Poetry Bookshop y Gelli Gandryll yn mwynhau prydles newydd ar ôl cael micro-fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Poetry Bookshop

Mae'r Poetry Bookshop yn y Gelli Gandryll wedi ail-agor yn ddiweddar mewn lleoliad newydd wedi i'r siop gael ei hadnewyddu, ac fe gafodd hynny ei ariannu'n rhannol trwy gyfrwng micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r siop hefyd wedi ehangu ei stoc i gynnwys gwaith sydd newydd ei gyhoeddi.

A hithau wedi cael ei hagor ym 1979, y Poetry Bookshop yw'r unig siop lyfrau yn y DU sy'n ymroddedig i farddoniaeth ac mae hi'n un o'r siopau sydd wedi cael ei sefydlu hiraf yn Nhref Y Gelli - sy'n enwog am ei Gŵyl lenyddol flynyddol ym mis Mai ac ym mis Mehefin. Mae'r Poetry Bookshop, sy'n eiddo i ac yn cael ei rhedeg gan Christopher a Melanie Prince, yn arbenigo ym mhob agwedd o farddoniaeth; hynafol, ail-law, allan o brint a chyhoeddiadau newydd yn awr. Mae'r teitlau sy'n cael eu gwerthu yn siop yn amrywio o Keats, Byron a Shakespeare i feirdd cyfoes fel Rupi Kaur, Luke Kennard, Rhiannon Hooson a Kate Tempest.

"Mae'r Gelli Gandryll yn nefoedd i bobl sy'n caru llyfrau, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu ehangu ein hapêl ymhellach trwy gynnig cyfle i gwsmeriaid ddod o hyd i'r cyhoeddiadau diweddaraf ochr yn ochr â'r stoc ail-law" eglurodd y cyd-berchennog Melanie. "Ni yw'r unig siop lyfrau o'n math yn y DU gyfan - a gyda'n lleoliad canolog newydd, yr adnewyddiad a'r ehangiad, bellach mae gennym le deniadol ar gyfer darlleniadau a lansiadau llyfrau hefyd."

"Fe wnaeth Gaynor o'r banc datblygu y broses i gyd yn rhyfeddol o hawdd. Roedd hi yno yn ystod pob cam ac roedd yn teimlo ei bod hi wedi treulio amser i ddod i ddeall ein busnes a'n hanghenion. Mae gennym syniad llawer gwell a mwy realistig o'n sector, diolch i gefnogaeth Gaynor, fel arall buasem wedi ymgymryd â'r prosiect yn ddall i bob pwrpas."

"Mae'r Gelli yn lle bywiog a chyffrous ar gyfer y rhai sy'n caru llenyddiaeth ac mae siop Christopher a Melanie yn rhan bwysig o'r dref," ychwanegodd Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru Gaynor Morris. "Mae'r siop bellach wedi ail agor, gydag ymddangosiad newydd a stoc newydd, yn union mewn pryd ar gyfer cyfnod prysur y Nadolig. Mae gan Chris a Mel gynllun busnes da ac maent yn bodloni galw cwsmeriaid gyda'u cynlluniau ehangu."

Gall tîm micro-fenthyciadau Banc Datblygu Cymru drefnu benthyciadau ar gyfer busnesau newydd a busnesau sefydledig o £1,000 i £100,000. Os yw cwmni wedi bod yn masnachu ers mwy na dwy flynedd, mae proses ymgeisio trac cyflym ar gael lle mae penderfyniadau ar fenthyciadau hyd at £10,000 yn cael eu gwneud o fewn dau ddiwrnod busnes.