Profion gwyddonol a gynlluniwyd ar gyfer athletwyr yn elwa ar fuddsoddiad ychwanegol

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
forth sarah bolt

Mae Forth, enillydd ‘Gwobr Arloesi y Flwyddyn Cymru’ yng Ngwobrau Busnes BBaCh Cymru 2019, ar y trywydd cywir i sicrhau trosiant o £1 filiwn eleni ar ôl cael buddsoddiad ecwiti o £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i sefydlu yn 2016 gan yr entrepreneur Sarah Bolt, mae’r cwmni sydd wedi’i leoli yng Nghas-gwent yn creu proffil biofarciwr personol drwy becyn prawf gwaed y gellir ei ddefnyddio gartref.

Gyda thros 10,000 o ddefnyddwyr, gall cwsmeriaid Forth ddod i ddeall biofarcwyr mewnol allweddol eu cyrff er mwyn cael iechyd da gan ddefnyddio prawf gwaed pin-bigo syml. Caiff y prawf gwaed gwyddonol ei brofi mewn labordai achrededig a’i lanlwytho i ddangosfwrdd canlyniadau personol y cwsmer drwy borth y we neu ap Forth.

Gan weithio gyda thîm arbenigol o fiocemegwyr a meddygon, mae Forth wedi llwyddo i adnabod y biofarcwyr mwyaf perthnasol a chywir ar gyfer ffitrwydd, llesiant cyffredinol ac iechyd hormonau. Ymysg y profion mae ffrwythlondeb menywod, y menopos, archwiliadau thyroid, testosteron, colesterol a diabetes.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn seiliedig ar y galw gan gwsmeriaid, mae Forth hefyd wedi datblygu’r unig wasanaeth biodracio yn y byd ar gyfer chwaraeon sydd wedi’i gynllunio i gynyddu gwytnwch, pŵer a chryfder i’r eithaf, sef Forth Edge. Athletwyr sy’n gwneud gweithgareddau i brofi gwytnwch y corff yw ei brif farchnad, er enghraifft beicwyr ffordd, triathletwyr a’r rhai sy’n cymryd rhan yng nghystadleuaethau Ironman.  Cynlluniwyd y pecynnau ar gyfer athletwyr amatur a phroffesiynol sydd am wella eu perfformiad a chael Record Bersonol newydd. Mae’r canlyniadau yn dangos i athletwyr a ydynt yn hyfforddi’n ormodol,  a oes angen rhagor o amser arnynt i ddod at eu hunain neu a oes angen gwella eu deiet. 

Mae pob pecyn Forth Edge wedi’i deilwra’n benodol i gyd-fynd â’r prif fath o ymarfer corff ac mae’n  cynnwys fersiwn ar wahân i fenywod a dynion, ac yn sicrhau mai dim ond y biofarcwyr mwyaf perthnasol a gaiff eu dadansoddi a’u dehongli.

Gellir creu proffil prawf personol hefyd. Gan ddefnyddio algorithm unigryw a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â’r tîm gwyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe,  gall defnyddwyr greu eu prawf personol sydd wedi’i deilwra i gyd-fynd â’u hamgylchiadau megis nifer yr oriau y maent yn hyfforddi, y math o weithgaredd ac unrhyw faes sy’n peri pryder neu gyflwr presennol.

Derbyniodd Forth gydfuddsoddiad ecwiti o £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru ar ôl cael eu cyflwyno gan yr angel buddsoddi Craig Gulliford, Prif Swyddog Gweithredol Creo Medical. Creo oedd y pedwerydd cwmni sy’n rhan o bortffolio menter technoleg y Banc Datblygu i gael ei restru ar yr AIM o fewn pedair blynedd.  Llwyddodd y cwmni i godi dros £100 miliwn gyda’i gynnig cyhoeddus cychwynnol ym mis Rhagfyr 2016 a gwelwyd cynnydd dilynol yn statws y cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Llundain drwy’r AIM.

Sarah Bolt yw sylfaenydd a Phrif Weithredwraig Forth. Meddai: “Mae pobl yn awyddus i gael gwybod mwy am eu hiechyd personol er mwyn cyflawni eu llawn botensial. Mae ein dangosfwrdd canlyniadau yn hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio er mwyn rhoi mwy o allu i’r cwsmer ddod i ddeall mwy am ei gorff. Caiff canlyniadau’r profion cartref eu prosesu o fewn 48 awr drwy ddangosfwrdd personol ac rwy’n falch o gael dweud mai ni yw’r unig gwmni creu proffil biofarciwr sy’n cynnig ap ffôn symudol i’n cwsmeriaid.

“Gyda chefnogaeth Craig Gulliford a Banc Datblygu Cymru, rydym bellach mewn sefyllfa dda i ddatblygu ein cynnig ymhellach gyda chynlluniau i allforio i Ewrop yn ddiweddarach eleni. Mae hon yn farchnad newydd felly roedd gofyn cael hyder i gredu yn ein cynnyrch a’n cefnogi gyda’n nod o helpu’r defnyddiwr iechyd digidol newydd i fod ar ei orau.”

Meddai Dr. Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru:

“Ers i Sarah a’i thîm adleoli’r pencadlys i Gymru mae Forth wedi gwneud cynnydd cyffrous.  Mae gan y cwmni gynnyrch gwych wedi’i ategu gan arbenigedd gwyddonol. Mae’n wych gweld angerdd Sarah tuag at wella iechyd pobl ac rydym yn falch ei bod yn rhan o’n portffolio o fusnesau sydd wedi’u sefydlu gan fenywod entrepreneuraidd - portffolio sy’n prysur ehangu. Rwy’n falch o gael parhau i weithio gyda Craig yn dilyn llwyddiant Creo a’i weld yn rhannu ei arbenigedd â menter dechnoleg gyffrous arall o Gymru.

Craig Gulliford, Prif Swyddog Gweithredol CREO Medical oedd un o’r rhai cyntaf i fuddsoddi yn Forth. Meddai: “Ar ôl cwrdd â Sarah am y tro cyntaf roedd gennyf ddiddordeb yn ei chynnig yn ogystal â’i dycnwch, ei hangerdd a’i dyfalbarhad i lwyddo gyda’r prosiect.

“Gwelsom eisoes fod defnyddwyr yn fwy na pharod i wario ar nifer o gynnyrch a gwasanaethau sy’n eu galluogi i fod yn gyfrifol am eu hiechyd.  Mae cyfrif camau ar y we, patrymau cysgu, profion DNA, cyflymder y galon, pwysau, cyfansoddiad y corff a nifer o ffactorau eraill yn ffordd o fyw i lawer erbyn hyn. Mae Forth a Forth Edge gam arall yn nes tuag at fwy o integreiddio ble y gall pobl fonitro metrigau allanol ochr yn ochr â mesurau mewnol sy’n mynd law yn llaw â’i gilydd.

“Roedd yn amlwg i mi mai gweledigaeth Sarah yw sicrhau bod Forth yn arweinydd technolegol yn y sector hwn gyda’r dangosfwrdd biofarcwyr allweddol cyntaf ar ffurf ap yn rhan arloesol o’r cam nesaf yn y farchnad fawr hon sy’n tyfu, a chyfle i barhau i arloesi drwy integreiddio iechyd, maeth a llesiant personol fwyfwy.  Ers fy muddsoddiad cychwynnol mae’r cwmni wedi mynd o ddim i greu refeniw cylchol a thwf chwarterol cyson gyda refeniw sylweddol yn cael ei greu drwy’r broses danysgrifio sy’n dangos bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi buddsoddiad rhagataliol parhaus yn eu hiechyd.  Mae’r tîm cyfan wedi gwneud gwaith gwych hyd yma a dim ond megis dechrau ar y daith o greu datblygiadau cyffrous gyda’r dechnoleg hon yw hyn.”