf blaenllaw ym maes telathrebu busnes a gwasanaethau rhwydwaith yn y rhanbarth.