Simon Thelwall-Jones yn cymryd awenau’r tîm technoleg sy'n tyfu drosodd ym Manc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
simon thelwall-jones

Mae Simon Thelwall-Jones, buddsoddwr ecwiti profiadol, wedi ymuno â'r banc datblygu fel Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Menter Technoleg, yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i'r tîm arbenigol. Mae Simon wedi'i leoli ym mhencadlys newydd y banc datblygu yn Wrecsam.

Mae Simon yn cymryd drosodd gan Steve Smith a arweiniodd y tîm o'r adeg pan y'i crëwyd hyd nes iddo ymddeol ym mis Ebrill 2019. Mae'r cyfarwyddwr mentrau technoleg newydd wedi symud o MSIF, lle mae wedi bod yn buddsoddi cronfeydd ecwiti o Gronfa Fuddsoddi Pwerdy'r Gogledd yn ddiweddar i mewn i dechnoleg cyfnod cynnar busnesau yn Rhanbarth Dinas Lerpwl.

Mae Simon yn gyfrifydd siartredig cymwysedig gyda gradd mewn Rheoli Busnes Amaethyddol o Brifysgol Llundain. Mae wedi bod yn gweithio ym maes cyfalaf menter ers y 1990au cynnar.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'r banc datblygu ar yr adeg hon. Rwy'n awyddus i adeiladu ar etifeddiaeth Steve a blwyddyn lwyddiannus y tîm o ran buddsoddiadau yn ddiweddar,” eglurodd Simon.

Cefnogwyd bron i hanner cant o fusnesau technoleg gan dîm technoleg y banc datblygu ym mlwyddyn ariannol 2018/19. Gwnaed buddsoddiadau ecwiti technoleg gwerth £17.2 miliwn ac fe wnaeth hynny ysgogi £35.1 miliwn ychwanegol gan gyd-fuddsoddwyr a'r sector preifat, a dod i gyfanswm o £52 miliwn o fuddsoddiad.

Roedd Banc Datblygu Cymru unwaith eto yn un o'r pum prif fuddsoddwr ecwiti yn ôl cyfaint cytundebau yn y DU, yn ôl adroddiad blynyddol 2018 Beauhurst.

“Cyn ymuno â'r tîm, bûm yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru a'u his-gwmni FW Capital ar nifer o fargeinion fel cyd-fuddsoddwr ac roedd gwaith a phroffesiynoldeb y staff bob amser yn creu argraff dda, yn ogystal â naws buddsoddi'r cwmni,” ychwanegodd Simon.

“Mwya'n byd o ddiwydrwydd dyladwy wnes i ei wneud ar y Banc Datblygu Cymru, gorau oll oedd yr argraff a gefais. Rydw i wrth fy modd fy mod yn ymuno ar adeg o dwf, ar gyfer y banc datblygu, y tîm technoleg a'r sector technoleg yng Nghymru. Fy ffocws i yw meithrin a thyfu mwy o fusnesau technoleg ledled Cymru, gan adeiladu ar y clystyrau presennol ac annog mwy. Hoffwn hefyd estyn allan at gyd-fuddsoddwyr yr ydym wedi gweithio gyda nhw a'r rhai nad ydym wedi gweithio â nhw i gefnogi'r entrepreneuriaid niferus yma yng Nghymru gyda syniadau gwych a photensial masnachol gwirioneddol.”

Croesawodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru, y penodiad newydd:

“Mae gan Simon enw da yn y byd buddsoddi ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi denu rhywun o'i safon i'r banc datblygu. Mae'n ymuno gydag aelodau allweddol eraill o'n uwch dîm yn ein pencadlys yn Wrecsam ond mae'n awyddus i weithio gydag entrepreneuriaid a busnesau ledled Cymru. Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y sector technoleg yng Nghymru, gyda chefnogaeth buddsoddiadau ecwiti gennym ni a gan bartneriaid. Mae Simon a'i dîm sy’n cynyddu yn edrych ymlaen at weithio gyda rhai o gwmnïau twf mwyaf cyffrous y wlad wrth iddynt ddatblygu technolegau newydd.”

Mae Banc Datblygu Cymru ar hyn o bryd yn bwriadu ehangu eu tîm buddsoddiadau technoleg gyda rolau ar gael yn eu swyddfeydd yn Wrecsam, Caerdydd a Llanelli.