Tregroes Waffles yn cynyddu cynhyrchiant

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
tregoes waffles

Bydd buddsoddiad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru yn galluogi cwmni waffls i ehangu ei gynhyrchiant presennol er mwyn diwallu gofynion manwerthwr cenedlaethol.

Mae Tregroes Waffles, a sefydlwyd yn Llandysul gan Kees Huysmans, wedi bod yn pobi waffls blasus i bobl Cymru a thu hwnt ers dros 30 o flynyddoedd.

Yn hanu’n wreiddiol o’r Iseldiroedd, symudodd Kees i Gymru i ffermio.  Dysgodd y Gymraeg gan ymroi i fod yn rhan o fywyd cymunedol Tregroes a phobi ei waffls i’w gwerthu mewn marchnadoedd.

Roedd yr waffls yn llwyddiant ysgubol, a thros 30 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Kees yn rhedeg ei gwmni llwyddiannus ac mae’r galw am ei gynnyrch yn cynyddu.

Llwyddodd Tregroes i brynu llinell gynhyrchu waffls arall gyda’r benthyciad, a gafodd ei phrynu dramor a’i hadnewyddu yn yr Iseldiroedd, cyn iddi gael ei dosbarthu i’w chartref newydd yn y becws yng Ngorllewin Cymru.

Mae’r busnes yn cynhyrchu 4,000 o waffls yr awr ar hyn o bryd.  Bydd y peiriant newydd hwn yn ei alluogi i ddyblu’r gyfradd niferoedd a mwy.

Mae Tregroes hefyd yn edrych ymlaen at allu gwneud waffls o wahanol faint gyda’r peiriant hwn, a fydd yn dechrau cael eu cynhyrchu ddiwedd 2020.

Drwy gynyddu’r lefelau cynhyrchu, bydd y cyllid yn helpu’r cwmni i ddiwallu’r galw mawr – galw sydd ar gynnydd - am ei waffls, gan sicrhau bod mwy o gwsmeriaid mewn archfarchnadoedd cadwyn a chyfanwerthwyr yn gallu mwynhau’r danteithion hyn.

Bydd yr estyniad hefyd yn creu swyddi lleol yn Llandysul, ac mae’r cwmni’n cyflogi 18 o bobl ar hyn o bryd.

Meddai’r sylfaenydd Kees Huysmans: “Mae’r farchnad yn y DU ar gyfer ein waffls yn prysur dyfu ac rydym eisoes yn cyflenwi llawer o siopau ledled y DU, gan gynnwys rhai o’r siopau o fri yn Llundain a nifer o archfarchnadoedd cenedlaethol. Rydym yn gyffrous ac yn falch o allu ychwanegu’r capasiti cynhyrchu hwn at y becws, a bydd yn sylfaen wych ar gyfer y dyfodol.

“Roedd y Banc Datblygu yn barod iawn ei gymwynas yn ystod y broses o wneud cais ac yn amserol iawn o ran cael gafael ar y cyllid.  Rydym bellach yn paratoi i sicrhau bod y peiriannau newydd yn rhan o’r broses gynhyrchu yn gynnar yn y flwyddyn newydd.”

Meddai Richard Easton, y Swyddog Portffolio Gweithredol: “Mae busnes Tregroes Waffles yn un uchel ei barch a chanddo restr o gwsmeriaid cenedlaethol sy’n tyfu. Roedd cael mynediad cyflym at gyllid yn rhan allweddol o’r broses o alluogi’r cwmni i brynu peiriant pwrpasol i fodloni gofynion contractau newydd sy’n tyfu’n gyflym.

“Crëwyd Banc Datblygu Cymru ar gyfer busnesau megis Tregroes; i ariannu twf cyllid yn yr hirdymor yn ogystal â chael buddsoddiad dilynol a chyfalaf gweithio ychwanegol wrth i’r busnes dyfu.”

Daeth y cyllid o Gronfa Fusnes Cymru a ariennir yn rhannol gan yr ERDF, drwy Lywodraeth Cymru. Fe’i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rhai sy’n barod i symud yma.