Tour de Cymru yn codi £33,000 ar gyfer elusen leol

Emma-Phillips
Rheolwr Gweithrediadau Hunan Adeiladu Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
tour de cymru

Efallai nad dyma'r 'tour de France' ond mae'r 'tour de Cymru' wedi helpu i godi £33,000 ar gyfer elusen leol 2 Wish Upon A Star.

Cwblhaodd 18 o staff o’r Banc Datblygu Cymru her seiclo enfawr o 280 milltir, a oedd yn ymgorffori'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae eu her codi arian wedi dod â'r cyfanswm a godwyd i £33,440 ar gyfer 2 Wish Upon A Star, elusen enwebedig y flwyddyn ar gyfer 2017/18.

Ymhlith uchafbwyntiau codi arian eraill y staff yn ystod y flwyddyn roedd dawns  elusennol ar thema syrcas, diwrnod chwaraeon, pobi cacennau, cwis a rafflau.

Sefydlodd Rhian Mannings Burke 2 Wish Upon A Star yn 2012 ar ôl colli ei mab George yn fuan ar ôl ei ben-blwydd cyntaf. Dim ond pum niwrnod yn ddiweddarach collodd ei gŵr Paul hefyd. Yn dilyn y digwyddiadau trasig hyn, canfu Rhian gryfder anhygoel i sefydlu'r elusen i sicrhau bod teuluoedd sy'n dioddef ar fyr rybudd yn derbyn cymorth digonol.

Dywedodd: "Ni allwn ddiolch digon i'r Banc Datblygu Cymru am eu cefnogaeth anhygoel dros y 12 mis diwethaf.

"Y llynedd, fe wnaethon gefnogi 160 o deuluoedd a gollodd blentyn neu oedolyn ifanc yn sydyn ac eleni rydym wedi derbyn hyd yn oed mwy o atgyfeiriadau. Mae'r arian y mae'r Banc Datblygu Cymru wedi ei godi yn helpu cymaint. Mae'n darparu blychau cof, helpu i adnewyddu cyfleusterau profedigaeth a chynorthwyo teuluoedd trwy'r adegau tywyllaf un. Heb gymorth fel hyn, ni fyddwn yn gallu parhau â'r gwaith yr ydym yn ei wneud felly diolch i chi."

Rheolwr gweithrediadau Angylion Buddsoddi Cymru, Emma Phillips, a enwebodd 2 Wish Upon A Star gyntaf fel yr elusen a dewisol ar gyfer 2017/18. Dywedodd: "Mae wedi bod yn flwyddyn wych ar gyfer codi arian ac rwy'n hynod o falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni ar gyfer Rhian a'r tîm yn 2 Wish Upon A Star.

Dywedodd Sian Price, Rheolwr y Tîm Strategaeth, sy'n arwain ein gweithgareddau busnes cyfrifol: "Mae ein gweithgareddau codi arian yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r elusennau yr ydym yn eu cefnogi. Mae gennym hefyd raglen allgymorth gymunedol lwyddiannus gyda dau dîm wedi cymryd rhan yn Niwrnodau Gweithredu Busnes yn y Gymuned Cymru 2018. Fe wnaeth tîm Caerdydd wirfoddoli i wella'r maes chwarae yn Ysgol Gymraeg Casnewydd, tra bo' tîm Gorllewin Cymru wedi ymgymryd â gwaith DIY a garddio yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ym Mryncoch yng Nghastell-nedd. Roedd yn waith caled ond yn werth pob munud o ymdrech i weld y canlyniadau terfynol.

"Mae ein tîm ni wirioneddol yn cofleidio ein helusen a'n gwaith allgymorth. Nawr, byddwn ni i gyd yn dod at ei gilydd i godi arian sydd mawr ei angen ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig fel ein helusen ar gyfer 2018/19."

Mae'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig yn ariannu ymchwil blaengar, yn codi safonau gofal a chefnogi pobl sy'n dodded gyda'r cyflwr a'u hanwyliaid. Meddai Gemma Williamson, codwr arian cymunedol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein dewis fel elusen Banc Datblygu Cymru a gyda'r cynlluniau cyffrous sydd ganddynt eisoes ar y gweill ar ein rhan.

"Fel elusen ddielw, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth o'r fath i'n galluogi i barhau â'r gwaith gwych yr ydym yn ei wneud yn yr Ymddiriedolaeth yn gweithio tuag at fywyd heb gyfyngiadau i bawb sy'n cael eu heffeithio gan Ffibrosis Cystig. Hoffem ddweud diolch enfawr i bawb."

Mae Action Medical Research a Hosbis Plant Tŷ Derian hefyd wedi elwa o gael  cyfraniadau o £2,688 yn ystod 2017/18.