Helpodd cyllid dyled ac ecwiti gwerth cyfanswm o £152 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru 502 o fusnesau i greu a diogelu 6,185 o swyddi ledled Cymru yn ystod 2024/25. Dosbarthwyd 82% o'r busnesau hyn fel microfusnesau.
Mae'r ffigurau record hyn wedi cael eu rhyddhau heddiw (dydd Mercher 28 Mai 2025) gan Fanc Datblygu Cymru ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025. Mae'n dod â'r cyfanswm a fuddsoddwyd mewn busnesau bach a chanolig a datblygwyr eiddo gan y Banc Datblygu ers ei lansio yn 2017 i £958 miliwn.
Gyda'r amcanion craidd i hwyluso diwylliant mentergarol, cefnogi cynhwysiant ariannol a blaenoriaethu effaith gymdeithasol, mae gan y Banc Datblygu £2 biliwn mewn cronfeydd dan reolaeth a phortffolio o fwy na 3,600 o gwsmeriaid busnesau bach. Mae uchafbwyntiau 2024/25 yn cynnwys:
- Cyd-fuddsoddiad y sector preifat yn cynyddu o £50.1 miliwn yn 2023/24 i £64 miliwn yn 2024/25
- Cynnydd o 26% mewn cyllid ar gyfer y sector eiddo i £48 miliwn yn 2024/25
- Pum allanfa lwyddiannus yn 2024/25 yn gyfanswm o £7.4 miliwn
- Cytundebau'n amrywio o fenthyciadau o £2,000 i £17.5 miliwn gyda maint cyfartalog y cytundeb yn tyfu o £255,000 yn 2023/24 i £272,000 yn 2024/25
- Elwodd 28 o fusnesau o £7.9 miliwn o Gronfa Buddsoddi Cymru Banc Busnes Prydain a reolir gan FW Capital, gan ddenu £1.1 miliwn o gyd-fuddsoddiad gan y sector preifat a chreu neu ddiogelu 538 o swyddi.
Fel sefydliad cyllid cyhoeddus sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, mae'r Banc Datblygu yn darparu benthyciadau ac ecwiti i fusnesau, pobl a chymunedau Cymru i gefnogi amcanion polisi ehangach y Llywodraeth gan gynnwys y newid i economi carbon isel a datblygu cartrefi newydd ac eiddo masnachol.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
“Mae’r Banc Datblygu yn adnodd unigryw i Gymru – yn hyrwyddo arloesedd, yn cynyddu ffyniant, ac yn cefnogi’r newid i economi gynaliadwy.
“Mae’r canlyniadau trawiadol hyn yn dangos bod y Banc Datblygu yn cyflawni er lles economi Cymru drwy ei gwneud hi’n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i gychwyn, cryfhau a thyfu.”
Cymerodd Sally Bridgeland FIA yr awenau fel Cadeirydd newydd Banc Datblygu Cymru ym mis Medi 2024. Dywedodd: “Hybu twf a datgloi buddsoddiad trwy gynyddu’r cyflenwad o gyllid dyled ac ecwiti ar gyfer busnesau bach a chanolig yw’r hyn sy’n sail i gynaliadwyedd hirdymor unrhyw economi.
“Mae’r Banc Datblygu yn sefydliad sy’n cyflawni newid cadarnhaol, parhaol. Gyda’n gilydd, rydym yn falch o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a phopeth rydym yn ei wneud i gefnogi dyheadau Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, gan greu cyfleoedd, darparu gwerth am arian am gronfeydd cyhoeddus a chydweithio ag eraill i gynyddu buddsoddiad yng Nghymru.”
Giles Thorley yw Prif Weithredwr y Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae 2024/25 wedi bod yn flwyddyn gadarnhaol gyda mwy o gyllid i fwy o fusnesau nag erioed o’r blaen. Yn wir, rydym wedi gweld galw cryf am gyllid dyled ac ecwiti ledled Cymru ac mae Cronfa Fuddsoddi Cymru wedi perfformio’n arbennig o dda, gan helpu i yrru twf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi arloesedd a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru a Banc Busnes Prydain i wneud y lefel hon o fuddsoddiad yn bosibl.
“Gyda thimau wedi’u lleoli ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled Cymru, rydym yn gweithio ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys y rhai sy’n cynnig y cyfleoedd twf uchaf. O dwristiaeth a lletygarwch i wyddorau bywyd ac amddiffyn, mae’r cyfan yn ymwneud â sicrhau y gall busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n symud yma gael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt i gychwyn, ehangu, mabwysiadu technolegau newydd a chreu cyfleoedd cyflogaeth.”
Cyhoeddir dadansoddiad manwl o ddatganiadau ariannol Banc Datblygu Cymru yn adroddiad blynyddol 2024/25 yn ddiweddarach eleni.