Sports Injury Fix yn paratoi ar gyfer twf

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
sports

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Sportsinjuryfix.com.

Mae Sportsinjuryfix.com wedi cael hwb pellach i'w llwyddiant parhaus yn sgil penodiad dau gyfarwyddwr anweithredol o fri: Dr Rod Jaques, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol gyda Sefydliad Chwaraeon Lloegr sydd hefyd yn Ymgynghorydd mewn Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Mike Costain, Cyfarwyddwr digwyddiadau masnach blaenllaw'r DU ym maes gweithgarwch corfforol, gan gynnwys ELEVATE, Copa a'r Expo Sports Expo.

Yn ddiweddar, mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi yn Sportsinjuryfix.com. Meddai Alex Leigh a arweiniodd y fargen:

"Mae'r cwmni'n mynd ati i dargedu'r sector therapi sydd aml yn cael ei gamddeall. Bydd ein cyllid ariannu yn cefnogi cam olaf datblygu'r dechnoleg, costau gweithredol a marchnata. Mae hyn yn golygu ei fod yn addas iawn ar gyfer Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru sy'n cefnogi cwmnïau technegol cyfnod cynnar fel Sports Injury Fix ac mae'n eu helpu i ddod â'u cynnyrch i'r farchnad. Mae Banc Datblygu Cymru yn falch o gefnogi Sports Injury Fix ac mae'n dymuno pob llwyddiant iddynt."

Meddai Dr Rod Jaques, "Rwy'n falch iawn fy mod yn ymuno â Sports Injury Fix fel cyfarwyddwr anweithredol. Mae Sports Injury Fix yn cyflawni swyddogaeth sydd mawr ei angen ar gyfer dynion a merched sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, sef eu cyfarwyddo, yn gynnar yn ystod eu taith, i gael y bobl broffesiynol cywir gyda'r set sgiliau cywir, agosaf atynt."

Dywedodd Malcolm Sloan, Prif Weithredwr Sportsinjuryfix.com,

"Fe wnes i sefydlu Sportsinjuryfix.com fel gwefan am ddim i helpu pobl fel fi fy hun. Mae ei weld rwan wedi tyfu mor gyflym, ac wedi cynorthwyo cymaint o bobl a chael pobl fel Dr Rod Jaques a Mike Costain yn ymuno â ni i helpu hyd yn oed mwy o bobl yn gwbl anhygoel."

Sefydlwyd Sportsinjuryfix.com mewn ymateb i'r problemau y mae'r cyhoedd yn eu cael wrth gael mynediad at y gweithiwr proffesiynol iawn i drin eu hanaf chwaraeon.

Gyda rhestrau aros y GIG yn aml yn fisoedd o hyd, mae nifer cynyddol o bobl yn dewis cael triniaeth anaf yn breifat.

Mae Sportsinjuryfix.com yn cadw manylion miloedd o therapyddion sy'n cynnig ffisiotherapi, therapi chwaraeon, sy'n cynnig gwasanaeth tylino perthnasol i chwaraeon a sgiliau tebyg.

Gall cleientiaid chwilio amdanynt gan ddefnyddio gwahanol newidynnau, gan gynnwys ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn trin anafiadau yn eu maes chwaraeon a'r anaf sydd ganddynt. Mae'r wefan yn symleiddio'r broses, gan alluogi pobl i gysylltu yn gyflym â'r gweithiwr proffesiynol sydd yn y sefyllfa orau i'w helpu. Cyflwynir system archebu ar-lein a chymorth meddalwedd ychwanegol i'r therapyddion ar y wefan yn y dyfodol agos.