Saith cam ar gyfer dechrau eich busnes eich hun

Anna-Bowen
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Newidwyd:
Dechrau busnes

Mis Ionawr yw'r adeg pan fo addunedau'r Flwyddyn Newydd yn cael eu gwneud. Er bod yr un  addunedau yn gyffredin i lawer o bobl: bod yn heini, bwyta'n iachach, rhoi’r gorau i rywbeth, dysgu rhywbeth newydd, i rai eraill - efallai ei bod hi'n bryd crafu'r gosfa entrepreneuraidd sydd gennych a dechrau eich busnes eich hun.

Fel un sy'n cefnogi busnesau newydd rydym wedi gweld busnesau o bob math a maint, ac yn seiliedig ar ein profiad ni, rydym yn awgrymu bod y saith cam allweddol a ganlyn yn rhai y dylai rhywun sydd eisiau bod yn berchennog busnes eu dilyn i lansio eu busnes llwyddiannus eu hunain eleni. 


1.)    Darganfyddwch y syniad busnes cywir 

Ni ddylai eich syniad busnes fod yn ymwneud â gwneud elw yn unig. Mae angen iddo fod yn addas iawn i chi yn bersonol, apelio i'ch marchnad darged, a bod yn iawn ar gyfer lle'r ydych chi'n byw. Mae adeiladu busnes yn cymryd amser, felly dylech chi fod yn gwneud rhywbeth y gallwch chi ei ‘fyw a'i anadlu’ fel petai yn y tymor hir.

2.)    Gwnewch eich ymchwil

Ar ôl i chi ddod o hyd i'r syniad busnes cywir i chi, yna mae angen i chi ddechrau edrych ar y ffactorau allanol o'i gwmpas. Mae ymchwil marchnad a chystadleuwyr yn bwysig er mwyn deall sut i wneud i'ch syniad busnes weithio yn y byd go iawn. Profwch eich syniad ar ffrindiau a theulu, i weld a yw'ch syniad yn gweithio i bobl eraill ac os gallant ddychmygu y buasai'n apelio i'r farchnad.

3.)    Ysgrifennwch gynllun busnes

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau newydd sy'n dechrau angen rhyw fath o arian cyllido y tu hwnt i gyllid personol, ac os felly bydd angen i chi wneud cynllun busnes. Dylai hyn gynnwys eich ymchwil yn ogystal â pha gynhyrchion a gwasanaethau y byddwch yn eu cynnig, eich cynllun marchnata a gwerthiant, unrhyw gostau a fydd gennych, data ariannol a rhagolygon llif arian. Dylech hefyd restru unrhyw aelodau posibl o'ch tîm rheoli. Os oes angen help arnoch i ysgrifennu cynllun busnes gall ein cydweithwyr yn Busnes Cymru eich helpu chi.

4.)    Brandiwch eich busnes

Mae brand cryf yn ganolog i ffyddlondeb cwsmeriaid a gwerthiant uwch. Os credwch fod brandio yn rhywbeth y mae busnesau mawr yn ei wneud, yna dylech ail feddwl; mae brand yn hanfodol i fusnesau o bob maint a siâp.

5.)    Gwnewch o’n gyfreithiol

Cyn i unrhyw fusnes ddechrau mae yna nifer o flychau cyfreithiol y mae angen eu ticio. Gall hyn gynnwys cofrestru enw eich busnes, nodau masnach neu batentau, cael unrhyw drwyddedau ac yswiriant perthnasol, a sicrhau bod eich rhwymedigaethau treth yn cael eu bodloni. Mae Busnes Cymru yn rhoi cyngor am ddim ar ddewis y strwythur cyfreithiol cywir ar gyfer eich busnes a chofrestru ar gyfer treth, ac fe ddylid gofyn am gyngor cyfreithiol mwy manwl gan gynghorwyr ariannol a chyfrifwyr.


6.)    Ariannu eich busnes

Er mwyn rhoi hwb i chi ddechrau efallai y byddwch chi angen arian ychwanegol. I wneud hyn, bydd angen i chi gydweddu anghenion y cwmni gyda'r opsiwn ariannu priodol. Er bod rhai busnesau yn cael eu dechrau gyda chyllid personol yn unig mae nifer angen buddsoddiad allanol. P'un a yw hynny'n dod o fanc, angel neu rywun fel ni, os oes gennych gynllun busnes cadarn a bod datganiadau ariannol cadarn yn eu lle ni ddylai cael gafael ar gyllid allanol fod yn rhy anodd.

7.)    Paratowch i'w lansio

Unwaith y bydd yr arian yn y banc a'r pethau cyfreithiol wedi cael eu gwneud, gallwch ddechrau paratoi i'w lansio. Mae hyn yn golygu prynu unrhyw offer angenrheidiol, dodrefnu eich swyddfa neu'ch siop, hyfforddi unrhyw staff a chyflwyno ymgyrch farchnata cyn ac ar ôl eich lansiad. Ni fydd pobl yn prynu'r hyn nad ydyn nhw'n ei adnabod neu yn gwybod amdano felly mae sylw trwy farchnata'n bwysig fel bod busnes newydd yn ddechrau cynhyrchu gwerthiant.
Nid yw dechrau'ch busnes eich hun yn beth hawdd i'w wneud ac mae'n ymrwymiad mawr, ond gall y gwobrau fod yn enfawr. Gall gynnig manteision sydd nid yn unig yn ariannol ond o ran boddhad swydd, trwy ddilyn yr hyn rydych yn teimlo'n angerddol amdano a bod yn fos arnoch chi eich hun, gall fod yn brofiad sy'n newid bywyd.


Gall Banc Datblygu Cymru ddarparu benthyciadau masnachol o £1000 i £5 miliwn ar gyfer busnesau newydd sy'n dechrau yng Nghymru. Os ydych chi'n chwilio am gyllid i ddechrau, ewch i weld bancdatblygu.cymru