The shed gan James Sommerin yn agor yn y Barri

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
james sommerin

Mae menter ddiweddaraf cogydd seren Michelin James Sommerin bellach ar agor yn Y Barri.

Wedi’i leoli yn y Goods Shed gyda phrydles 15 mlynedd, mae ‘The Shed by James Sommerin’ yn fwyty sy'n eistedd 30 sy’n eiddo i ac yn cael ei reoli gan Head in the Shed Limited; busnes newydd ei sefydlu gan James a'i wraig Louise ynghyd â'r buddsoddwyr Liam Murphy a Sarah Weaver. Sicrhawyd benthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru a grant o £60,000 gan Croeso Cymru. Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid trwy'r Buddsoddiad Busnes Gwledig - Cronfa Busnesau Micro a Bach Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae ‘The Shed by James Sommerin’ yn meddiannu’r adeilad rheilffordd Fictoraidd a ddatblygwyd gan DS Properties (Goods Shed) Limited. Mae'r ganolfan adloniant a busnes bron â chael ei chwblhau yn dilyn buddsoddiad o £2.9 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'n rhan o'r Chwarter Arloesi yng Nglannau'r Barri, menter adfywio ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru.

Wedi'i ddylunio fel cyrchfan fwyta modern a chyfoes, mae athroniaeth y bwyty newydd wedi'i ganoli ar dreftadaeth ddiwydiannol falch Y Barri. Mae lleoliad unigryw, The Shed by James Sommerin wedi'i ddatblygu gan grefftwyr lleol a ddefnyddiodd ddeunyddiau a adferwyd yn lleol.

Dechreuodd James Sommerin ei yrfa yn 12 oed gan weithio ar fore Sadwrn mewn Bwyty Eidalaidd yng Nghasnewydd. Ar ôl gadael yr ysgol, cafodd ei swydd gyntaf yn coginio llawn amser yng Ngwesty Cwrt Bleddyn ger y Wysg.

Oddi yno, yn 16 oed, y penderfynodd symud i'r Alban a gweithio yng Ngwesty Farleyer House o dan arweiniad y Prif Gogydd, Richard Lythe. Dysgodd Richard iddo ddealltwriaeth am dymoroldeb, ansawdd a hanfod blas. Tra bu yn Yr Alban, coginiodd James ar gyfer agoriad Senedd yr Alban ac roedd hefyd ar y rhestr fer ar gyfer ‘Cogydd Ifanc y Flwyddyn yr Alban’.

Yna cyfarfu James â'i wraig Louise ac ar ôl priodi a chael eu merch gyntaf, penderfynon nhw symud yn ôl i Gymru. Dechreuodd weithio yn y Crown yn Whitebrook ym mis Awst 2000 fel Sous Chef a daeth yn Brif Gogydd ar ddiwedd 2003. Cafodd James ei Seren Michelin gyntaf yn 2007, cyflawniad y mae’n hynod falch ohono, gan nad yw o gefndir Michelin. Yna llwyddodd i gael seren Michelin yn 2016 yn ei fwyty ei hun, a agorodd yn 2014. Mae ganddo hefyd dri o Rosynnau AA ac ef oedd enillydd y Great British Menu ar gyfer Cymru yn 2009, 2010 a 2012 cyn cael ei enwi’n gogydd y flwyddyn dros Gymru yn 2017 yng Ngwobrau Bwyd Cymru.

Meddai James: “Mae’r rhain yn amseroedd ansicr i bawb ond mae’r diwydiant lletygarwch a hamdden wedi cael ei daro’n arbennig o wael gan y pandemig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ddal ati i symud ymlaen a gyda chymorth Banc Datblygu Cymru a Croeso Cymru rydym bellach wedi agor ein menter nesaf gyda chynlluniau wrth gefn i sicrhau y gallwn addasu i sicrhau mesurau pellhau cymdeithasol wrth iddynt esblygu. Mae hyn yn cynnwys cynnig gwasanaeth cludo a dosbarthu ochr yn ochr â'r prif fwyty.

“Gyda chefnogaeth ein cyllidwyr, mae gennym yr hyder i fuddsoddi ac edrychwn ymlaen at ddyfodol llwyddiannus, beth bynnag ddaw yn ystod y misoedd nesaf ar ein cyfer ni i gyd.”

Dywedodd Donna Strohmeyer o Fanc Datblygu Cymru: “Mae James yn gogydd talentog uchel ei barch ac mae ganddo ddilyniant gwych. Mae'n haeddu llwyddiant ac ni allaf feddwl am leoliad gwell na'r Goods Shed ar gyfer ei fwyty newydd. Fel stryd drefol gyntaf y DU lle mae pobl yn gallu byw, gweithio a chwarae, mae hon yn gymuned ac yn gyrchfan ynddo'i hun a fydd yn gartref penigamp i James a'i dîm .

“Yn holl bwysig, mae gan James gefnogaeth Croeso Cymru hefyd felly bydd yn elwa o farchnata ychwanegol i ddenu ymwelwyr. Mae'n gynnig cymhellol yr ydym yn falch iawn o'i gefnogi.”