- Mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Fanc Datblygu Cymru yn dangos bod dros £100 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn datblygiadau preswyl, defnydd cymysg a masnachol
- Mae cyllid ar gyfer 79 o ddatblygwyr BBaCh wedi creu dros 1200 o gartrefi newydd a 100,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol ledled Cymru ers 2013
- Bydd Banc Datblygu Cymru yn rheoli Cynllun Hunanadeiladu Cymru sydd newydd ei lansio, mae'n gronfa gwerth £40 miliwn sy'n cynnig benthyciadau i unigolion sy'n adeiladu eu cartrefi eu hunain ar blotiau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw
Mae 79 o ddatblygwyr eiddo BBaCh wedi elwa o fuddsoddiadau gwerth cyfanswm o £100 miliwn ar gyfer 112 o brosiectau datblygu eiddo yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Fanc Datblygu Cymru.
Fe'i lansiwyd yn 2013, a £10 miliwn oedd y gronfa datblygu eiddo i ddechrau. Fe’i cynyddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017 o £32 miliwn cyn lansiad y gronfa Safleoedd Segur gwerth £40 miliwn yn 2018 ac yna’r Gronfa Eiddo Masnachol gwerth £55 miliwn yn 2019. Mae cyllid gwerth cyfanswm o £137 miliwn bellach o dan reolaeth Banc Datblygu Cymru; darperir benthyciadau tymor byr o hyd at £5 miliwn ar gyfer datblygwyr preswyl, masnachol a defnydd cymysg yng Nghymru.
Mae'r buddsoddiad o £100 miliwn hyd yma wedi helpu i ariannu'r gwaith o adeiladu dros 1200 o gartrefi newydd, gan gynnwys 100 o gartrefi fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys cynllun preswyl newydd gan Beech Developments yng Nghaernarfon lle gwelir 23 o gartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer y gymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd fel rhan o ddatblygiad eiddo o 45 o dai yn y dref.
Cenydd Rowlands yw'r Cyfarwyddwr Eiddo ar gyfer y Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae’r ffigyrau hyn yn galonogol iawn, yn enwedig o ystyried y ffaith mai dim ond ers 2017 y mae gennym dîm eiddo pwrpasol. Yn wir, gwnaed mwy na £65 miliwn o gyfanswm y buddsoddiad yn ystod y tair blynedd ddiwethaf yn unig. Fodd bynnag, y mesur mwyaf buddiol yw ein bod, mewn dim ond chwe blynedd, wedi ariannu dros 100 o ddatblygiadau bach a chanolig eu maint, ac mae pob un ohonynt yn darparu cartrefi newydd, defnydd cymysg a gofod masnachol mawr eu hangen mewn cymunedau ledled Cymru.
“Gall datblygwyr bach gael effaith economaidd barhaus sylweddol ar gymunedau lleol. Mae strwythur ein cronfeydd yn caniatáu ailgylchu ad-daliadau yn gyflym, sy'n golygu y gellir defnyddio'r un arian sawl gwaith i gefnogi nifer o wahanol brosiectau; creu cartrefi, swyddi a chyfleoedd cadwyn cyflenwi lle mae eu hangen fwyaf, ble bynnag maen nhw yng Nghymru.”
Mae dros 100,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol newydd wedi'i ddatblygu gan gynnwys trydydd cam Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon yn Aberystwyth. Y datblygwyr Ellis Development Company (Wales) Ltd oedd y cyntaf i elwa o gyllid o Gronfa Eiddo Masnachol Cymru ar gyfer y datblygiad sy'n cynnwys 12 uned gyda chyfanswm o 16,910 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol hapfasnachol a masnachol.
Wedi’i lansio yn 2019 i annog datblygwyr BBaCh i fuddsoddi ym marchnad eiddo masnachol Cymru, mae Cronfa Eiddo Masnachol Cymru gwerth £55 miliwn yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Nod y gronfa yw cefnogi datblygiad dros 400,000 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol a swyddfeydd mawr eu hangen ledled Cymru fel rhan o gynllun cyflenwi eiddo ehangach dros y deng mlynedd nesaf i gyflawni yn erbyn yr uchelgeisiau a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru . Mae benthyciadau o £250,000 i £5 miliwn ar gael gydag uchafswm o bum mlynedd ar gyfer prosiectau defnydd cymysg a datblygu masnachol yng Nghymru.
