RhPC yn arwain at ddegawd o lwyddiant

David-Knight
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
fergusons

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Fergusons & Peters.

Mae cyfrifwyr yn Abertawe, Fergusons & Peters, yn dathlu 10 mlynedd o helpu busnesau i dyfu a datblygu.

Yn dilyn Pryniant o'r Cwmni gan y Rheolwyr yn 2008, cymerodd Tracey Jones a Dean Beniamous y cwmni drosodd gan y sylfaenydd Keith Ferguson.

Ym mis Mai 2017 cymerodd Fergusons, sydd wedi'i leoli yng Ngorseinon, gam pwysig arall pan gaffaelodd Harvey Peters & Co, practi ym Mhontardawe, mewn buddsoddiad chwe ffigwr a gefnogwyd gan is-gwmni Tata Steel, UK Steel Enterprise a Banc Datblygu Cymru (Cyllid Cymru gynt).

Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae'r practis newydd - Fergusons & Peters - yn cynyddu eu lefelau staffio a'i sylfaen cleientiaid, ac yn bwriadu ehangu ymhellach

Yr hyn sydd wedi bod yn allweddol i'w llwyddiant, oedd cyflwyno'r dechnoleg gyfrifyddu ddiweddaraf i'r cwmni newydd a helpu cleientiaid i symud i gyfnod newydd o dreth ddigidol.

"Rydyn ni wedi cyflwyno'r dulliau diweddaraf megis cyfrifo Xero Cloud ar draws y practis mwy ac mae hyn wedi bod yn llwyddiant mawr," meddai'r Cyfarwyddwr Tracey Jones.

"Mae'r tîm a'r cleientiaid yn gweld manteision gweithio fel hyn. Rydym yn cael golwg gyffredinol ar eu busnesau, sy'n golygu ein bod ni yn y sefyllfa orau i gynghori ar gynllunio treth, neu broblemau llif arian posibl."

Gyda 17 o staff yn gweithio yn eu dwy swyddfa, mae'r cwmni'n bwriadu ychwanegu tri arall at y tîm yn y dyfodol agos i ymdopi â gofynion cynyddol busnes newydd.

Mae yna gleientiaid o bob maint, yn amrywio o unig fasnachwyr i gorfforaethau mawr, ac yn cwmpasu ystod eang o sectorau.

Dywedodd y cyd-gyfarwyddwr Dean Beniamous: "Mae gennym ystod eang o arbenigedd a chyfoeth o brofiad mewn sawl maes busnes.

"Rydyn ni'n falch iawn o lefel y gwasanaeth a'r ymrwymiad a roddwn i'n cleientiaid. Rydym yn ddigon bach i fod yn ymwneud yn agos â'n cleientiaid, ond eto'n ddigon mawr i gael yr ystod o sgiliau sydd ar gael i ni."

Bu'r gefnogaeth gan UK Steel Enterprise a Banc Datblygu Cymru yn hanfodol i lwyddiant y cwmni.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom, ac ni allem fod wedi datblygu'r practis fel yr ydym ni oni bai am hynny," ychwanegodd Tracey Jones.

Ychwanegodd Martin Palmer, Swyddog Buddsoddi gyda UK Steel Enterprise: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi Fergusons a Peters. Mae'r cwmni'n cynorthwyo busnesau lleol ar adeg pan fo HMRC yn newid y gyfundrefn dreth, a'u helpu i addasu i hyn."

Mae'r practis ei hun hefyd yn ehangu ac yn ychwanegu swyddi medrus, a gall hyn ddim ond bod yn beth da i'r economi leol. Dymunwn bob llwyddiant iddynt a gobeithiwn y byddwn yn gallu cefnogi cynlluniau pellach yn y dyfodol."

Mae David Knight yn Swyddog Buddsoddi gyda thîm micro-fenthyciad Banc Datblygu Cymru.

Meddai: "Mae busnesau bach sefydledig fel Fergusons a Peters wrth wraidd ein heconomi a'n cymuned leol. Yma’n y Banc Datblygu Cymru, rydym yn falch ein bod wedi gallu cefnogi eu twf wrth iddynt fuddsoddi yn y dyfodol i ehangu; datblygu gwasanaethau sydd mawr eu hangen a chreu swyddi newydd medrus iawn. Dymunwn bob llwyddiant i'r tîm."

Degawd o lwyddiant: o'r chwith, Martin Palmer o is-gwmni Tata Steel UK Steel Enterprise, Tracey Jones a Deon Beniamous o Ferguson & Peters