Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Micro fenthyciad gan y Banc Datblygu yn cefnogi busnes cyflenwi diwydiannol sy'n tyfu'n gyflym

Nicola-Edwards
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Andrew Harrison, Perchennog, QTS; Callum O'Neill, QTS; Nicola Edwards, Banc Datblygu Cymru; Donna Strohmeyer, Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi QTS Industrial Supplies Ltd, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, gyda micro fenthyciad, gan ganiatáu i'r busnes anelu at dwf gyda pheiriannau a stoc gwell.

Wedi'i sefydlu ym 1984, ac yn awr o dan arweiniad y perchennog presennol Andrew Harrison, mae QTS yn darparu pob agwedd ar gyflenwadau diwydiannol ac offer peiriannu i gwsmeriaid busnes, gan gynnwys offer torri, offer peirianneg fanwl gywir ac offer llaw a phŵer. Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio ac offer gwisgoedd a thecstilau gan gynnwys Offer Diogelu Personol (ODP), gyda chleientiaid yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Caerdav , Dow Silicones a Ryanair.

Bydd y micro fenthyciad, gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, yn cael ei rannu rhwng peiriannau a stoc ar gyfer y busnes, sydd wedi gweld twf o bron i bedair gwaith yn y pedair blynedd diwethaf.

Dywedodd Andrew Harrison: “Rydym wedi gweld y cwmni yn ehangu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae hynny wedi cael ei gefnogi gan ein buddsoddiad ynom ni ein hunain. Mae’r capasiti rydym wedi’i feithrin yn golygu ein bod wedi gallu darparu ystod ehangach o nwyddau, a dod â mwy o gontractau i mewn.

“Mae’r benthyciad hwn gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu y byddwn yn gallu parhau â’n cynlluniau twf, ac oherwydd ein bod yn fusnes Cymreig sydd wedi’i leoli yng Nghymru, roedd yn gwneud synnwyr ein bod wedi cysylltu â nhw am gymorth. Hoffwn ddiolch i Donna Strohmeyer, Swyddog Buddsoddi yn y Banc Datblygu, am ei chefnogaeth a’i harweiniad yn ystod y broses fargen – roedd hi’n wych”.

Dywedodd Nicola Edwards, Rheolwr Cronfa yn y Banc Datblygu: “Rwy’n falch iawn o’r lefel o gefnogaeth rydym wedi gallu ei darparu i QTS Industrial Supplies. Yn ddiweddar rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i’n micro fenthyciadau, gan gynnwys dosbarthu unrhyw fuddsoddiad o £1,000 i £100,000 fel micro fenthyciad, a chael gwared ar ffioedd trefnu o 1%.

“Gyda’r newidiadau hyn, gallwn ni helpu busnesau fel QTS Industrial Supplies i gael y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i ddechrau a thyfu’n gyflymach ac yn haws nag o’r blaen.”

Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn falch ein bod yn parhau â’n perthynas â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a fydd yn parhau i reoli effaith ein micro fenthyciadau ar y trydydd sector a’r effaith gymdeithasol.”

Mae'r Banc Datblygu yn cynnig micro fenthyciadau o £1,000 i £100,000, gyda chyfraddau llog sefydlog am hyd y benthyciad, telerau hyblyg a cheisiadau cyflym ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Micro fenthyciadau - Dev Bank