Aeth Cenydd yn ei flaen i ddweud: "Gyda thîm arbenigol sy'n deall yr heriau o adeiladu, rydym yn gallu gweithio gyda datblygwyr i greu dull gweithredu wedi'i deilwra i weddu pob cynllun unigol.
“Mae Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen safleoedd ac adeiladau modern ar fusnesau o bob maint ledled Cymru a fydd yn eu galluogi i ehangu a thyfu. Mae Cronfa Eiddo Masnachol Cymru gwerth £55 miliwn yn allweddol i gyflawni hynny ac mae eisoes yn annog datblygwyr llai i fuddsoddi mewn cymunedau; rhoi hwb i'r rhagolygon economaidd a phrofi sut y gall y sector gyhoeddus a phreifat weithio mewn partneriaeth er budd pobl a'r economi leol.
“Mae datgloi safleoedd segur hefyd yn amcan allweddol. Trwy gyfrwng y Gronfa Safleoedd Segur gallwn ddarparu benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl yng Nghymru na ellir eu symud ymlaen gyda chyllid datblygu traddodiadol. Mae benthyciadau o £150,000 i £4 miliwn ar gael ar gyfer hyd at 90% o'r Gwerth Datblygu Gros gan gynnwys hyd at 100% o'r costau adeiladu gyda thelerau o hyd at bedair blynedd."
Mae Banc Datblygu Cymru hefyd yn gyfrifol am reoli cynllun Hunanadeiladu Cymru sydd newydd ei lansio, sy'n cynnig benthyciadau a chefnogaeth i unigolion sy'n adeiladu eu cartrefi eu hunain ar blotiau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw a ddarparwyd gan awdurdodau lleol. Gall benthyciad Hunanadeiladu Cymru gynnwys 75% o bris prynu plot a 100% o'r costau adeiladu ac nid oes angen gwneud ad-daliadau am hyd at ddwy flynedd. Bydd hyn yn caniatáu i bobl dalu eu costau byw yn ystod y broses adeiladu ac yna ad-dalu'r hyn maen nhw wedi'i fenthyg trwy godi morgais safonol ar eu cartref newydd ar ôl ei gwblhau. Gall prynwyr tro cyntaf adeiladu eu blaendal i mewn i'w cartref newydd.
Bydd plotiau yn cael eu hychwanegu at y cynllun yn barhaus ond ni fyddant yn cael eu rhyddhau ar sail y cyntaf i'r felin nac ar sail y bid uchaf. Dyfernir cyllid yn seiliedig ar system sgorio i sicrhau bod ymgeiswyr yn cwrdd â'r blaenoriaethau a nodwyd gan bob awdurdod lleol i sicrhau bod anghenion tai a chymdeithasol yn cael eu diwallu.
Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a bydd y gronfa £40 miliwn yn cael ei hailgylchu gan arwain at fuddsoddiad rhagamcanedig o £210 miliwn dros dymor y cynllun. Ychwanegodd Cenydd: “Mae ysgogi ein marchnad dai ac eiddo yn sbardun allweddol i dwf economaidd. Gall y sector hunanadeilady ac adeiladu pwrpasol ddod yn gyfrannwr pwysig at hyn ond yn aml mae prosiectau o'r fath yn cael eu hystyried y tu hwnt i gyrraedd y person cyffredin. Bydd cynllun Hunanadeiladu Cymru yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau a'r ansicrwydd sy'n atal pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain tra hefyd yn diwallu anghenion lleol fel creu cartrefi wedi'u haddasu neu ddenu rhai proffesiynau i ardal benodol fel meddygon teulu. Bydd y cynllun hefyd yn cynnig cynnydd cynaliadwy yn y galw am adeiladwyr lleol, crefftwyr a chadwyni cyflenwi, a fydd yn gwella yr effaith gadarnhaol y mae ein cronfeydd yn ei chael ar draws marchnad eiddo Cymru ymhellach.