Nod cwmni e-feiciau yw helpu beicwyr i bweru eu hunain o amgylch penrhyn Gŵyr

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Cynaliadwyedd
Gower Electric Bikes

Mae cwmni beiciau trydan yn gwibio ymlaen at lwyddiant yn ei flwyddyn gyntaf, diolch i gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru.

Lansiwyd Gower Electric Bikes yn gynharach eleni, gyda chymorth benthyciad o £17,000 gan Gronfa Micro Fenthyciadau Cymru.

Daeth Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU ym 1956, ac mae’n dal i ennill gwobrau’n rheolaidd fel un o’r lleoedd gorau yn y wlad i ymweld ag ef.

Lansiodd y sylfaenwyr Tom Clulee a Joe Mathews y busnes i helpu ymwelwyr a phobl leol i archwilio mwy o’i olygfeydd godidog a’i fannau prydferth cudd, gyda’u gwasanaeth rhentu yn cwmpasu penrhyn Gŵyr yn ei gyfanrwydd, ynghyd ag Abertawe, y Mwmbwls a Choedwig Clun.

Mae eu fflyd o feiciau batri Trek Powerfly yn galluogi beicwyr llai profiadol i fynd i'r afael â thirwedd syfrdanol yr ardal heb fod angen lefelau athletaidd o ffitrwydd corfforol.

Gall defnyddwyr archebu eu beiciau ymlaen llaw trwy gyfrwng safle Beiciau Trydan Gŵyr, a gallant godi eu beic neu eu cael wedi eu danfon iddynt yn ystod eu taith.

Mae pob beic hefyd yn cynnwys gwefrydd cryno Bosch sydd wedi'i wefru ymlaen llaw, ynghyd ag offer diogelwch sy'n cynnwys helmedau, ategolion sy’n hawdd eu gweld ymhob math o olau a’r goleuadau ar gyfer y beiciau.

Yn ogystal â darparu beiciau ac offer, mae Tom a Joe yn gyfarwydd iawn â llwybrau, llwybr-ffyrdd a chylchdeithiau ar hyd a lled y Gŵyr a gallant helpu i gynghori cwsmeriaid ynghylch y lleoedd sydd wirioneddol werth ymweld â nhw.

Mae Gower Electric Bikes hefyd yn anelu at ddefnyddio 100% o ynni adnewyddadwy i wefru eu beiciau, gan ddefnyddio paneli solar lleol a chyflenwyr ynni gwyrdd.

Dywedodd Tom: “Mae Joe a minnau’n feicwyr profiadol iawn , ond rydyn ni’n gwybod bod lle fel Gŵyr yn gofyn am lefel o ffitrwydd a phrofiad nad oes gan lawer o feicwyr achlysurol efallai, ac efallai y bydd ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn mynd ar daith hamddenol o gwmpas yr ardal.

“Roedden ni eisiau rhoi’r cyfle iddyn nhw weld golygfeydd gwych y Gŵyr, ac i ehangu’r ystod o bobl a fyddai’n teimlo’n gyfforddus yn archwilio’r ardal ar feic.”

Ychwanegodd: “Yn ogystal â cheisio darparu mynediad i Benrhyn Gŵyr ar feic, rydym hefyd yn gwybod y gall opsiynau e-rentu sydd ar gael yn hawdd, gael effaith enfawr mewn ardaloedd trefol - fel y gwelir gan boblogrwydd e-sgwteri ym Mryste - ac rydym hefyd yn danfon ein beiciau i Abertawe, a all fod yn ddefnyddiol iawn i'r rhai sydd am grwydro'r ddinas neu feicio ar hyd y glannau."

Dywedodd ei gydberchennog Joe: “O ystyried ei harddwch naturiol, gall mynd o gwmpas yr ardal mewn car bron ymddangos fel trosedd mewn ffordd i rai ymwelwyr, gan eu bod wirioneddol eisiau cymryd eu hamser i weld yr ardal a’i mwynhau. Mae beiciau trydan wir yn cyd-fynd â’r angen am ddull teithio dymunol, tra’n rhoi cyfle i ymwelwyr ‘fod yn bresennol’ yn ystod eu hamser yma.”

Dywedodd Emily Wood, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Roeddem yn falch iawn o allu cefnogi Gower Electric Bikes mewn cyfnod mor gynnar yn eu bywyd fel busnes.

“Maen nhw’n amlwg yn cydnabod gwerth uchel eu hardal leol, a dylid canmol eu hymrwymiad i ehangu mynediad at olygfeydd hardd penrhyn Gŵyr mewn ffordd gynaliadwy, gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy.”

Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru yn darparu benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000, gyda’r nod o gefnogi busnesau gyda chyfalaf i ddechrau busnes, ariannu’r offer, eiddo, recriwtio a chostau eraill.