Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Mentergarwyr blaenllaw o Gymru yn cael eu cyhoeddi fel cyfarwyddwyr anweithredol y Banc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
NED

Cyhoeddir fod dau o brif fentergarwyr Cymru fel cyfarwyddwyr anweithredol ar Fanc Datblygu Cymru. Mae'r penodiadau'n dod i rym o'r 6ed o Ebrill 2021.

Mae Kate Methuen-Ley, pedwar deg pump oed, sylfaenydd a chyfarwyddwr cwmni arobryn Tiger Cardiff Limited yn ymuno â'r Banc Datblygu ynghyd â Rob Lamb, mentergarwr digidol ac arbenigwr buddsoddi byd-eang sy'n 40 oed.

Fel myfyriwr graddedig o Brifysgol Abertawe ac Ysgol Busnes Caerdydd, adeiladodd Kate Methuen-Ley Tiger Cardiff Limited i naw siop gyda throsiant o £5.3 miliwn cyn iddi ymadael yn 2018. Mae hi bellach yn gyfarwyddwr anweithredol ar Loopster.co.uk , mentor gyda'r deorydd technoleg Alacrity Foundation, ac mae'n darparu cyngor strategol i nifer o gwmnïau.

Dywedodd Kate Methuen-Ley: “Mae Banc Datblygu Cymru yn adnodd unigryw i Gymru; sy'n helpu busnesau Cymru i greu neu ddiogelu swyddi, bod yn fwy arloesol a chynyddu eu cyfraniad i'r economi. Fel mentergarwraig, mae gen i brofiad uniongyrchol o werth yr ecosystem dechrau busnes yng Nghymru ac rwy'n awyddus i gyfrannu at hyn; gan helpu eraill i gyflawni eu breuddwydion a chyrraedd eu llawn botensial.”

Siaradwr Cymraeg, ac wedi graddio ym Mhrifysgol Caerdydd, Rob Lamb yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Hedgehog, platfform digidol sydd â'r genhadaeth i ddemocrateiddio buddsoddi mewn eiddo o safon fyd-eang trwy sicrhau bod perchnogaeth ffracsiynol ar gael i bawb. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar yr ymgynghoriaeth buddsoddi effaith gymdeithasol Expectation State a FairPlay Trading, cangen fasnachol elusen cydraddoldeb rhywiol Chwarae Teg.

Dywedodd Rob Lamb: “Mae darparu cyllid cynaliadwy, effeithiol yn y farchnad yn allweddol i ddatgloi potensial economi Cymru. Fel buddsoddwr a pherchennog busnes, deallaf pa help sydd ei angen ar fusnesau i ffynnu ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Bwrdd y Banc Datblygu i gyflawni hyn.”

Dywedodd Gareth Bullock, Cadeirydd Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn croesawu Kate a Rob ar Fwrdd Banc Datblygu Cymru. Mae ein holl gyfarwyddwyr anweithredol yn darparu cyfraniad annibynnol a chreadigol i'r Bwrdd, gan ddarparu cyfeiriad strategol a goruchwyliaeth.

“Dyna pam ei bod mor bwysig cael bwrdd amrywiol gyda chymysgedd o sgiliau. Ar ôl dechrau a rhedeg busnesau, mae Kate a Rob yn deall yr hyn sydd ei angen i dyfu busnes llwyddiannus yng Nghymru. Bydd eu cyfraniad yn werthfawr iawn wrth i ni ganolbwyntio ar gefnogi adferiad economi Cymru ac adeiladu seilwaith tymor hir y sefydliad.”