MMEngineering

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
mm engineering

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan MMEngineering.

Mae’n ymddangos bod newid yn yr hinsawdd yn achosi mwy a mwy o drychinebau naturiol, ac mae cwmni atal llifogydd yng Nghymru yn paratoi ar gyfer ehangu mawr.

Mae MMEngineering o Aberafan, sy’n gwneud amddiffynfeydd llifogydd a thaniadau i ddiogelu strwythurau ac adeiladau rhag yr elfennau, wedi symud i eiddo newydd ac mae’n ceisio contractau byd-eang, ar ôl buddsoddiad chwe ffigwr.

Mae’r pecyn ariannu, gan is-gwmni Tata Steel UK Steel Enterprise a Banc Datblygu Cymru, yn sylfaen i gynllun busnes uchelgeisiol sy’n rhagweld codi trosiant i fwy na £5 miliwn ac 14 aelod staff yn cael eu cyflogi yn y tair blynedd nesaf.

Bydd MMEngineering yn gosod bwth chwistrellu ac offer gwneuthur newydd yn eu ffatri newydd ar Barc Ynni Baglan, i ddelio ag archebion newydd am eu drysau llifogydd a thaniad a chynhyrchion eraill.

Caiff y cwmni ei redeg gan y brodyr Chris a Martin McDermid a’u cyd-gyfarwyddwr James Morton, ac mae MME nawr yn hyrwyddo ei gynhyrchion yn Asia a De Affrica, ac mae hefyd yn edrych ar farchnadoedd yn y Dwyrain Canol.

Mae’r cynhyrchion yn cynnwys drysau taniad a diogelwch, gatiau llifogydd, ffenestri a gorddorau ac maent yn cael eu defnyddio mewn nifer o sectorau gan gynnwys cyfleustodau, adeiladu, y sector cemegau a’r sector cyhoeddus.

“Rydym yn arolygu agweddau technegol y brîff ac yn anelu at gael gwell ateb i’n cleientiaid,” meddai Chris McDermid.

Mae’n hanfodol profi’r cynhyrchion yn drwyadl ar y safle. “Rydym yn argymell yn gryf bod cwsmeriaid yn profi eu cynhyrchion ar ôl eu gosod ac rydym yn hapus i’w helpu i wneud hynny. Nid ydym erioed wedi cael methiant yn y cyfnod profi, ac mae hyn yn helpu i feithrin yr enw da sydd gan y cwmni,” ychwanegodd.

Yn y tymor byr, mae chwe aelod staff newydd i’w cyflogi. “Rydym yn gweld cyfleoedd mawr yn y blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd Chris McDermid. “Rydym yn anelu am drosiant o £5 miliwn mewn tair blynedd, ac erbyn hynny byddwn yn cyflogi 25 o bobl. Yn y tymor hirach, rydym yn disgwyl parhau i ddatblygu a thyfu.”

Bydd y cyfleoedd mawr, meddai Martin McDermid, yn dod o’r angen cynyddol am amddiffyniad rhag peryglon – naturiol ac fel arall – o gwmpas y byd. “Byddwn yn hyrwyddo’r busnes mewn arddangosfa fawr yn Singapore, Flood Asia, ac yn lansio ymgyrch farchnata,” meddai.

Mae MME eisoes yn gweithio gyda nifer o gleientiaid yn y Dwyrain Pell ac ystyrir bod hon yn ardal gyda photensial. Mae prosiect ar gyfer y diwydiant mwyngloddio yn Ne Affrica hefyd ar waith, ac mae ymholiadau yn dod o nifer o leoedd.

Mae cwmnïau yswiriant yn gofyn am safonau uwch ar gyfer amddiffyn asedau yn wyneb peryglon hinsawdd, terfysgaeth a pheryglon eraill, dynol a naturiol.

Mae MME yn gweithio’n agos gyda chwmnïau yswiriant a gwarantu, ac mae’n y broses o gael cymeradwyaeth swyddogol gan ddau o’r mwyaf. “Mae gan y diwydiant yswiriant rôl anferth i’w chwarae o ran penderfynu ar safonau amddiffyniad, ac rydym yn anelu at chwarae rhan yn y polisi llywio,” ychwanegodd Martin McDermid.

Meddai Martin Palmer, Swyddog Buddsoddi Gweithredol gydag UK Steel Enterprise: “Rydym wrth ein boddau yn medru cefnogi MME, am nifer o resymau.

“Yn y lle cyntaf, mae’r cwmni yn adeiladu ar y sgiliau peirianneg, gwneuthuriad a dylunio traddodiadol yn Ne Cymru, ac yn cyflogi pobl o’r ardal. Ynghyd â hyn, mae gan MME bersbectif byd-eang ac mae’n anelu at allforio cynhyrchion a sgiliau o Gymru.

“Mae’n amlwg bod gan y cwmni y sgiliau, y cynhyrchion a’r rheolwyr i gyflawni ei gynllun busnes ac rydym yn hapus i fedru cynorthwyo gyda chyllid. Dymunwn bob llwyddiant iddynt at y dyfodol.”

Meddai Ashley Jones o Fanc Datblygu Cymru: “Fel cyflogwr lleol, mae gan MMEngineering gynllun busnes uchelgeisiol gyda’r potensial o gyflawni twf byd-eang dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, wrth i’r newid yn yr hinsawdd gael effaith. Bydd ein cyllid yn galluogi i’r tîm wneud y mwyaf o gyfleoedd allforio o’u pencadlys ym Mharc Baglan. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt.”

Mae’r materion hyn yn hynod bwysig i gleientiaid MME. “Gall llifogydd neu drychinebau eraill, er enghraifft mewn is-orsaf drydan, achosi difrod anferth gyda’r bil yn rhedeg i filiynau, neu ddegau o filiynau o bunnau,” nododd Chris McDermid. “Wrth i lefel y bygythiadau godi, mae’n hanfodol cael amddiffyniad priodol.”