Trameto yn sicrhau cyllid ail rownd gan Fanc Datblygu Cymru ac ublox AG

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Cyhoeddodd Trameto, arloeswr ICs rheoli pŵer cynaeafu ynni craffach (EH PMIC), ddoe ei fod wedi llwyddo i gau ail rownd yr arian sbarduno gyda phartneriaid buddsoddi Banc Datblygu Cymru ac ublox AG ( SIX: UBXN), darparwr byd-eang blaenllaw technolegau a gwasanaethau lleoli a chyfathrebu diwifr.

Mae Banc Datblygu Cymru yn fuddsoddwr ecwiti presennol ac yn sylwedydd bwrdd, a bydd u-blox AG hefyd yn ymuno â'r bwrdd fel sylwedydd.

Wrth sôn am y buddsoddiad, dywedodd Huw Davies, Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd, “Mae’r rownd ariannu hon yn ein galluogi i gychwyn ar ran nesaf ein taith i ymgysylltu’n ehangach â’r farchnad i gwblhau a hyrwyddo ein datrysiadau PMIC cynaeafu ynni OptiJoule ®.

Mae cwrdd â'r galw i ddileu neu leihau'r ddibyniaeth ar fatris a ddefnyddir mewn dyfeisiau Rhyngrwyd o Bethau (RhoB) diwifr yn un o'r marchnadoedd cymwysiadau cychwynnol yr ydym yn mynd i'r afael â nhw. Mae dull cynaeafwr-agnostig ac ymreolaethol OptiJoule yn cynnig hyblygrwydd dylunio sylweddol ac arbedion cost BOM i weithgynhyrchwyr dyfeisiau RhoB."

Cafodd Trameto fuddsoddiad gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr UE, a chredir mai hwn yw’r cwmni cyntaf o Gymru i elwa ar fenter grant Cam 2 Offeryn Busnesau Bach a Chanolig. Trameto hefyd yw'r cwmni Ewropeaidd cyntaf i gael ei dderbyn i Silicon Catalyst o Galiffornia, yr unig raglen ddeor yn y byd sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar gyflymu busnesau sy’n dechrau o#r newydd ym maes lled-ddargludyddion. Yn ddiweddar, enillodd technoleg cynaeafu ynni Trameto gydnabyddiaeth bellach gan y diwydiant trwy ennill gwobr Cynnyrch Pŵer y Flwyddyn Elektra 2021.

"Rydym yn falch iawn o gymryd rhan yn ail rownd cyllid sbarduno Trameto," dywed Dr. Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru. “Mae ymgorffori batris mewn synhwyrydd diwydiannol yn cloi i bob pwrpas yr angen i gael rhai newydd yn eu lle yn rheolaidd, gan amharu ar gynhyrchu a chyfrannu at gostau gweithredu a chynnal a chadw uchel drwy gydol eu hoes.

"Mae OptiJoule EH PMIC Trameto yn cynnig y ffordd symlaf, fwyaf effeithiol a darbodus o greu datrysiadau RhoB di-wifr hunangynhaliol. Mae Huw a'r tîm wedi gwneud cynnydd eithriadol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Trameto, Silicon Catalyst a nawr ublox fel ein cyd-fuddsoddwr corfforaethol newydd."

Tony Milborn, Strategaeth Gorfforaethol, ublox AG, "Mae gan Trameto weledigaeth glir i helpu gweithgynhyrchwyr i fabwysiadu dull amgen o bweru dyfeisiau RhoB. Yn wahanol i dechnegau cynaeafu ynni presennol sy'n gofyn am ymdrech ddylunio sylweddol ar gyfer gwahanol fathau o gynaeafwyr, mae OptiJoule yn addasu'n annibynnol i unrhyw rai , llawer, a thechnolegau cynaeafu lluosog.”

Be' nesaf?

Eisiau trafod eich menter ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni

 

Cysylltu â ni