Penodi swyddogion buddsoddi newydd

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
new investment executives

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cadarnhau bod tri swyddog buddsoddi wedi cael eu dyrchafu.

Mae Navid Falatoori, Ruby Harcombe a Jo Thomas i gyd wedi cael eu dyrchafu. Bellach maent i gyd yn gyfrifol am nodi, trafod a chwblhau cytundebau buddsoddi.

Ymunodd Navid a Ruby â'r banc datblygu yn 2016 fel swyddogion buddsoddi cynorthwyol. Bu Navid yn gweithio yn y sector benthyca masnachol yn flaenorol i Gymdeithas Adeiladu'r Principality. Roedd Ruby wedi treulio'r pum mlynedd flaenorol gyda'r Royal Bank of Scotland gan gynnwys dwy flynedd gyda'r tîm cyllid strwythuredig corfforaethol. Ymunodd Jo â'r banc datblygu yn 2005 mewn rôl gefnogol, ac fe symudodd ymlaen yn gyflym i weithio mewn rôl weithredol yn 2008, gan reoli portffolio busnesau bach a chanolig ar hyd a lled y rhanbarth."

Mae Bethan Cousins yn gyfarwyddwr busnes newydd ar gyfer y banc datblygu. Dywedodd: "Rydym yn recriwtio a datblygu'r doniau gorau yng Nghymru i sicrhau bod gennym ni'r ehangder a'r dyfnder o brofiad masnachol sydd ei angen i ddiwallu anghenion busnesau ar hyd a lled Cymru.

"Pobl sydd wrth wraidd ein llwyddiant. Rydym yn gwneud popeth a allwn i ddatblygu o'r tu mewn a rhoi grym i'n swyddogion buddsoddi wneud gwahaniaeth go iawn i'r busnesau yr ydym yn eu cefnogi. Mae'r dyrchafiadau hyn yn haeddiannol ac yn adlewyrchiad o'n hymrwymiad i annog datblygiad personol a phroffesiynol."