Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Nemesis Bioscience yn ehangu ei gyfleuster datblygu yn Aberystwyth

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
nemesis ibers aberystwyth

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Nemesis.

Heddiw cyhoeddodd Nemesis Bioscience ei fod yn ehangu ei bresenoldeb yn Aberystwyth trwy agor cyfleuster datblygu cyn-glinigol newydd yn y Brifysgol.

A hwythau wedi dod yn aelodau ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth ym mis Awst 2018, fe gynyddodd y cwmni ei weithrediadau yn ystod y misoedd yn dilyn hynny trwy recriwtio staff llawn amser newydd a symud i labordy yng Nghampws Gogerddan y Brifysgol.

Bydd y fan hon yn gweithredu fel sylfaen y cwmni ar gyfer datblygiad clinigol Nemesis Transmids ©, sef DNA therapwitig a brofwyd mewn modelau cyn-glinigol i wrthdroi ymwrthedd gwrthfiotig mewn bacteria pathogenig. Mae Nemesis yn bwriadu datblygu a chynhyrchu cyfres o Dransmidiau i atgyfodi gwrthfiotigau sy'n cael eu gwneud yn aneffeithiol trwy gynyddu ymwrthedd bacteriol, ac i amddiffyn gwrthfiotigau sydd newydd eu datblygu rhag ysgogi ymwrthedd.

Meddai Dr Rhian Hayward MBE, Prif Weithredwr Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, "Mae Nemesis yn gwmni sy'n ehangu yn gyflym ac mae'n uchelgeisiol. Rydym yn falch o gynnig lle iddyn nhw yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd Nemesis yn canfod bod yna gyfleusterau o'r radd flaenaf yma ar ein Campws Arloesi a Menter newydd sy'n agor ym mis Awst 2020 i ehangu eu gwaith datblygu wrth gydweithio ag arbenigwyr prifysgolion. Edrychaf ymlaen at gefnogi Nemesis i barhau i dyfu a chreu swyddi o safon uchel ar gyfer y rhanbarth."

Meddai Dr Frank Massam, Prif Weithredwr Nemesis Bioscience, "Mae Nemesis bellach wedi esblygu i'r cam lle mae angen cyfleuster annibynnol ymroddedig arno ar gyfer datblygiad cyn-glinigol ei biblinell Transmid sy'n seiliedig ar dechnoleg. Fe wnaethom dreulio misoedd lawer yn chwilio am y partner gorau ar gyfer y symudiad hwn a phenderfynwyd nad oes lle gwell i'r gwaith pwysig hwn na Champws Arloesi a Menter Aberystwyth sy'n tyfu'n gyflym.

"Mae'r safle'n cynnig swyddfa hyblyg a gofod labordy i ni ar gyfer rŵan hyn ac, wrth i'r cwmni barhau i ehangu, mae'n rhoi mynediad inni at seilwaith cynhwysfawr gwyddoniaeth bywyd sy'n bodoli'n barod. Yn holl bwysig, mae hefyd yn darparu cysylltiadau agos â Phrifysgol Aberystwyth â'r ffynhonnell dda iawn o ddoniau gwyddoniaeth bywyd sydd yno. Edrychwn ymlaen at fod yn rhan o ddyfodol y prosiect AberInnovation."