Mae parc busnes diwydiannol ysgafn newydd mawr ar fin cryfhau tirwedd fasnachol Bro Morganwg ar ôl sicrhau buddsoddiad o £2.83 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.
Bydd y benthyciad o Gronfa Eiddo Masnachol Cymru y Banc Datblygu yn cefnogi adeiladu Cam 1 o Barc Busnes Orchard yn Llandŵ, lle bydd 44 o unedau diwydiannol ysgafn o ansawdd uchel yn cael eu hadeiladu ar draws dau gam. Disgwylir i'r 21 uned gyntaf fod yn barod yn haf 2026, gyda'r cynllun ehangach yn creu sylfaen newydd sylweddol i fusnesau sy'n awyddus i fuddsoddi mewn adeiladau modern yn Ne Cymru.
Unwaith y bydd wedi'i feddiannu'n llawn, disgwylir i Barc Busnes Orchard gynnal rhwng 150 a 180 o swyddi, gan roi hwb mawr i'r economi leol. Bydd y cynllun hefyd yn creu gwerth economaidd yn ystod y gwaith adeiladu, gyda'r prosiect yn cael ei gyflawni gan RDR Contractors, cwmni lleol sydd wedi'i leoli yn Fferm Rosedew yn Llanilltud Fawr, gan ddefnyddio llafur, cyflenwyr a deunyddiau lleol lle bynnag y bo modd.
Mae'r datblygiad yn cael ei arwain gan Loïc Moinon, rheolwr gyfarwyddwr LM Prop, sydd eisoes wedi buddsoddi mwy na £1 miliwn o'i arian ei hun i gaffael a datblygu'r cynllun. Bydd cyllid y Banc Datblygu bellach yn galluogi adeiladu Cam 1, gyda'r ail gam wedi'i gynllunio i ddilyn yn hanner cyntaf 2027.
Wedi'u cynllunio ar gyfer busnesau newydd a sefydledig fel ei gilydd, bydd yr unedau'n cynnig manylebau modern gan gynnwys ffibr optig, toiledau, pŵer tri-cham, digon o le parcio a gwefrwyr cerbydau trydan cymunedol. Bydd mesaninau hefyd ar gael trwy drefniant ymlaen llaw, gan helpu deiliaid i deilwra'r gofod i'w hanghenion.
Loic Moinon , rheolwr gyfarwyddwr LM Prop:
“Dechreuodd y prosiect hwn o rwystredigaeth syml iawn. Roeddwn i’n ceisio dod o hyd i uned fodern ar gyfer fy musnes fy hun ac naill ai allwn i ddim dod o hyd i’r lle cywir neu roeddwn yn canfod fy mod yn cael fy all-brisio. Gwnaeth hynny i mi sylweddoli bod bwlch gwirioneddol yn y farchnad yn lleol, a bod llawer o fusnesau eraill yn debygol o wynebu’r un broblem.
“Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae Parc Busnes Orchard yn ei gynrychioli. Deuthum i Gymru o Ffrainc tua 20 mlynedd yn ôl heb ddim byd, adeiladais fusnesau yma ac rwyf bob amser wedi credu mewn ailfuddsoddi’n lleol. Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â rhoi cyfle i gwmnïau lleol eraill dyfu ar eu stepen drws, mewn safleoedd o ansawdd uchel gyda chysylltiadau mynediad rhagorol, tra’n creu swyddi a defnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd.”
Dywedodd Banc Datblygu Cymru fod y prosiect yn adlewyrchu galw cryf am unedau diwydiannol llai, modern yn y rhanbarth a gwerth cefnogi datblygwyr lleol profiadol sy'n creu seilwaith economaidd hirdymor.
Meddai Karl Jones, uwch swyddog datblygu eiddo ym Manc Datblygu Cymru:
“Parc Busnes Orchard yw’r union fath o ddatblygiad y mae Cronfa Eiddo Masnachol Cymru yno i’w gefnogi . Mae’n gynllun mewn lleoliad da sy’n mynd i’r afael â galw clir yn y farchnad, yn creu lle i fusnesau dyfu ac yn dod â manteision economaidd ehangach i’r ardal leol.
“Mae Loïc wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i wireddu’r prosiect hwn, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad personol sylweddol a phenderfyniad i gyflawni rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol. Rydym yn falch o gefnogi Cam 1 ac o helpu i ddatgloi cynllun a fydd yn cefnogi swyddi, mentrau a chadwyni cyflenwi lleol yn y Fro.”
Mae'r contract adeiladu wedi'i ddyfarnu i RDR Contractors, dan arweiniad y mentergarwr lleol Rhodri Davies, y mae ei fuddiannau busnes ehangach yn cynnwys ffermio, lletygarwch ac adeiladu.
Dywedodd Rhodri Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr RDR:
“Mae Parc Busnes Orchard yn enghraifft wych o’r hyn y gall busnesau lleol ei gyflawni pan fydd buddsoddiad yn cael ei gefnogi gan uchelgais a chyflawniad. Mae’r cynllun hwn wedi’i gynllunio’n lleol, yn cael ei adeiladu’n lleol a bydd yn creu cyfleoedd i fusnesau lleol a phobl leol.
“Rydym yn falch o fod yn rhan o ddatblygiad a fydd o fudd i gymuned y Fro, yn cefnogi mentergarwch ac yn darparu’r math o ofod busnes modern sydd yn brin.”
Mae cam cyntaf y cynllun eisoes yn ennyn diddordeb cryf gan ddarpar ddeiliaid, gydag ymholiadau'n dod gan ystod eang o fusnesau sy'n chwilio am safle hyblyg, wedi'i bennu'n dda yn yr ardal. Anogir partïon sydd â diddordeb i gysylltu â'r asiantau dynodedig, Brinsons, cyn gynted â phosibl.
Mae Cronfa Eiddo Masnachol Cymru yn cynnig benthyciadau o £250,000 i £5 miliwn ar gyfer datblygiadau swyddfa a diwydiannol hapfasnachol ac an-hapfasnachol yng Nghymru gyda thelerau hyd at bum mlynedd. Ers 2017, mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi £27 miliwn mewn prosiectau eiddo masnachol gan arwain at 270,000 troedfedd sgwâr o ofod.