Mae'r mentergarwr o Gasnewydd, Carl Harris, wedi lansio busnes chauffer preifat Luxstar Ltd gyda chefnogaeth micro fenthyciad gwerth £24,000 gan Fanc Datblygu Cymru, a chefnogaeth gan Busnes Cymru, Cyngor Casnewydd ac UKSE.
Yn wyneb diswyddiad oherwydd pandemig Covid-19, bachodd Carl ar y cyfle i droi ei brofiad a'i angerdd i greu ei fusnes ei hun. Gydag wyth mlynedd o brofiad gyrru proffesiynol, mae Carl wedi gweithio gyda Llysgenhadaeth America yn darparu gwasanaethau i'r gyngres, NATO, Gwylwyr y Glannau'r Unol Daleithiau, arlywyddion a chyn-lywyddion.
Mae Luxstar yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, moethus i bob cleient, a gall ddarparu ar gyfer cwsmeriaid anabl. Lansiodd Carl y busnes newydd ym mis Tachwedd 2020.
“Rydw i wedi bod yn ymchwilio i sefydlu fy musnes fy hun ers nifer o flynyddoedd. Arweiniodd y cydberthynasau yr oeddwn wedi'u meithrin â phobl dros y blynyddoedd, y wybodaeth a ddysgais gan y cleientiaid yr oeddwn wedi eu gyrru, a'r ymddiriedaeth a roddwyd imi i archwilio'r cyfleoedd i ddechrau fy musnes chauffeur fy hun gyda'r safonau uchel yr oeddwn wedi arfer â nhw. Yn wyneb diswyddiad oherwydd pandemig Covid 19, penderfynais mai nawr oedd yr amser i fentro a dod yn fos arnaf fi fy hun,” esboniodd Carl.
“Fy her gyntaf oedd llunio cynllun busnes cadarn. Roedd gen i lawer o wybodaeth am weithio yn y diwydiant cludo ond dim profiad o redeg fy nghwmni fy hun. Cynhaliais ymchwil i'r farchnad a chynnwys fy holl ganfyddiadau yn fy nghynllun busnes, a gafodd ei graffu gan Fanc Datblygu Cymru. Dyna lle gwnaeth Busnes Cymru a Melanie fy helpu o ddifri.”
Cynorthwyodd cynghorydd Busnes Cymru, Melanie Phipps, Carl gyda’i ymchwil marchnad, y trefniadau cyfreithiol, prisio, yswiriant a chyfrifon banc: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Banc Datblygu Cymru a Chyngor Casnewydd i helpu Carl i gael y cymorth, y sgiliau busnes a'r gefnogaeth ariannol i lansio menter ei freuddwydion. Gyda’i brofiad ac er gwaethaf yr heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd, rwy’n argyhoeddedig y bydd yn gwneud Luxstar Ltd yn llwyddiant”, meddai Mel.
Ymunodd Carl hefyd ag Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru, gan ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd trwy atal gwastraff a llygredd.
Trefnwyd y benthyciad ar ran Banc Datblygu Cymru gan y Swyddog Buddsoddi, Claire Vokes. Meddai: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Carl trwy ei gais am gyllid. Gyda'i ymroddiad a'r cymorth gan Busnes Cymru llwyddodd i ddarparu cynllun busnes cadarn, a sicrhaodd gyllid gan Fanc Datblygu Cymru ar gyfer ei gostau cychwynnol. Mae ganddo gyfoeth o brofiad ym maes gyrru proffesiynol ac edrychwn ymlaen at weld Luxstar a Carl yn ffynnu.”
“I fod yn chauffeur, mae’n ofynnol i chi gael eich trwyddedu gan eich awdurdod lleol a bmeddu ar drwydded Llogi Preifat yn ogystal â thrwydded gweithredydd. Llwyddais i gael y drwydded gweithredydd yn weddol gyflym diolch i Alan Leen o dîm trwyddedu Casnewydd. Ganol mis Tachwedd, eisteddais y prawf gwybodaeth o’r diwedd fel fy mod yn gallu gwneud cais am y drwydded llogi preifat yng Nghasnewydd,” ychwanegodd Carl.
Mae is-gwmni Tata Steel UKSE yn gweithio gyda Chyngor Sir Casnewydd i ddarparu cymorth grant i fusnesau cychwynnol sydd â'r potensial i greu swyddi. Dywedodd Martin Palmer o UKSE: “Mae'r cynllun yn hynod effeithiol ac wedi helpu busnesau o bob math i sefydlu yng Nghasnewydd. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Carl, ac rydym yn falch ein bod wedi ei helpu i gael y busnes ar y ffordd.”
I ddarganfod mwy am gefnogaeth gan Busnes Cymru ewch i weld: https://businesswales.gov.wales/campaigns/cy