
Mae’r brawd a’r chwaer Matthew Hamer a Katie Hamer-Grew yn trawsnewid eu fferm deuluol 32 erw ger Llanidloes yn encil moethus mewn ardal o goetir.
Ar ôl cael caniatâd cynllunio ar gyfer 60 o gabanau moethus, dechreuodd y gwaith ar Penybanc Woods yn 2018 pan grëwyd ffordd fynediad newydd. Mae benthyciad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu bod y parc llety gwyliau bellach wedi gosod y prif gyfleustodau a sylfeini ar gyfer 18 o gabanau dwy neu dair ystafell wely - ac mae tri ohonynt wedi’u gwerthu’n barod.
Gyda phrisiau’n dechrau ar £180,000 ar gyfer llety dwy ystafell wely, gall prynwyr ddewis y plot maen nhw am ei gael ynghyd â manylion eu llety eu hunain. Mae gan y datblygiad drwydded weithredu 12 mis at ddibenion gwyliau.
Mae Penybanc Woods yn encil tawel ar fferm deuluol gwta ddwy filltir o dref farchnad hanesyddol Llanidloes. Mae yno lyn pysgota a golygfeydd godidog o Ddyffryn Hafren Uchaf. Mae hefyd yn cynnig llwybrau troed a llwybrau marchogaeth hardd.
Dywedodd Katie Hamer-Grew: “Doedd 2020 ddim yn adeg ddelfrydol i dechrau menter newydd ond mae Llanidloes, ein tref ni, yn golygu llawer i ni ac rydyn ni’n awyddus i wneud ein gorau glas i annog ymwelwyr a chefnogi’r economi leol. Ar ôl bod yn berchen ar siop gig sydd wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau, rydyn ni am i bobl ddod i aros yn ‘Llani’ a helpu ein tref fach i ffynnu.
“Dyna pam ein bod wedi manteisio ar y cyfle i arallgyfeirio a thrawsnewid ein fferm deuluol yn barc gwyliau moethus. Fodd bynnag, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb y buddsoddiad a’r cymorth gan y Banc Datblygu. Nhw sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eu help.”
Dywedodd Scott Hughes, Swyddog Gweithredol Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Gydag anturiaethau ac atyniadau i’w mwynhau o fewn tafliad carreg, mae Llanidloes yn cynnig amrywiaeth o dafarndai, bwytai a siopau annibynnol, marchnad Sadwrn wythnosol a digon o hanes sy’n ei wneud yn gyrchfan wych i dwristiaid a pherchnogion ail gartrefi.
“Mae Covid-19 wedi creu heriau a chyfleoedd i ni gyd, ond rydyn ni’n dal yn frwd ynghylch cefnogi busnesau ledled Cymru ac mae gennym ni dimau lleol sy’n gallu helpu gyda chyllid lle bynnag y bo angen. Nid yw’r pandemig wedi atal Matthew a Katie rhag arallgyfeirio a buddsoddi yn eu dyfodol – maen nhw’n enghraifft wych o sut gellir gwireddu gweledigaeth; gwireddu breuddwydion a bod o fudd i’r economi leol. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw.”
Daeth y cyllid o Gronfa Busnes Cymru sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cafodd y gronfa ei chreu’n benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rheini sy’n barod i symud i Gymru.