Onecom, gyda chefnogaeth LDC, yn cwblhau ei gaffaeliad cyntaf gyda Glamorgan Telecom Group

Sam-Macallister-Smith
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
glamorgan telecom

Mae Onecom, un o ddarparwyr telegyfathrebu annibynnol mwyaf y DU ar gyfer busnesau, wedi caffael Glamorgan Telecom Group am swm na chafodd ei ddatgelu fel rhan o strategaeth uchelgeisiol i ehangu’r busnes dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r caffaeliad yn golygu y bydd Glamorgan Telecom Group a’i refeniw o filiynau yn gwmni Onecom cyn hir gyda’i uwch arweinyddion, gan gynnwys y prif weithredwr, Kelly Bolderson, yn aros gyda’r busnes. Y cytundeb hwn yw’r cyntaf o nifer o gaffaeliadau sydd yn yr arfaeth i Onecom, o dan arweinyddiaeth cyn swyddog gweithredol O2 Ben Dowd, ar ôl iddo sicrhau pecyn cyllido gwerth £100 miliwn gan LDC ac Ares Management Corporation y llynedd.

Bydd caffael y cwmni sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd yn cryfhau presenoldeb Onecom yn Ne Cymru a De Orllewin Lloegr, ac mae’n cynnig cyfleoedd traws-werthu pwysig gan y bydd yn cyfuno gwasanaeth teleffoni llinell sefydlog Glamorgan Telecom gyda’i wasanaethau symudol a chwmwl arloesol.

Wedi’i sefydlu yn 2002 a gyda’i bencadlys yn Fareham, Hampshire, mae Onecom wedi dyblu ei refeniw yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’n cyflogi 400 o bobl mewn 10 swyddfa ranbarthol ac mae ei bartneriaid yn cynnwys Samsung, Apple, Vodafone, Mitel a Gamma. Mae’r farchnad telegyfathrebu symudol busnes i fusnes yn tyfu bedwar y cant bob blwyddyn, ac mae caffaeliadau yn mynd i roi maint ychwanegol i Onecom mewn marchnad sy’n tyfu.  

Mae’r Glamorgan Telecom Group, buddugwyr diweddar yng Ngwobrau Busnes Cymru Siambr Fasnach De Cymru, wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar ôl i’r rheolwyr brynu’r cwmni yn 2017.  Cafodd y pryniant yn 2017 ei ariannu gan Fanc Datblygu Cymru sydd wedi cynorthwyo Glamorgan Telecom Group ers hynny.

Meddai Ben Dowd, prif weithredwr Onecom: “Mae’r sector telathrebu’n gwneud cyfraniad allweddol i hybu cydnerthedd gweithredol busnesau ledled y DU a bydd yn parhau i wneud hynny wrth inni edrych ymlaen at economi gynyddol ddigidol yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae Busnesau Bach a Chanolig yn gwario cymaint ag £8 biliwn y flwyddyn ar delathrebu a chysylltedd a fydd yn y pen draw yn hybu a chyflymu ein twf. Mae buddsoddiad LDC wedi rhoi hwb sylweddol inni eisoes a bydd caffaeliadau strategol eraill yn cyfrannu at y lefel uchel o dwf organig yr ydym yn ei gynllunio wrth inni gynyddu ac amrywio ein gwasanaethau.

“Mae Kelly a thîm Glamorgan Telecom wedi gweithio’n galed i wneud enw iddynt eu hunain fel arweinwyr yn y farchnad, yn rhanbarthol, ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio â hwy fel rhan o Onecom i gryfhau’r arlwy arbennig sydd eisoes ar gael i’w cwsmeriaid.”

Meddai Kelly Bolderson, rheolwr gyfarwyddwr gyda Glamorgan Telecom: “Mae’r sector telathrebu yn tyfu’n gyflym, gyda mwy a mwy o gwsmeriaid yn chwilio am wasanaeth cynhwysfawr i ddiwallu eu hanghenion wrth iddynt newid. Byddwn yn parhau i gael ein hadnabod am ein cryfderau mewn datrysiadau i swyddfeydd; fodd bynnag mae dyfodiad 5G a band eang ffibr cyflym iawn yn golygu cyfleoedd pwysig i ni i ehangu ein hapêl.  Bydd arbenigeddau Onecom mewn gwasanaethau symudol yn ein galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd hynny’n gyflym ac i helpu ein cwsmeriaid mewn mwy o ffyrdd nag erioed o’r blaen.”

Ychwanegodd Yann Souillard, pennaeth Llundain yn LDC: “Bu caffaeliadau strategol yn elfen greiddiol yn strategaeth twf Onecom ers i ni gefnogi’r tîm rheoli yn 2019. Mae dod â Glamorgan Telecom i’r gorlan yn garreg filltir bwysig a fydd yn helpu’r ddau sefydliad i fanteisio ar y galw cynyddol am eu gwasanaethau, i allu cyrraedd ymhellach yn daearyddol ac i gael cyfleoedd newydd ar gyfer traws-werthu.”

Ychwanegodd Sam Macalister-Smith o Fanc Datblygu Cymru: “ Fel buddsoddwyr hirdymor yn Glamorgan Telecom rydym wedi parhau i gefnogi eu strategaeth twf wrth iddynt dyfu i ddod yn un o brif ddarparwyr telegyfathrebu ac atebion cysylltedd ledled Cymru a’r De Orllewin. Mae’r caffaeliad hwn yn gredyd gwirioneddol i Kelly a’r tîm sydd wedi gweithio’n ddiflino i adeiladu’r busnes. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt.”

Mae LDC yn cefnogi’r strategaethau prynu ac adeiladu y mae ei fusnesau portffolio’n eu dilyn. Ers Gorffennaf 2018, mae busnesau sy’n cael eu cefnogi gan LDC wedi caffael mwy na 45 o gwmnïau gyda chyfanswm gwerth menter o fwy na £275 miliwn. Ar hyn o bryd mae mwy na thraean y busnesau ym mhortffolio LDC yn bwriadu tyfu drwy gaffael.  

Cafodd Onecom ei gynghori gan PwC a CMS, a chafodd y Glamorgan Telecom Group ei gynghori gan Gambit Corporate Finance a Capital Law.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr