Propco yn cwblhau ail gam Parc Busnes Waterside

Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
lamby way

Mae Propco Developments Limited wedi cwblhau ail gam Parc Busnes Waterside gyda'r holl wyth uned ar safle Lamby Way yn Rhymni, Caerdydd bellach wedi'u gosod neu eu gwerthu yn llawn.

Wedi'i ariannu'n rhannol gan fenthyciad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru, mae cam dau yn safle gwerth £1.5 miliwn sy'n cynnwys wyth uned ddiwydiannol. Mae chwech wedi'u gwerthu i ddeiliaid sy'n cynnwys Richard Kemble Ceilings, Puma Floors ac Absolute Performance gyda dwy uned wedi'u gosod ar brydlesi deng mlynedd.

Datblygodd Propco gam cyntaf Parc Busnes Waterside yn 2007 sy'n cynnwys 18 uned defnydd hyblyg o faint tebyg. Ar gyfer yr ail gam hwn, cyflogwyd BECT Building Contractors i adeiladu'r safle un erw. Mae cyfanswm y datblygiad bellach yn cynnwys 26 uned yn amrywio o 1,200 i 3,500 troedfedd sgwâr. Cynigir cysylltiadau ffordd rhagorol, mae'r unedau o safon manyleb uchel ac maent yn cynnwys mynediad ar wahân i gerddwyr a drysau o fath shyteri rholer. Cyflogwyd Cushman and Wakefield and Jenkins Best fel cyd-asiantau ar gyfer y safle.

Dywedodd James Coombs, Rheolwr Gyfarwyddwr Propco Developments  “Mae safleoedd masnachol o’r natur hwn yn aml yn cael eu datblygu ar sail hapfasnachol ac o’r herwydd gallant fod yn heriol wrth geisio sicrhau cyllid. Roedd hyn, ynghyd â heriau ychwanegol Covid, yn golygu y gallai’r safle hwn fod wedi mynd yn segur yn hawdd oni bai am gefnogaeth Banc Datblygu Cymru.

“Mae’r cyllid wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ni; gan roi'r cysur a'r sicrwydd inni barhau â'r datblygiad eleni ar adeg pan mae Covid-19 wedi effeithio cymaint ar y sectorau eiddo ac adeiladu. Yn fwy na hynny, roedd cyflymder y broses benderfynu yn ddefnyddiol iawn ac roedd yn golygu ein bod yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith ar y safle yn ddi-oed.”

Nicola Crocker, Dirprwy Reolwr  Gronfa: "Mae Parc Busnes Waterside yng Ngwynllŵg yn un o brif leoliadau diwydiannol aml-osod a dosbarthu yng Nghaerdydd gyda llawer o ddeiliaid o ansawdd sy'n gwerthfawrogi'r cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog. Er ei fod yn ddatblygiad hapfasnachol, nid yw'n syndod bod cam dau eisoes wedi'i werthu a'i osod yn llawn.

“Dyluniwyd ein cronfa eiddo masnachol i gefnogi datblygwyr gofod swyddfa a diwydiannol newydd yng Nghymru; cefnogi datblygiadau hapfasnachol a chynlluniau nad ydynt yn hapfasnachol gyda'r gallu i helpu i fynd i'r afael â bylchau hyfywedd ar gynlluniau cymwys. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi James a Propco ymhellach wrth iddynt barhau i ddatblygu eu portffolio o eiddo masnachol o ansawdd uchel.”

Dywedodd y Gweinidog Economi, Ken Skates: “Mae Banc Datblygu Cymru wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein busnesau yn ystod blwyddyn hynod heriol. Nid yn unig eu bod wedi darparu mwy na £135 miliwn i fusnesau Cymru er mwyn eu helpu drwy'r pandemig, maent hefyd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau y gall prosiectau pwysig fel hyn ddigwydd.

“Mae'r ffaith bod yr holl unedau yn y datblygiad hwn wedi cael eu gosod neu eu gwerthu yn llawn eisoes yn dangos faint o alw sydd yng Nghymru amdanyn nhw, a pham ei bod mor hanfodol ein bod ni'n gallu darparu'r gefnogaeth angenrheidiol sydd ei hangen i helpu i'w gwireddu.”

Rheolir y gronfa eiddo masnachol gwerth £55 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a gall ddarparu elfen o gyllid grant ochr yn ochr â benthyciad ad-daladwy i helpu i fynd i'r afael â bylchau hyfywedd. Mae benthyciadau o £150,000 i £5 miliwn ar gael ar gyfer datblygwyr preswyl, defnydd cymysg a masnachol tymor byr yng Nghymru.