Teithiau Cwch Antur Rib Ride Adventure Boat Tours yn sicrhau cefnogaeth o £150,000 gan Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru i ehangu'r cynnig twristiaeth forol drwy gydol y flwyddyn

Andrea-Richardson
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
RibRide

Mae Rib Ride Adventure Boat Tours, sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, wedi sicrhau buddsoddiad o £150,000 gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi prynu cwch pwmpiadwy anhyblyg newydd o'r radd flaenaf, gan gryfhau yr hyn a gynigir ganddynt drwy gydol y flwyddyn ac ymestyn tymor ymwelwyr ar y Fenai.

Daw'r benthyciad gan Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru ac mae wedi caniatáu i Rib Ride i brynu a chyd-osod cwch pwmpiadwy anhyblyg TITUS 10.5 metr gyda thrawst 3 metr, wedi'i bweru gan ddau beiriant Honda V8. Wedi'i farchnata fel Explorer, mae'r cwch newydd wedi'i chynllunio i fod yn un sy’n gallu gwrthsefyll y tywydd yn well ac mae hi’n gallu ymgymryd â theithiau hirach drwy gydol y flwyddyn, gan helpu'r busnes i weithredu y tu hwnt i'r tymor twristiaeth traddodiadol ac i mewn i fisoedd ysgwydd y tymor.

Y cyfarwyddwyr Phil Scott a Tom Ashwell a sefydlodd ac sy’n berchen ar Rib Ride, ac mae’n un o fusnesau twristiaeth forol mwyaf adnabyddus Gogledd Cymru. Bellach yn gweithredu yn ei 20fed flwyddyn, mae'r busnes wedi tyfu o un cwch a chapten i fod yn sylfaen drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgareddau morol, gan ddenu mwy na 20,000 o ymwelwyr i Borthaethwy bob blwyddyn.

Bydd y llong newydd hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer hyfforddi capteiniaid a chyflogaeth criw ychwanegol, gan gefnogi datblygu sgiliau o fewn y sector morol. Mae Rib Ride eisoes yn gweithredu fel canolfan hyfforddi a datblygu sgiliau morol, yn cyflogi staff drwy gydol y flwyddyn, yn gweithio gyda mwy na 15 o gontractwyr hunangyflogedig tymhorol, ac yn cefnogi rhwydwaith eang o gyflenwyr lleol.

Yn ogystal â'i deithiau cychod antur craidd, mae'r busnes yn rhedeg clwb cychod preifat i aelodau, yn gweithredu'r unig gyfleuster storio a lansio cychod yn ystod pob math o lanw ar y Fenai, ac mae'n gartref i ysgol ffoilio trydan gyntaf y DU.

Dywedodd Phil Scott, Cyfarwyddwr Rib Ride Adventure Boat Tours: “Mae’r buddsoddiad hwn yn caniatáu i ni gymryd cam sylweddol ymlaen fel busnes. Mae’r llong Explorer newydd wedi caniatáu i ni gynnig mwy o deithiau siarter drwy gydol y flwyddyn, gan ymestyn ein tymor a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth.

“Rydym wedi treulio 20 mlynedd yn adeiladu Rib Ride yn weithrediad morol o ansawdd uchel, sy’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r gefnogaeth hon gan Fanc Datblygu Cymru yn ein helpu i barhau â’r daith honno wrth ddod â mwy o ymwelwyr i’r Fenai.”

Dywedodd Andrea Richardson, Uwch Swyddog Gweithredol Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Rib Ride yn fusnes twristiaeth sefydledig sydd ag enw da wedi ei hen sefydlu, mae’n meddu ar lwybr twf clir a model ar gyfer gweithredu drwy gydol y flwyddyn.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu’r busnes i ymestyn ei dymor, cryfhau sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth, a pharhau i ddenu ymwelwyr i Ogledd Cymru wrth gefnogi’r economi forol leol.”

Mae Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru, gwerth £50 miliwn, yn darparu benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gyfer prosiectau twristiaeth nodedig yng Nghymru, gyda thelerau ad-dalu o rhwng 10 a 15 mlynedd.

Gall prosiectau gynnwys cynhyrchion arloesol o ansawdd uchel, atyniadau pob tywydd, profiadau sy'n canolbwyntio ar ymwelwyr Cymreig yn benodol, prosiectau diwylliannol neu dreftadaeth arloesol, lleoedd anarferol i aros ac atyniadau blaenllaw.