Milfeddygon fferm yn symud gyda benthyciad o £80,000

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
camlas vets

Mae Milfeddygon Fferm Camlas yn y Trallwng wedi symud i adeilad mwy diolch i fenthyciad gwerth £80,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Milfeddygon Fferm Camlas yn bractis milfeddygol annibynnol, sy’n ymroddedig i anifeiliaid fferm. Gan weithio gyda ffermydd masnachol a thyddynwyr, mae'n darparu gwasanaethau a chefnogaeth o ansawdd uchel i gleientiaid yn ardal Powys a Swydd Amwythig.

Amy McKie sy'n rhedeg y practis, ac mae hi wedi gweithio yn y practis ers iddi gymhwyso fel milfeddyg yn 2009 gyda'i chyd-bartneriaid, Fflur ac Iolo, sydd hefyd yn filfeddygon cymwys. Maent yn teimlo'n angerddol ynghylch trin anifeiliaid ac mae'n gweithio ochr yn ochr â ffermwyr i gael y gorau o'u mentrau da byw a ffermio.

Roeddent wedi bod yn gweithredu o'r adeilad gwreiddiol ers chwe blynedd. Roedd yn cyflawni ei swyddogaeth ond yn fach, heb unrhyw ffordd wirioneddol i gynyddu capasiti a darparu ar gyfer staff cymorth ychwanegol a oedd yn angenrheidiol wrth i'r busnes dyfu.

Meddai Amy: “Mae'r adeilad newydd yn dal i fod yn hygyrch iawn ac yn agos at y farchnad da byw leol. Rydym wedi adnewyddu byngalo at ddefnydd masnachol. Er ein bod fel arfer yn trin yr anifeiliaid oddi ar y safle, yn ystod y tymor ŵyna mae'n gyffredin i ffermwyr ddod â mamogiaid ag anawsterau ŵyna i'r practis. Un o'r pethau rydyn ni'n defnyddio'r benthyciad ar ei gyfer yw er mwyn trosi un o'r ystafelloedd yn theatr lawdriniaeth.”

Bydd y benthyciad hefyd yn sicrhau naw swydd yn y cwmni.

Ychwanegodd Amy: “Mae'r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn hynod bwysig. Mae cael y benthyciad wedi'i strwythuro i'n hanghenion busnes wedi ein galluogi i adleoli, diogelu swyddi presennol a chynllunio ar gyfer twf yn y dyfodol.

“Ni allem gredu pa mor hawdd oedd gweithio gyda Chris a’r Banc Datblygu. Mae'r broses gyflym a syml wedi rhoi sicrwydd a hyder inni dyfu.

Dywedodd Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru: “Mae Amy, Fflur ac Iolo yn hynod o angerddol am eu busnes. Mae'r practis yn gwasanaethu cwsmeriaid ar ffin Cymru, ac fe wnaethom sylweddoli bod y benthyciad hwn yn allweddol iddynt allu diwallu'r galw.”

Daeth yr arian o Gronfa Busnes Cymru sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru. Fe’i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rheini sy’n barod i symud yma.